E-ddysgu imiwneiddio
Mae’r dysgu ar-lein hwn yn cael ei ddarparu gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Dysgu Digidol Cymru.
Bydd holl staff y GIG yng Nghymru yn cael mynediad at e-ddysgu drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR).
Ar gyfer staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru, mae’r mynediad at e-ddysgu drwy Dysgu@Cymru.
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar ddefnyddwyr i gael mynediad at blatfform Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair cysylltwch ag [email protected]. Dywedwch wrthym eich enw, teitl swydd a gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen â .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru.
Cyrsiau
-
Cwrs e-ddysgu Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs)
Nod y cwrs hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG (SPS), yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gofal iechyd proffesiynol sy’n ystyried, datblygu, awdurdodi a defnyddio cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarfer meddyginiaethau NICE (MPG2).
-
Cwrs e-ddysgu sicrhau bod cymaint â phosib yn cael brechlynnau: Defnyddio cyfweliadau ysgogol ar gyfer gwell sgyrsiau
E-ddysgu yn cael ei diweddaru. Mae’r modiwl yma’n cyflwyno ac yn esbonio sut gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio technegau cyfweld ysgogol wrth gael sgyrsiau am y nifer sy’n cael eu brechu.
-
Cwrs e-ddysgu brechiadau COVID-19
Mae rhaglen e-ddysgu Brechiadau COVID-19 yn cynnwys sesiwn gwybodaeth graidd a sesiwn sy’n canolbwyntio’n benodol ar frechlynnau, gyda sesiynau asesu’n cyd-fynd â’r ddwy. Bydd rhagor o sesiynau sy’n canolbwyntio’n benodol ar frechlynnau’n cael eu hychwanegu pan fydd rhagor o frechlynnau COVID-19 ar gael ac wedi’u hawdurdodi i’w cyflenwi yn y DU.
-
Cwrs e-ddysgu gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Gwybodaeth i’r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol 2025-26 (fersiwn 1 07.07.25)
-
Cwrs e-ddysgu diweddariad clinigol ar y ffliw ar gyfer Cymru
Diweddariad clinigol ar y ffliw ar gyfer imiwnyddion a’r rhai sy’n rhoi cyngor ar frechu rhag y ffliw 2025-26 (fersiwn 2 18.11.25)
-
Cwrs e-ddysgu’r eryr
Mae’r modiwl hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am haint yr eryr, y brechiad rhag yr eryr a’r rhaglen brechu rhag yr eryr genedlaethol yng Nghymru.
-
Cwrs e-ddysgu’r feirws papiloma dynol (HPV) a’r rhaglen frechu HPV
Mae’r modiwl hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am y Feirws Papiloma Dynol (HPV) ac yn amlygu gwybodaeth gyfredol am raglenni brechu HPV yn yr arddegau a dynion hoyw, dynion deurywiol neu ddynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) yng Nghymru.
-
Cwrs e-ddysgu’r rhaglen imiwneiddio
Mae’r rhaglen hon wedi’i hysgrifennu’n unol â’r safonau gofynnol cenedlaethol diwygiedig ar gyfer hyfforddiant ac yn cynnwys saith sesiwn wybodaeth, gydag asesiadau i gyd-fynd â nhw.
Rhannu Gwybodaeth
Mae’n bosib y bydd gwybodaeth am y cynnydd y byddwch yn ei wneud wrth gwblhau’r cyrsiau – ac ydych chi wedi’u gorffen – yn cael ei rhannu â’ch rheolwr llinell a’ch cydlynydd imiwneiddio lleol.