Brechiadau i blant 5 i 16 oed
Mae brechiadau’n achub bywydau ac yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag afiechyd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod brechu yn atal dros 3.5 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn. Mae brechlynnau’n gweithio trwy ddysgu’r system imiwnedd i adeiladu ei hamddiffyniadau yn erbyn clefydau.
Y brechlynnau
Yn yr Amserlenni imiwneiddio arferol i Gymru gyfredol, mae pedwar brechlyn a gynigir yn rheolaidd i blant oedran ysgol a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Fel arfer rhoddir y brechlynnau hyn yn yr ysgol. Fodd bynnag, bydd rhai byrddau iechyd yn eu darparu trwy’r practis meddygon teulu.
Gellir cynnig y brechlynnau uchod i blant a phobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu haddysgu gartref, yn eu practis meddygon teulu neu mewn canolfan frechu gymunedol pan fydd yn bryd iddynt eu cael.
Efallai y cynigir brechlynnau eraill i blant a phobl ifanc â chyflyrau meddygol penodol hefyd. Efallai y bydd rhai brechlynnau a fethwyd yn gynharach mewn bywyd yn cael eu cynnig eto i blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod wedi’u hamddiffyn cyn iddynt adael yr ysgol.
A oes unrhyw beth arall ddylwn i ei wybod?
Bob tro y cynigir brechiadau i’ch plentyn yn yr ysgol, gofynnir i chi lenwi ffurflen gydsynio i roi caniatâd i’ch plentyn gael y brechiad. Gall hyn fod yn electronig neu ar ffurflen gydsynio bapur. Dylech lenwi’r ffurflen(ni) cydsynio a’u dychwelyd cyn gynted â phosibl erbyn y dyddiad gofynnol.
Gall pobl ifanc 16 oed a hŷn gydsynio drostynt eu hunain. Mewn rhai achosion, efallai y bydd pobl ifanc o dan 16 oed yn gallu cydsynio eu hunain. Gall hyn ddigwydd os ydyn nhw’n ddigon aeddfed i ddeall yn llawn yr hyn sy’n cael ei gynnig. Gelwir hyn yn gymhwysedd Gillick (Saesneg yn unig). Mae dal yn well bod rhieni/gwarcheidwaid yn rhan o’r broses gydsynio. Rydym yn eich annog i siarad â’ch plentyn am y brechiad cyn y sesiwn.
Adnoddau pellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am frechiadau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, mae yna ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud:
- Darllenwch ragor o wybodaeth am frechu gan y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP)
- Ffoniwch neu ewch i wefan GIG 111 Cymru
- Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol – nyrs yr ysgol, nyrs y practis neu feddyg teulu
Gallwch ddarganfod sut mae’r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth.
Rhaglen dal i fyny oedran ysgol
Mae’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) wedi datblygu dau arolwg byr, dienw i gasglu gwybodaeth am y rhwystrau, y galluogwyr a’r cymhellion dros fynychu apwyntiadau brechu dal i fyny. Mae un arolwg ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid, ac un ar gyfer pobl ifanc.
Er mwyn ein helpu i gasglu adborth, mae VPDP wedi cynhyrchu poster a cherdyn post, sy’n cynnwys codau QR sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r arolygon. Mae’r adnoddau rhad ac am ddim hyn ar gael i’w harchebu yma, ac fe’u bwriedir i’w defnyddio mewn clinigau brechu a lleoliadau perthnasol eraill.
Comigau ac animeiddia au clyweledol wedi’u gwneud gyda phobl ifanc
Mae VPDP wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu cyfres o adnoddau brechu yn benodol ar gyfer ysgolion a staff ysgolion.
- Beth yw’r Brechlyn HPV?
- Beth yw’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 i arddegwyr?
- Beth yw’r brechlyn MenACWY?
- Beth yw’r brechlyn ffliw?
Gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer ysgolion
- Frechu Papilomafeirws Dynol (HPV): Dogfen friffio
- Frechu Brechiad Atgyfnerthu 3 mewn 1 i Bobl Ifanc yn eu Harddegau a MenACWY: Dogfen friffio
- Imiwneiddio Rhag Ffliw 2025-26: Dogfen friffio
- Brechlynnau Mewn Ysgolion – Arweiniad i Ysgolion: Cynorthwyo’r gwaith o weinyddu a rheoli rhaglenni brechu plant a ddarperir mewn ysgolion (Llywodraeth Cymru, 2025) – Dan adolygiad.
- Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol
- Cyngor ac arweiniad i Brifysgolion a Cholegau Preswyl
- Diogelu Iechyd mewn Lleoliadau Plant a Phobl Ifanc (Gan gynnwys Addysg)
- Y frech goch a’r Rhaglen Frechu MMR/MMRV: Dogfen friffio
Helwyr heintiau
Cofrestrwch Nawr! Byddwch yn rhan o Gynllun Peilot Cymru Gyfan
Mae Helwyr Heintiau yn rhaglen ddysgu sy’n seiliedig ar gemau a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac a dreialwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ei nod yw cryfhau dealltwriaeth o lythrennedd brechlynnau ac iechyd y cyhoedd ymhlith disgyblion, gan gefnogi athrawon i gyflwyno cynnwys deniadol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm.
Drwy gemau digidol, modiwlau rhyngweithiol, a gweithgareddau ystafell ddosbarth myfyriol, mae disgyblion yn archwilio sut mae brechlynnau’n gweithio, pam maen nhw’n bwysig, a sut i adnabod gwybodaeth anghywir gyffredin sy’n gysylltiedig ag iechyd ac imiwneiddio.
Cliciwch yma i gofrestru a chymryd rhan yng nghynllun peilot dwyieithog Cymru Gyfan 2025/26.
Gallwch gyrchu a lawrlwytho holl adnoddau’r rhaglen drwy ein halbwm BrandKit Helwyr Heintiau (mae angen cofrestru am ddim).
Trefnwch eich Cyfarfod Croeso Helwyr Heintiau heddiw
Mae ysgolion yn cael eu hannog i fynd i Gyfarfod Croeso Helwyr Heintiau dan arweiniad tîm Helwyr Heintiau y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP). Mae pob sesiwn yn rhoi cyflwyniad i blatfform Helwyr Heintiau, ac yna sesiwn Holi ac Ateb agored wedi’i chynllunio i ateb unrhyw gwestiynau cychwynnol a chefnogi ysgolion i ddechrau arni gyda hyder. Estynnir gwahoddiad hefyd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid eraill sy’n cefnogi ysgolion i weithredu neu gyflwyno Helwyr Heintiau fynychu.
I fynychu Cyfarfod Croeso, dewiswch a chofrestrwch ar gyfer eich sesiwn ddewisol drwy’r dolenni Eventbrite canlynol:
- Cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg: Cyfarfod Croeso 21 Ebrill 2026
- Cynhelir y cyfarfod yn Saesneg: Cyfarfod Croeso 22 Ebrill 2026