Neidio i'r cynnwys

COVER – Data cenedlaethol ar imiwneiddio i blant

Mae gwyliadwriaeth o gydraddoldeb a chanran y rhai sy’n manteisio ar frechiadau rheolaidd i blant yng Nghymru yn cael ei chynnal gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gynllun cenedlaethol COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau) yng Nghymru.

Cyhoeddir adroddiadau COVER yn chwarterol, gan grynhoi canran y rhai sy’n cael eu brechu ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol yn ystod y cyfnodau canlynol:

  • Ionawr – Mawrth
  • Ebrill – Mehefin
  • Gorffennaf – Medi
  • Hydref – Rhagfyr

Mae adroddiad COVER blynyddol yn cael ei lunio, gan grynhoi cwmpas brechiadau i blant sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol yn ystod y cyfnod 12 mis o fis Ebrill i fis Mawrth. Mae tueddiadau mewn anghydraddoldebau o ran cwmpas, yn ôl lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol hefyd yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol. 

Cyhoeddir adroddiadau chwarterol o fewn 8 wythnos i ddiwedd y chwarter adrodd. Cyhoeddir adroddiadau blynyddol o fewn 12 wythnos i ddiwedd y flwyddyn adrodd.

Mae adroddiadau gwyliadwriaeth ar yr heintiau y mae brechiadau rheolaidd i blant yn amddiffyn yn eu herbyn ar gael ar dudalen data.

Adroddiadau Imiwneiddio ar lefel Brdd Iechyd

Adroddiadau archif

Mae adroddiadau COVER chwarterol a blynyddol blaenorol ar gael yma.