Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio
Safonau hyfforddi
Hyfforddiant imiwneiddio – cefnogi gweithlu cymwys
Cydnabyddir yn eang fod lefel uchel o wybodaeth ac agwedd gadarnhaol tuag at imiwneiddio ymhlith ymarferwyr gofal iechyd yn benderfynyddion pwysig wrth sicrhau bod nifer uchel o bobl yn cael eu brechu, a bod y nifer hwnnw’n cael ei gynnal. Felly mae’n hanfodol bod y sawl sy’n gwneud yr imiwneiddio yn hyderus, yn wybodus ac yn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf. I gyflawni hyn, rhaid darparu a chynnal hyfforddiant sylfaenol da a diweddariadau rheolaidd. Mae’r dull hwn hefyd yn cael ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) a gweithgor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) sy’n edrych ar betruster brechu.
Cyhoeddwyd Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Cwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant Brechu (safle allanol, Saesneg yn unig) gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).
Mae’r ddogfen hon yn gosod y safonau ac yn rhestru’r pynciau hanfodol y dylid eu hymgorffori mewn hyfforddiant imiwneiddio.
Gan mai dogfen gan UKHSA yw’r canllaw hwn, mae unrhyw faterion penodol sy’n ymwneud â GIG Cymru nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn Lloegr, neu a allai fod yn wahanol yn Lloegr, wedi’u cyhoeddi yn y canlynol: Dogfen gynghori i gefnogi cyflwyno’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Cwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant brechu yn GIG Cymru (Saesneg yn unig).
Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
Hyfforddiant imiwneiddio ac asesu cymhwysedd ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (GCGI) – (Saesneg yn unig) – datganiadau canllaw Cymru gyfan
Nod y datganiadau canllaw hyn yw sicrhau diogelwch cleifion, cefnogi defnydd effeithiol o’r gweithlu a galluogi darparu gwasanaethau brechu effeithlon drwy ddull Cymru Gyfan.
Argymhellion hyfforddiant imiwneiddio rhag y ffliw i Gymru
Datganiad hyfforddiant Feirws Syncytial Anadlol (RSV)
Tabl cynnwys:
- eDdysgu
- Setiau sleidiau hyfforddi penodol i frechlynnau
- Gweminarau
- Gweminar holi ac ateb ar y brechiad farisela (brech yr ieir) a newidiadau eraill i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant o 1 Ionawr 2026
- Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol
- Gweminar Holi ac Ateb yn amlinellu'r newidiadau i'r rhaglen imiwneiddio i blant a'r rhaglen Hep B newyddenedigol ddewisol:
- Adnoddau fideo
- Cynhadledd Imiwneiddio Cymru
- Hyfforddiant ar dechneg Cyfweld Ysgogiadol – cynnal sgyrsiau cadarnhaol i wella’r nifer sy’n cael eu brechu.
eDdysgu
Mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu hyfforddiant ar-lein mewn partneriaeth â Rhaglen Systemau Gwybodaeth y Gweithlu (WfIS) y Bartneriaeth Cydwasanaethau. Mae’r dudalen hon yn cynnig cymorth ar ddechrau arni gydag e-ddysgu ac mae’n cynnwys modiwlau e-ddysgu ar imiwneiddio a ddatblygwyd gan adran VPDP Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â modiwlau e-ddysgu imiwneiddio cenedlaethol a gynhyrchwyd gan e-ddysgu ar gyfer gofal iechyd.
Setiau sleidiau hyfforddi penodol i frechlynnau
Cwrs cywyd yn ystod beichiogrwydd
- Brechu menywod beichiog rhag RSV er mwyn diogelu babanod – set sleidiau (Saesneg yn unig)
- Rhaglen frechu i ddiogelu menywod beichiog rhag Pertwsis (y pas) – set sleidiau (Saesneg yn unig)
- Sgrinio Diffyg Imiwnedd Cyfun Difrifol – Y goblygiadau ar gyfer rhaglen newyddenedigol BCG yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Cwrs bywyd babanod a chyn-ysgol
- Brechu yn erbyn brech yr ieir (farisela) a newidiadau eraill i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant ym mis Ionawr 2026 (Saesneg yn unig)
- Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant yn 2025 a 2026 – set sleidiau (Saesneg yn unig)
Cwrs bywyd oed ysgol
- Brechiadau i pobl ifanc yn eu harddegau 2025-26
- Meningococol ACWY Rhaglen imiwneiddio MenACWY ar gyfer pobl ifanc – Set Sleidiau 2025 (Saesneg yn unig)
- HPV – Brechu Pobl Ifanc – Set Sleidiau (Saesneg yn unig)
Cwrs bywyd oedolion
- Brechiad meningococol math B (4CMenB) i ddiogelu rhag gonoroea – Set Sleidiau (Saesneg yn unig)
- Rhaglen frechu RSV ar gyfer oedolion hŷn – Set Sleidiau (Saesneg yn unig)
- Set sleidiau brechu yn erbyn clefyd niwmococol (Saesneg yn unig)
- Rhaglen frechu rhag yr eryr – Set Sleidiau (Saesneg yn unig)
- HPV – Rhaglen frechu ar gyfer dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) – Set Sleidiau
- Adnoddau hyfforddi brech M
Rhaglenni ar draws cwrs bywyd
Setiau sleidiau penodol i glefydau
Y frech goch: y clefyd, cymhlethdodau a brechu yn ei erbyn
- Y frech goch – set sleidiau [19 Tachwedd 2025] (Saesneg yn unig) (gweithwyr y GIG yn unig)
- Y frech goch – recordiad [19 Tachwedd 2025] (Saesneg yn unig) (gweithwyr y GIG yn unig)
Cyflwyno brechlynnau rhag brech yr ieir (farisela) i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant.
- Farisela (brech yr ieir) – set sleidiau [6 Tachwedd 2025] (Saesneg yn unig) (gweithwyr y GIG yn unig)
- Farisela (brech yr ieir) – recordiad [6 Tachwedd 2025] (Saesneg yn unig) (gweithwyr y GIG yn unig)
Gweminarau
Gweminar holi ac ateb ar y brechiad farisela (brech yr ieir) a newidiadau eraill i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant o 1 Ionawr 2026
Gweminar holi ac ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio plant a’r rhaglen imiwneiddio farisela – set sleidiau [4 Rhagfyr 2025]
Gweminar holi ac ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio plant a’r rhaglen imiwneiddio farisela – recordiad [4 Rhagfyr 2025 ] (gweithwyr y GIG yn unig)
Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol
Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol – set sleidiau [4 Mawrth 2026] (Saesneg yn unig)
Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol – recordiad [4 Mawrth 2026] Hyfforddiant (sharepoint.com) – (Saesneg yn unig)
**Nodwch: Yn y weminar a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, disgrifiwyd y broses o asesu, cydsynio i’r brechlyn a’i weinyddu fel 4 cam. Ers hynny mae hyn wedi’i ddiwygio i 3 cham, mae cam 2 bellach wedi cyfuno paratoi a gweinyddu fel un cam: Cam 1: Asesu a Chydsynio; Cam 2: Paratoi a Gweinyddu a Cham 3: Cadw Cofnodion.**
Datblygwyd y cwestiynau ac atebion canlynol i gefnogi’r weminar Holi ac Ateb: Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 4 Mawrth 2026 (Saesneg yn unig)
Gweminar Holi ac Ateb yn amlinellu’r newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio i blant a’r rhaglen Hep B newyddenedigol ddewisol:
Gweminar Holi ac Ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio i blant rhaglen – cyfres sleidiau [17 Mehefin 2025]
Gweminar Holi ac Ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio i blant rhaglen – Recordiad [17 Mehefin 2025] Hyfforddiant (sharepoint.com)
Adnoddau fideo
Mae Get Immunised (safle allanol, Saesneg yn unig) yn fideo am frechu mewn ysgolion. Mae hefyd ar gael yn y Gymraeg: Cael Imiwneiddio (safle allanol).
Cynhadledd Imiwneiddio Cymru
Hyfforddiant ar dechneg Cyfweld Ysgogiadol – cynnal sgyrsiau cadarnhaol i wella’r nifer sy’n cael eu brechu.
Cyflwynodd yr Uned Gwyddor Ymddygiad mewn cydweithrediad â’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP), sesiwn weminar ar Sgiliau Cyfweld Ysgogiadol wrth gael sgyrsiau am frechlynnau
Gellir gweld y sleidiau a gwrando ar recordiad o’r sesiwn hon ar SharePoint.