Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Am y newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant
Mae’r amserlen imiwneiddio (brechu) reolaidd i blant yng Nghymru yn cael ei diweddaru.
Mae’r newid hwn yn cynnig amddiffyniad i blant rhag brech yr ieir, a gwell amddiffyniad fyth rhag clefydau fel y frech goch.
Pa newidiadau fydd yn digwydd yn 2026?
Apwyntiad 18 mis oed:
- O 1 Ionawr 2026, ychwanegir apwyntiad brechu newydd at yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru yn 18 mis oed.
- Yn yr apwyntiad 18 mis oed hwn, bydd babanod yn cael y brechlyn MMRV (gweler ‘Cyflwyno’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela (brech yr ieir)’ isod) a dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1.
- Rhoddir y dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn yr apwyntiad 18 mis oed newydd hwn i ddarparu amddiffyniad Hib a roddwyd yn flaenorol gyda Hib/MenC.
Cyflwyno’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela)
O 1 Ionawr 2026, cyflwynir brechlyn newydd o’r enw MMRV i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant i helpu i amddiffyn rhag haint y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a haint brech yr ieir (farisela).
Rhoddir y brechlyn MMRV i fabanod yn rhad ac am ddim gan y GIG fel rhan o’u brechiadau rheolaidd. Mae MMRV wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd lawer.
- Rhoddir y dos cyntaf i fabanod pan fyddant yn 12 mis oed.
- Rhoddir yr ail ddos pan fyddant yn 18 mis oed.
Rhoddir y brechlyn MMRV hefyd i rai plant cymwys yn dibynnu ar oedran eich plentyn ac a yw wedi cael haint brech yr ieir neu’r brechlyn rhag brech yr ieir yn y gorffennol.
Mae’r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i rai plant hŷn neu oedolion sydd wedi methu un neu’r ddau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR, neu nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.
Mae’n bwysig cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Gallwch ddysgu mwy am y brechlyn MMRV yn brechlynnau MMRV a MMR.
Rhaglen dal i fyny brech yr ieir
Mae rhaglen dal i fyny brech yr ieir ar gyfer plant cymwys rhwng 3 blwydd a 4 mis oed i ychydig o dan 6 oed. Bydd y rhaglen hon yn cynnig un dos o’r brechlyn MMRV ac yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. Mae ar gyfer plant nad ydynt wedi cael haint brech yr ieir neu ddau ddos o frechlyn brech yr ieir yn y gorffennol.
I gael atebion i gwestiynau cyffredin, gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau isod.
Pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi a phryd?
Gan fod yr amserlen imiwneiddio yn newid, bydd cyfnod byr o addasu. Bydd yr hyn y disgwylir i’ch plentyn gael yn dibynnu ar ei oedran ar 1 Ionawr 2026, pan fydd y rhaglen newydd yn dechrau.
Mae’r canllaw cymhwysedd ar gyfer brechu isod yn rhoi gwybodaeth am ba frechlynnau a roddir i blant a phryd. Bydd eich nyrs practis neu’ch meddyg teulu yn cadarnhau cymhwysedd eich plentyn. Mae’n bwysig eu bod yn cael eu brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig.
Gweler y rhaglen frechu gyflawn ar gyfer Cymru.
Y canllaw cymhwysedd ar gyfer brechu:
Cwestiynau cyffredin am y newidiadau
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ionawr 2026