Neidio i'r cynnwys

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae newidiadau yn cael eu gwneud i’r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru yn ystod 2026.

Mae gwybodaeth fanwl am newidiadau i argymhellion brechu ar gyfer babanod a phlant, yn cynnwys cymhwysedd, ar gael isod ar y dudalen hon.  

Am fanylion pellach am y newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant a gyflwynir yn 2025 a 2026, gweler Polisi Llywodraeth Cymru isod:  

Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 

Mae pecyn cymorth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi’i baratoi, sy’n crynhoi’r holl adnoddau ac offer i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy’r newidiadau i’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant. 

Mae set sleidiau hefyd wedi’i chreu i amlygu cyhoeddiadau allweddol.

Adnoddau hyfforddiant imiwneiddio a digwyddiadau

Bydd newidiadau sylweddol i’r amserlen yn 2026.   

Er mwyn eich cadw’n wybodus am y newidiadau hyn, gallwch ddod o hyd i’n sesiynau codi ymwybyddiaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys setiau sleidiau wedi’u recordio, sesiynau cinio a dysgu ar gyfer gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweminarau holi ac ateb.

 I weld ac archebu lle ar y sesiynau, ewch i: 

Cefndir

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio.  

Mae datganiadau a gyhoeddwyd gan y JCVI yn nodi’r prif newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant yn 2025 a 2026. I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, darllenwch ddatganiadau’r JCVI isod:

Pa frechlynnau fydd yn cael eu rhoi, a phryd? 

Adnoddau cymhwysedd brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mae tudalen we amserlenni imiwneiddio rheolaidd Cymru a’r dogfennau cysylltiedig yn cwmpasu amserlen imiwneiddio gyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cymru.

Mae offeryn cymhwysedd brechu wedi’i ddatblygu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i benderfynu a yw plant yn gymwys i gael eu brechu yn ystod y newidiadau.

Mae’r offeryn cymhwysedd MMRV hwn yn berthnasol dim ond o 1 Ionawr 2026.

Adnoddau cymhwysedd allanol

Cyfrifiannell cymhwysedd ar gyfer brechu plant Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA)

Darllenwch dogfen bolisi Cymru cyn defnyddio cyfrifiannell cymhwysedd brechu plant UKHSA. 

Pa newidiadau fydd yn digwydd yn 2026?

Trafododd y JCVI opsiynau ar gyfer newidiadau angenrheidiol i’r amserlen imiwneiddio plant. Mae’r cyd-bwyllgor wedi gwneud yr argymhellion canlynol i’w gweithredu o 1 Ionawr 2026.

Apwyntiad 18 mis oed newydd 

  • O 1 Ionawr 2026, ychwanegir apwyntiad brechu newydd at yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru. Bydd yr apwyntiad newydd yn digwydd pan fydd babanod yn 18 mis oed.
  • Yn yr apwyntiad 18 mis oed hwn, bydd babanod yn cael y brechlyn MMRV a dos ychwanegol o’r brechlyn amlfalent DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) sy’n cynnwys Hib.

Cyflwyno rhaglen frechu rhag varicella (brech yr ieir) reolaidd y GIG

Cyflwynwyd brechiad brech yr ieir i’r amserlen imiwneiddio plentyndod arferol yng Nghymru ar 1 Ionawr 2026 gan ddefnyddio’r brechlyn cyfun rhag y frech gochclwy’r pennaurwbela a varicella (brech yr ieir) (MMRV)Bydd plant sydd i fod i gael eu brechlyn MMR cyntaf neu eu hail ddos o 1 Ionawr 2026 yn cael cynnig y brechlyn MMRV cyfun yn lle’r brechlyn rhag y frech gochclwy’r pennau a rwbela (MMR).  

Brechiadau rheolaidd: 

  • Rhoddir y dos cyntaf o MMRV i fabanod yn 12 mis oed
  • Rhoddir yr ail ddos ​​o MMRV yn 18 mis oed (gweler ‘apwyntiad 18 mis oed’ isod).

Nid oes brechlyn ‘varicella yn unig’ yn cael ei gynnig yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru.

Rhaglen dal i fyny ddetholus varicella

  • Bydd rhaglen dal i fyny ddetholus gyda MMRV hefyd ar gyfer plant hŷn sydd heb hanes o frech yr ieir neu frechiad varicella presennol, i helpu i gyflymu rheolaeth ac i leihau trosglwyddiad yn y boblogaeth ymhellach.
  • Bydd y rhaglen dal i fyny MMRV un dos ddetholus yn cael ei chyflwyno rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon, cyfeiriwch at yr adran Pa frechlynnau fydd yn cael eu rhoi, a phryd? ar y dudalen we hon. Defnyddiwch yr offer cymhwysedd i gadarnhau amseriad a chymhwysedd ar gyfer cleifion unigol.

Dylid asesu a rheoli plant â chofnodion imiwneiddio anghyflawn gan ddefnyddio algorithm imiwneiddio ansicr neu anghyflawn UKHSA, sy’n cael ei ddiweddaru gyda’r newidiadau hyn.

Y rheswm dros y newidiadau:

Mae varicella (brech yr ieir) yn glefyd heintus iawn a achosir gan y feirws varicella-zoster. Nodweddir haint varicella gan bresenoldeb brech goslyd a smotiog. Mae’r rhan fwyaf o achosion o varicella ymhlith plant yn gymharol ysgafn ac mae’r salwch yn gwella heb ymyrraeth feddygol. Fodd bynnag, gall rhai plant ddatblygu cymhlethdodau, a all arwain at arhosiad yn yr ysbyty ac yn anaml iawn gall arwain at farwolaeth.

Yn aml, nid yw arosiadau yn yr ysbyty a achosir gan varicella yn cael eu hadrodd yn ddigonol oherwydd gwallau codio mewn data rheolaidd. Mae llawer o dderbyniadau i’r ysbyty yn deillio o gymhlethdodau o varicella, megis: llid yr isgroen, heintiau streptococol grŵp A ymledol, neu strôc yn ystod plentyndod, nad ydynt o bosibl yn gysylltiedig â varicella yng nghofnodion yr ysbyty. Efallai y bydd cymhlethdodau eraill hefyd sy’n gysylltiedig â varicella nad ydynt wedi’u deall na’u dogfennu’n llawn eto.

Nod cyflwyno’r brechlyn MMRV i’r rhaglen i blant yw lleihau nifer yr achosion o heintiau’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella a chymhlethdodau cysylltiedig. Nid yn unig i leihau nifer yr achosion o glefydau, ond i ddileu’r frech goch a rwbela, ac o bosibl varicella.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn:

Brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) 

Nid yw’r brechlyn MMR, sy’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela, ar gael mwyach fel rhan o’r rhaglen reolaidd i blant y GIG o 1 Ionawr 2026. Bydd ar gael i’w ddefnyddio y tu allan i’r rhaglen reolaidd i blant, er enghraifft unigolion hŷn nad ydynt wedi derbyn dau ddos ​​o MMR ac nad ydynt yn gymwys i gael brechlyn varicella).

Brechlyn amlfalent DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) sy’n cynnwys Hib 

Mae angen dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn yr apwyntiad 18 mis oed i gymryd lle’r Hib, a roddwyd yn flaenorol gyda’r brechlyn Menitorix© (Hib/MenC) yn 12 mis oed. Bydd hyn yn helpu i roi amddiffyniad tymor hwy yn erbyn haint Hib.

Mae’r ymweliad brechu 6 mewn 1 ychwanegol ar gyfer babanod yn 18 mis oed yn effeithio ar y rhaglen HepB newyddenedigol ddetholus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am newidiadau i’r rhaglen frechu HepB newyddenedigol ddetholus

Brechlyn meningococol Grŵp C 

O ganlyniad i lwyddiant y rhaglen MenACWY i bobl ifanc wrth reoli clefyd meningococol C ar draws y boblogaeth, ni argymhellir dos o frechlyn sy’n cynnwys meningococol C (MenC) i fabanod 12 mis oed mwyach.

Fodd bynnag, mae’n bwysig:

  • sicrhau bod nifer uchel o unigolion yn manteisio ar y brechlyn MenACWY*,
  • cael gwyliadwriaeth dda o haint meningococol, a
  • monitro effaith y rhaglen frechu a’r dirywiad disgwyliedig yn yr afiechyd.

*rhoddir y brechlyn MenACWY yn rheolaidd i bobl ifanc 13 a 14 oed (blwyddyn ysgol 9). Rhoddir brechiadau MenACWY ychwanegol i’r rhai sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol.  

Gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechlyn MenACWY.

I gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn, gweler y cwestiynau cyffredin isod, a’n tudalen Cwestiynau Cyffredin ar SharePoint (Saesneg yn unig) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).

Neu cyfeiriwch at Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru ar SharePoint (Saesneg yn unig) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).

Oedran Amserlen frechu
8 wythnos oed 6 mewn 1

MenB

Rotafeirws

12 wythnos oed 6 mewn 1

MenB

Rotafeirws

16 wythnos oed 6 mewn 1

PCV

12 mis oed  MMRV

PCV

MenB

18 mis oed

(APWYNTIAD NEWYDD) 

MMRV

6 mewn 1

3 blwydd 4 mis oed 4 mewn 1

Gweler ‘Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol‘ uchod am offer cymhwysedd manwl.


Cwestiynau cyffredin am y newidiadau

Pam mae angen apwyntiad brechu 18 mis oed newydd?

O 1 Ionawr 2026, bydd apwyntiad rheolaidd newydd yn 18 mis oed yn cael ei drefnu ar gyfer y rhai a aned ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Yn ystod yr apwyntiad hwn, dylid rhoi dos ychwanegol o’r DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) a’r ail ddos ​​MMRV.

Dylid rhoi dos ychwanegol o frechlyn amlfalent sy’n cynnwys Hib (y brechlyn chwefalent DTaP/IPV/Hib/HepB a roddir yn ystod babandod) yn 18 mis oed i ddisodli cydran Hib y brechlyn Hib/MenC a roddwyd yn 12 mis oed. Mae hyn yn gofyn am gyflwyno apwyntiad newydd yn 18 mis oed.

Mae’r apwyntiad 18 mis oed newydd yn gyfle i roi’r ail ddos ​​o’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela (MMRV). Bwriad brechu’n gynharach yn ystod plentyndod yw hybu imiwnedd yn gynt a lleihau brigiadau o achosion trwy gynyddu nifer y plant sy’n cael eu brechu cyn mynd i feithrinfeydd neu leoliadau addysg gynnar.

Ffynonellau cyfeirio:

1.  Datganiad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant (Saesneg yn unig)

2. Datganiad JCVI ar raglen frechu farisela (brech yr ieir) yn ystod plentyndod (Saesneg yn unig)

Canllawiau

Canllawiau ar newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru: 

Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau 

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy’r dudalen E-ddysgu.   

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.  

Mae’r sleidiau a’r recordiadau sy’n rhoi briffiau manwl i gefnogi Byrddau Iechyd gyda hyfforddiant lleol i’w gweld ar Hyfforddiant (sharepoint.com) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).  

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Llyfr Gwyrdd – Imiwneiddio rhag clefydau heintus

Mae gan y Llyfr Gwyrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau a gweithdrefnau brechu (Saesneg yn unig), ar gyfer clefydau heintus ataliadwy drwy frechu yn y DU.  

Adnoddau pellach

Y brechlyn 6 mewn 1

Hepatitis B

Brechlyn MenACWY

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer brechlynnau ar dudalen Cyfarwyddydau Grŵp Cleifion Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.

Data a gwyliadwriaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14eg Mai 2026