Gwybodaeth am frechiadau i oedolion
Cael eich brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i’ch amddiffyn rhag salwch difrifol. Mae brechiadau’n achub miliynau o fywydau bob blwyddyn.
Efallai y bydd angen gwahanol frechiadau arnoch ar wahanol adegau yn ystod eich bywyd. Mae hyn yn dibynnu ar eich oedran, eich iechyd, neu ddigwyddiadau fel beichiogrwydd neu deithio.
- Os ydych chi’n feichiog, gallwch ymweld â’n tudalen we brechlynnau yn ystod beichiogrwydd i gael rhagor o wybodaeth.
- Os ydych chi’n bwriadu teithio, ewch i’n tudalen we brechlynnau teithio i gael rhagor o wybodaeth am frechiadau cyn teithio.
- Os ydych angen brechiadau oherwydd eich swydd, siaradwch â’ch cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth.
Oedolion sydd mewn mwy o berygl o heintiau
Mae rhai oedolion yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn o ganlyniad i heintiau. Mae hyn yn cynnwys y bobl ganlynol:
- oedolion hŷn, a
- phobl â chyflyrau iechyd hirdymor penodol.
Mae brechlynnau’n helpu i leihau’r risg o ofal ysbyty, problemau iechyd hirdymor a hyd yn oed marwolaeth o heintiau fel y ffliw, COVID-19, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), clefyd niwmococol neu’r eryr. Maent yn gweithio trwy ddysgu’r system imiwnedd i adeiladu ei hamddiffynfeydd yn erbyn clefydau. Maent yn helpu i’ch amddiffyn pan nad yw’ch corff yn gallu brwydro yn erbyn y salwch yn hawdd.
Mae brechlynnau hefyd yn helpu i atal lledaeniad clefydau. Drwy gael eich brechu, rydych chi’n helpu i gadw’ch hun, eich teulu, a’ch cymuned yn iach.
Cliciwch ar y dolenni yn y tablau isod i ddysgu rhagor am y brechlynnau rheolaidd sydd ar gael i oedolion.
| Brechlyn | Pwy sy’n gymwys? | Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn yn ei erbyn |
| Yr Eryr |
• Pobl sy’n troi’n 65 oed • Pobl rhwng 70 a 79 oed • Pobl 18 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn |
Yr Eryr |
| Clefyd niwmococol |
• Pobl 65 oed a hŷn • Oedolion sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i glefyd niwmococol |
Llid yr ymennydd (meningitis – haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) Sepsis (ymateb sy’n peryglu bywyd i haint) Niwmonia (haint yn yr ysgyfaint) |
| Feirws Syncytiol Anadlol |
• Pobl 75 mlwydd oed a hŷn • Pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn • Menywod beichiog i amddiffyn eu babanod |
Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) sy’n gallu arwain at heintiau difrifol fel niwmonia |
Brechlynnau tymhorol i oedolion
-
Covid-19
Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn sy’n cael ei achosi gan feirws. Gall fod yn fwy difrifol ymhlith pobl 75 oed neu’n hŷn a’r rhai sydd â ssystem imiwnedd wan.
-
Ffliw
Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirws, sy’n cael ei ledaenu trwy beswch a thisian. Mae’r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, os ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn.
Brechiadau eraill i oedolion
Efallai y bydd angen brechlynnau eraill neu ddosau ychwanegol ar rai pobl i helpu i’w hamddiffyn. Mae hyn yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd penodol, neu’r rhai sy’n fwy tebygol o fod yn agored i salwch.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall eich practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol neu dîm gofal iechyd arbenigol roi cyngor a chymorth i chi yn seiliedig ar eich anghenion.
Mae’r tabl isod yn dangos enghreifftiau o frechlynnau eraill y gallech fod eu hangen a ble gallwch eu cael. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Efallai y bydd angen brechlynnau eraill arnoch yn dibynnu ar eich swydd, os ydych yn teithio dramor, neu eich amgylchiadau personol.
| Brechlyn | Pwy sy’n gymwys? | Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn rhagddo | Ble allwch chi gael y brechlyn? |
| HPV | Dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) 45 oed neu’n iau | Canser ceg y groth, rhai mathau o ganser y pen a’r gwddf ac anogenhedlol, a defaid gwenerol a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) | Clinig iechyd rhywiol |
| Brech M | Pobl sydd mewn mwy o berygl | Brech M (a’r frech wen) | Clinig iechyd rhywiol |
| Men B ar gyfer gonoroea | Pobl sydd mewn mwy o berygl | Llid yr Ymennydd B (meningitis – haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a gonoroea | Clinig iechyd rhywiol |
| Hepatitis B | Pobl sydd mewn mwy o berygl | Hepatitis B | Practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig teithio neu glinig iechyd galwedigaethol |
| Hepatitis A | Pobl sydd mewn mwy o berygl | Hepatitis A | Practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig teithio neu glinig iechyd galwedigaethol |
Os ydych chi wedi colli unrhyw frechiadau
Mae’n bwysig eich bod yn cael yr holl frechiadau rheolaidd sydd angen i chi eu cael. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi colli unrhyw frechiadau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu nyrs practis. Gallant wirio’ch cofnodion a threfnu unrhyw apwyntiadau brechu maen nhw’n eu darparu. Gallant hefyd eich cynghori ynghylch ble i gael brechiadau sy’n cael eu cynnig trwy wasanaethau eraill, fel clinigau iechyd rhywiol neu glinigau teithio.