Neidio i'r cynnwys

Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) - Ynglŷn â'r brechlyn 6 mewn 1

Mae’r brechlyn 6-mewn-1 (a elwir hefyd yn DTaP/IPV/Hib/HepB), yn helpu i amddiffyn rhag difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B.

Cefndir

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol. Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn helpu i amddiffyn rhag: 

  • difftheria 
  • tetanws 
  • pertwsis (y pas)  
  • polio 
  • Hib (Haemophilus influenzae math b), a 
  • hepatitis B. 

Cyn brechlynnau, roedd llawer o blant yn y DU yn dal y clefydau hyn bob blwyddyn. Mae brechu wedi lleihau nifer yr achosion hyn ac wedi achub llawer o fywydau.  

 Mae’r brechlyn 6-mewn-1 (a elwir hefyd yn frechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB) yn un o’r brechlynnau cyntaf y bydd eich babi yn eu cael.  

Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag y clefydau hyn a’r cymhlethdodau iechyd difrifol y gallant eu hachosi.  

Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn amau ​​meningitis?

Os bydd rhywun yn sâl ac yn gwaethygu, peidiwch ag aros am frech oherwydd gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn ac efallai na fydd rhai yn ymddangos o gwbl, felly mynnwch gymorth meddygol ar frys. Os na allwch gysylltu â’ch meddyg, neu os ydych yn dal i boeni ar ôl cael cyngor, dilynwch eich greddf ac ewch i adran argyfwng eich ysbyty agosaf.

Mae angen sylw meddygol brys ar rywun sydd â thwymyn a brech nad yw’n pylu dan bwysau. Gallwch wneud y prawf gwydr i wirio a yw brech yn pylu dan bwysau.

Prawf gwydr llid yr ymennydd

  • Gwasgwch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen.
  • Gall smotiau neu frech (neu’r ddau) bylu ar y dechrau.
  • Daliwch ati i wirio.
  • Mae twymyn gyda smotiau neu frech (neu’r ddwy) nad ydynt yn pylu dan bwysau yn argyfwng meddygol.
  • Os yw’ch plentyn yn sâl ac yn gwaethygu, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith.
  • Gall y smotiau neu’r frech fod yn anoddach eu gweld ar groen tywyll.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Meningitis Now (Saesneg yn unig) neu ffoniwch linell gymorth Meningitis Now ar 0808 80 10 388.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pryd mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei gynnig?

Imiwneiddiadau babanod 

Mae’n bwysig cynnig amddiffyniad i fabanod cyn gynted â phosibl, gan y gallant ddal y clefydau difrifol hyn o adeg eu geni.

Rhoddir y brechlyn 6-mewn-1 (DTaP/IPV/Hib/HepB) i fabanod wyth wythnos oed, 12 wythnos oed ac 16 wythnos oed . O fis Ionawr 2026, bydd babanod hefyd yn cael brechlyn 6 mewn 1 yn 18 mis oed.

Pam mae fy maban wedi cael ei wahodd i apwyntiad brechu, ac yntau’n 18 mis oed?

1 Ionawr 2026, bydd eich plentyn yn cael cynnig brechlyn 6-mewn-1 pan fydd yn 18 mis oed.

Mae cael brechlyn 6-mewn-1 ychwanegol yn ddiogel ac yn effeithiol.

Am wybodaeth ynghylch pam mae eich plentyn wedi cael ei wahodd i gael brechlyn yn 18 mis oed, gweler:  Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant.

 

Sut byddaf yn gwybod pan fydd angen i’m plentyn gael brechiadau?

Anfonir apwyntiad at blant ar gyfer eu brechlyn 6-mewn-1 arferol ar yr oedran priodol. Mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau brechu arbennig ar gyfer babanod a phlant. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad, rhowch wybod i’ch meddygfa.

Cafodd fy maban ei eni’n gynnar. Pryd ddylai babanod a anwyd yn gynnar gael eu brechlyn?

Gall babanod a anwyd yn gynnar fod mewn mwy o berygl o gael haint. Dylid eu brechu yn unol â’r amserlen a argymhellir, wyth wythnos ar ôl iddynt gael eu geni, ni waeth pa mor gynamserol oeddent.

Beth os byddaf yn colli’r apwyntiad?

Dylech ganslo apwyntiad os na allwch fynd iddo. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gellir rhoi’r brechiad o hyd, ond bydd eich plentyn heb amddiffyniad am fwy o amser.

Cofiwch, mae’n bwysig cael brechiadau a gollwyd. Os yw’ch plentyn wedi colli brechiad ac yn hŷn na’r oedran a argymhellir ar ei gyfer, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd.

A oes angen brechlyn tetanws ar fy mabi os oes ganddo glwyf oherwydd toriad, brathiad neu anaf tebyg?

Cysylltwch â meddyg teulu neu ewch i’r adran mân anafiadau  neu adran argyfwng  agosaf os ydych yn pryderu am glwyf, yn enwedig os:

  • yw’n glwyf dwfn
  • oes baw neu rywbeth y tu mewn i’r clwyf, neu
  • nad yw eich plentyn wedi’i frechu’n llawn ar gyfer tetanws, neu os nad ydych yn siŵr.

(Mae ‘clwyf’ yn cynnwys llosgiadau i’r croen a’r meinwe oddi tano.)

Bydd meddyg neu nyrs yn asesu’r clwyf ac yn penderfynu a oes angen brechlyn tetanws ar eich babi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn 6-mewn-1, neu os nad ydych yn siŵr pryd y dylid ei roi, cysylltwch â’ch meddygfa am gyngor.

Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r Rhaglenni Imiwneiddio Rheolaidd i Blant?

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am newidiadau i Raglenni Imiwneiddio Rheolaidd i Blant ar ein gwefan.

Ynglŷn âr brechlyn 

Beth yw’r brechlyn 6-mewn-1?

Mae’r brechlyn 6-mewn-1 sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU yn cael ei adnabod o dan yr enwau brand Infanrix a Vaxelis.

Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn hwn, gallwch ddarllen y daflen i gleifion yn:

Os yw’ch babi neu’ch plentyn wedi methu apwyntiad ar gyfer y brechlyn 6-mewn-1, mynnwch air â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis am gyngor.

Mae gwybodaeth am frechlynnau eraill yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis, polio a Hib ar gael ar y tudalennau canlynol.

Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad?

Bydd y nyrs practis neu’r meddyg teulu yn esbonio’r brechiadau ac yn ateb eich cwestiynau. Ar gyfer babanod, rhoddir y brechlyn trwy bigiad yn y glun. Ar gyfer plant dros 12 mis oed, fel arfer rhoddir pigiadau yn rhan uchaf y fraich.

Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych a gofynnwch nhw i’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn yr apwyntiad brechu. 

A ellir rhoi’r brechlyn os yw fy mhlentyn yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os bydd eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uwch (twymyn) ar ddiwrnod y brechiad, gohiriwch yr apwyntiad nes ei fod wedi gwella. Os oes gan eich plentyn fân salwch heb dwymyn, fel annwyd, dylai gael y brechiad yn ôl yr arfer.

A oes unrhyw resymau eraill pam na ddylid rhoi’r brechlyn?

Ychydig iawn o blant na allant gael y brechlyn 6-mewn-1. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i blant sydd wedi cael adwaith alergaidd difrifol (sy’n bygwth bywyd) i:

  • unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn, neu
  • dos blaenorol o’r brechlyn.

Mynnwch air â’ch meddyg teulu, eich nyrs practis neu ymwelydd iechyd cyn i’ch plentyn gael y brechlyn os yw’ch plentyn:

  • ag anhwylder gwaedu (fel hemoffilia, pan nad yw ei waed yn clotio’n iawn), neu
  • wedi cael trawiad (ffit) erioed na chafodd ei achosi gan dwymyn.

Diogelwch ac effeithiolrwydd 

A oes gan y brechlyn unrhyw sgil-effeithiau?

Mae miliynau o ddosau o’r brechlyn wedi’u defnyddio ac mae ganddo hanes da iawn o ddiogelwch.

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael.

Mae sgil-effeithiau’r brechlyn yn fach o’u cymharu â mynd yn ddifrifol wael o’r clefydau.

Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys: 

  • coes neu fraich dost lle rhoddwyd y pigiad
  • lwmp bach lle rhoddwyd y nodwydd i mewn (mae hyn yn normal, a gall bara rhai wythnosau ac nid oes angen unrhyw driniaeth)
  • tymheredd uwch (twymyn) dros 38°C
  • teimlo’n aflonydd, a
  • diffyg archwaeth.

Os yw tymheredd eich plentyn wedi codi ac mae’n ymddangos yn sâl, cadwch ef yn oer trwy:

  • sicrhau nad oes gormod o haenau o ddillad neu flancedi arno, a
  • rhoi digon o ddiodydd oer iddo.

Mae sgil-effeithiau prin iawn y brechlyn yn cynnwys:

  • adweithiau alergaidd, megis chwydd yn y wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech chwyddedig, sy’n cosi), anhawster anadlu neu lyncu, a theimlo’n benysgafn.

Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o adwaith alergaidd difrifol ac fel arfer bydd yn digwydd o fewn 15 munud i gael eich brechu. Ffoniwch 999 ar unwaith os yw’ch plentyn wedi cael y brechlyn ac os oes ganddo unrhyw un o’r symptomau hyn.

Mae adroddiadau am yr holl sgil-effeithiau yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau, ewch i:

Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau ar Yellow Card (Saesneg yn unig) drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?

Gall dos o’r cryfder cywir o baracetamol hylif  helpu i leihau twymyn eich plentyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel yn ofalus iawn a rhowch y dos cywir ar gyfer oedran eich plentyn. Efallai y bydd angen i chi roi dos arall bedair i chwe awr yn ddiweddarach. Nid ydym yn argymell paracetamol hylif cyn brechu i atal twymyn.

Cofiwch – ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin.

Os ydych yn poeni am eich plentyn ar ôl iddo gael y brechlyn, dylech siarad â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis. Gallwch hefyd gysylltu â GIG Cymru drwy ffonio 111. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

A all fy mhlentyn ddal i gael yr heintiau hyn os caiff ei frechu?

Y brechlyn 6-mewn-1 yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o ddifftheria, tetanws, y pas, polio, Hib a hepatitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu’ch plentyn yn cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am difftheria, tetanws, y pâs a pholio, ewch i wefn GIG 111 Cymru:

Adnoddau

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28ain Ebrill 2025