Animeiddiadau brechlynnau: adroddiad ymchwil a phrofi gyda chynulleidfaoedd
Awduron: Social Change
Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2026
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Enter textMae Rhaglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi comisiynu gwaith ymchwil yn flaenorol tuag at ddatblygu adnoddau gwybodaeth ynghylch brechu â brechlynnau HPV a ffliw ar gyfer oedran ysgol uwchradd.
O ganlyniad i’r gwaith hwn, casglwyd mewnwelediadau ynghylch y math o fformat, arddull a chynnwys sydd orau gan bobl ifanc, a datblygwyd animeiddiadau ar gyfer pob un o’r brechlynnau hyn. Mae gwaith blaenorol wedi tynnu sylw at y ffaith ei bod yn well gan bobl ifanc adnoddau gwybodaeth clyweledol (animeiddiadau), yn bennaf i’w dangos mewn lleoliadau addysgol fel gwasanaethau ysgol ac ystafelloedd dosbarth, gydag asedau ategol sy’n cynnwys taflenni y gallan nhw wedyn eu rhannu gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwaid.
I adeiladu ymhellach ar y mewnwelediadau hyn, comisiynodd ICC Social Change i gynnal grwpiau ffocws gyda phlant ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 9 a 10 i lywio gwaith i gyd-gynhyrchu dau animeiddiad arall gydag asedau ategol yn targedu pobl ifanc yn y grŵp oedran hwn. Mae un animeiddiad ac un grŵp ffocws ar y brechiad atgyfnerthu 3-mewn-1 (sydd hefyd yn cael ei alw’n frechlyn Td/IPV), tra bo’r animeiddiad a’r grŵp ffocws arall yn ymwneud â brechlyn MenACWY. Dechreuodd y prosiect cyn gwyliau’r haf i ymgysylltu â myfyrwyr Blwyddyn 9 yn syth ar ôl i’w brechiadau ddigwydd, ond yn dilyn oedi dros gyfnod yr haf, fe ddilynon ni’r garfan hon i mewn i ddechrau Blwyddyn 10 i gofnodi eu profiadau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Animeiddiadau brechlynnau - adroddiad ymchwil a phrofi gyda chynulleidfaoedd
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Animeiddiadau brechlynnau - adroddiad ymchwil a phrofi gyda chynulleidfaoedd (3 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad wythnosol ar ffliw a heintiau anadlol acíwt
Lefel gweithgarwch presennol Tuedd Ffliw Allan o dymor Yn gostwng RSV Lefel sylfaenol Yn gostwng COVID-19 Lefelau isel Sefydlog yn gyffredinol Nid yw trothwyon cymharol ar gyfer dwysedd COVID-19 ar gael […]
Cyhoeddwyd: 13eg Mai 2026
-
Adroddiadau blynyddol gwyliadwriaeth ffliw a brechu rhag y ffliw
Yn ystod pob rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw (rhwng mis Hydref a mis Mawrth fel arfer), rhoddir crynodeb o ganran y rhai sy’n cael eu himiwneiddio bob wythnos yn yr adroddiad […]
Cyhoeddwyd:
-
Imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol
Mae bas data ar gyfer Cymru gyfan i gefnogi brechiad priodol i fabanod sy’n cael eu geni i famau gyda haint hepatitis B wedi cael ei ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus […]
Cyhoeddwyd:
-
Goruchwyliaeth ac epidemioleg y frech goch
Epidemioleg Mae’r frech goch wedi bod yn hysbysadwy yng Nghymru a Lloegr ers 1940, ac roedd yr hysbysiadau’n amrywio rhwng 160,000 ac 800,000 o achosion y flwyddyn, gyda phob anterth […]
Cyhoeddwyd:
-
Goruchwyliaeth ac epidemioleg clwy’r pennau
Epidemioleg Mae clwy’r pennau wedi bod yn hysbysadwy yng Nghymru a Lloegr ers mis Hydref 1988, yr un pryd â chyflwyno’r brechlyn MMR. Yn dilyn cyfnod hir o nifer isel […]
Cyhoeddwyd:
-
Goruchwyliaeth ac epidemioleg rwbela
Epidemioleg Cyn cyflwyno imiwneiddio rheolaidd, roedd rwbela yn gyffredin ymhlith plant pedair i naw oed. Digwyddai epidemig o rwbela bob 6 i 9 mlynedd. Cyflwynwyd imiwneiddio rhag rwbela yn y […]
Cyhoeddwyd:
Setiau data cysylltiedig
-
Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion o heintiau anadlol acíwt (ARI)
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Hysbysiadau o glwy’r pennau
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Hysbysiadau o rwbela
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Dangosfwrdd goruchwiliaeth COVID-19 cyflym Cymru
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Goruchwyliaeth brechlyn yr eryr
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Goruchwyliaeth brechlynnau MenACWY
Adolygwyd ddiwethaf: