Rhyddid Gwybodaeth (FOI)

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym ar 1 Ionawr 2005. Mae’n adlewyrchu newid polisi cenedlaethol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus o ddiwylliant o gyfrinachedd i un o fod yn agored ac yn atebol.

Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r hawl gyffredinol i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan unrhyw awdurdod cyhoeddus fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig.

Os hoffech wneud cais am wybodaeth, gallwch wneud hynny naill ai drwy:

Ebost: [email protected]

Neu yn ysgrifenedig at:

Swyddfa Rhyddid Gwybodaeth
Iechyd Cyhoeddus Cymru
2 Capital Quarter
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

Mae gennych hawl i ofyn am fformat y wybodaeth sy’n ofynnol.

Gwybodaeth:

Nodyn pwysig: Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r gwasanaeth iechyd y cyhoedd i Gymru ac felly mae’n Ymddiriedolaeth GIG annibynnol. Nid yw hyn yr un peth â GIG Cymru. Fel sefydliad, nid oes gennym awdurdodaeth dros weithgareddau Byrddau Iechyd ac yn aml nid oes gennym fynediad at y data y maent yn ei gynhyrchu.