Neidio i'r cynnwys

Imiwneiddio a brechlynnau

Mae Brechu yn achub bywydau. Brechu yw’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a’n plant rhag salwch. Maent yn atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.

Sefydlwyd Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2005. Mae’n denu cefnogaeth gan amrywiaeth o bartneriaid presennol ar draws GIG Cymru a thu hwnt i gefnogi dull cenedlaethol o imiwneiddio a brechu.

Pam mae brechlynnau’n bwysig?

Pwysigrwydd i blant

Mae’n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael eu himiwneiddio’n llawn i’w diogelu rhag afiechydon difrifol posibl. Mae salwch a fu unwaith yn gyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin yn y DU oherwydd imiwneiddio. Ond er bod polio wedi’i ddileu yn Ewrop, nid yw bygythiad afiechydon eraill, fel y frech goch a llid yr ymennydd, wedi diflannu yn y DU heddiw.

Dylai rhieni sydd â phryderon neu ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddio eu plentyn eu trafod gyda’u meddyg teulu, ymwelydd iechyd, nyrs eu meddygfa neu’r nyrs ysgol.

Pwysigrwydd i oedolion

Mae imiwneiddio yn ddigwyddiad gydol oes ac mae oedolion hefyd yn elwa o gael eu himiwneiddio. Mae’n bwysig bod oedolion wedi cael eu holl frechlynnau rheolaidd mewn plentyndod.

Bydd angen imiwneiddio ychwanegol ar rai pobl gan eu bod mewn mwy o berygl oherwydd eu hoedran neu gyflwr iechyd, neu i ddiogelu eu hiechyd yn y gwaith neu wrth deithio. Ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl o gymhlethdodau’r ffliw, argymhellir y brechlyn ffliw blynyddol. Mae brechlyn niwmococol yn cael ei argymell hefyd i helpu i ddiogelu pobl sydd mewn mwy o berygl o gael afiechyd niwmococol.

Rydym hefyd wedi wynebu’r heriau digynsail o gyflwyno un o’r rhaglenni brechu cyflymaf a mwyaf cynhwysfawr wrth ddarparu brechlynnau COVID-19 ac mae’n bwysig bod pawb sy’n gymwys i gael eu brechu yn gwneud hynny pan gânt eu gwahodd.

Canllaw i frechiadau i bobl aganabledd dysgu

Mae’r canllaw yn esbonio pam mae brechlynnau’n bwysig, sut maent yn gweithio, a’r broses o gael brechlyn.

Gwybodaeth a goruchwyliaeth brechu

Mae tudalen Goruchwyliaeth imiwneiddio yn dod â gwybodaeth allweddol ynghyd am raglenni brechu yng Nghymru, gan gynnwys adroddiadau gwyliadwriaeth, defnydd o ddata, ac adnoddau ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Data