Imiwneiddio a brechlynnau
Mae Brechu yn achub bywydau. Brechu yw’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a’n plant rhag salwch. Maent yn atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.
Sefydlwyd Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2005. Mae’n denu cefnogaeth gan amrywiaeth o bartneriaid presennol ar draws GIG Cymru a thu hwnt i gefnogi dull cenedlaethol o imiwneiddio a brechu.
Pam mae brechlynnau’n bwysig?
Pwysigrwydd i blant
Mae’n bwysig bod pob plentyn a baban yn cael eu himiwneiddio’n llawn i’w diogelu rhag afiechydon difrifol posibl. Mae salwch a fu unwaith yn gyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin yn y DU oherwydd imiwneiddio. Ond er bod polio wedi’i ddileu yn Ewrop, nid yw bygythiad afiechydon eraill, fel y frech goch a llid yr ymennydd, wedi diflannu yn y DU heddiw.
Dylai rhieni sydd â phryderon neu ymholiadau am unrhyw agwedd ar imiwneiddio eu plentyn eu trafod gyda’u meddyg teulu, ymwelydd iechyd, nyrs eu meddygfa neu’r nyrs ysgol.
Pwysigrwydd i oedolion
Mae imiwneiddio yn ddigwyddiad gydol oes ac mae oedolion hefyd yn elwa o gael eu himiwneiddio. Mae’n bwysig bod oedolion wedi cael eu holl frechlynnau rheolaidd mewn plentyndod.
Bydd angen imiwneiddio ychwanegol ar rai pobl gan eu bod mewn mwy o berygl oherwydd eu hoedran neu gyflwr iechyd, neu i ddiogelu eu hiechyd yn y gwaith neu wrth deithio. Ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl o gymhlethdodau’r ffliw, argymhellir y brechlyn ffliw blynyddol. Mae brechlyn niwmococol yn cael ei argymell hefyd i helpu i ddiogelu pobl sydd mewn mwy o berygl o gael afiechyd niwmococol.
Rydym hefyd wedi wynebu’r heriau digynsail o gyflwyno un o’r rhaglenni brechu cyflymaf a mwyaf cynhwysfawr wrth ddarparu brechlynnau COVID-19 ac mae’n bwysig bod pawb sy’n gymwys i gael eu brechu yn gwneud hynny pan gânt eu gwahodd.
Canllaw i frechiadau i bobl aganabledd dysgu
Rhan 1: Am frechlynnau
Mae Rhan 1 yn rhoi gwybodaeth am frechiadau, pam eu bod yn bwysig a sut maen nhw’n gweithio.
Trawsysgrif
Iechyd Cyhoeddus Cymru—Mae Brechu yn achub bywydau Brechlynnau.
Mae’n debyg eich bod chi wedi cael llond bol o glywed amdanyn nhw, ond rydym ni wedi bod yn cael ein brechu ers i ni fod yn fabanod, ac mae brechlynnau wedi bod o gwmpas am lawer mwy o amser na hynny.
Dyfeisiwyd y brechlyn cyntaf yn ôl yn 1796, ac fe ddileodd clefyd y frech wen yn llwyr.
Ymlaen at heddiw, ac mae gennym frechlynnau i helpu i’n hamddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael â mwy nag 16 o glefydau yng Nghymru, o lid yr ymennydd i ganser ceg y groth.
Ar adegau yn eich bywyd, mae’n bosibl y byddwch yn cael cynnig brechlynnau ychwanegol i’ch gwarchod chi. Er enghraifft, yn ystod beichiogrwydd, byddwch yn cael cynnig brechlyn y pas i amddiffyn eich babi rhag mynd yn sâl iawn pan fydd yn cael ei eni.
Ond sut yn union y mae brechiad yn gweithio?
Wel, mae brechlyn yn dysgu ein cyrff sut i wrthsefyll clefyd cyn i ni ddod i gysylltiad â’r feirws neu’r bacteria sy’n ei achosi. Yn y modd hwn, os byddwn yn dod i gysylltiad â nhw yn y dyfodol, mae system imiwnedd ein corff eisoes yn gwybod sut i ymladd yn eu herbyn cyn i ni fynd yn ddifrifol wael.
Mae pob brechlyn sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru yn cael eu profi ar filoedd o bobl cyn iddyn nhw gael eu cynnig i ni. Mae brechlynnau’n ddiogel ac effeithiol. Mae ymchwil o bob cwr o’r byd yn dangos mai brechlynnau yw un o’r ffyrdd gorau y gallwch helpu i amddiffyn eich hun, eich ffrindiau, a’ch teulu yn erbyn clefyd difrifol.
Maen nhw fel rhoi braich fawr o amgylch ein hanwyliaid, i’w gwarchod a’u diogelu nhw rhag llawer o afiechydon cas. Bydd brechlynnau gyda ni drwy gydol ein bywydau.
Maen nhw’n rhan o’n hanes ni a’n dyfodol ni. I ddysgu mwy am frechlynnau a sut i amddiffyn eich hun a’ch anwyliaid, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhan 2: Am frechlynnau
Mae Rhan 2 yn disgrifio’r broses o gael brechiad, gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin ac enghreifftiau o addasiadau rhesymol.
Cafodd y fideo yma a’r canllaw Hawdd ei Ddarllen eu gwneud gyda phobl ag anabledd dysgu. Mae’r fideo a’r canllaw yn seiliedig ar wybodaeth a ddysgwyd gennym gan bobl ag anabledd dysgu, eu gofalwyr, a sefydliadau cefnogi.
Mae’r fideo’n dangos person a’i ofalwr yn ymweld â’u meddygfa i gael brechiad y ffliw. Mae’n rhoi enghreifftiau o’r addasiadau rhesymol y gallwch chi ofyn amdanyn nhw i’ch cefnogi i fynd i’ch apwyntiad, fel apwyntiad dwbl, a help gyda gorbryder am nodwyddau.
Trawsysgrif
Stori Rachel – cael brechlyn
Rachel: A, dwi wedi cael llythyr oddi wth y meddyg. Ond beth mae o’n ei feddwl?
Gofalwr: Ga i weld? O, o ie, mae hwn am y brechlyn am ffliw, a bydd yn rhaid i ni wneud apwyntiad.
Rachel: Ocê. Iawn.
Gofalwr: Wyt ti am i mi ddarllen hyn?
Rachel: Ie, plîs.
Llais sylwebydd: Mae Rachel wedi cael gwahoddiad i gael ei brechlyn ffliw. Fel pob oedolyn ag anabledd dysgu, mae’n gallu cael brechlyn ffliw am ddim bob blwyddyn yn yr hydref. Gall Rachel gael ei gwahodd am frechlynnau eraill hefyd, ar amseroedd eraill, yn dibynnu ar bethau fel ei hoed a’i hiechyd.
Gofalwr: Helo, dwi’n ofalwr am rywun sydd gydag anabledd dysgu, a dwi angen gwneud apwyntiad ar gyfer y brechlyn ffliw.
Llais sylwebydd : Cyn trefnu ei hapwyntiad brechlyn, fe wnaeth Rachel a’i gofalwr siarad am bethau fyddai’n ei gwneud hi’n haws iddi gael ei brechlyn ffliw. Mae’r rhain yn cael eu galw yn addasiadau rhesymol.
Mae addasiadau rhesymol yn newidiadau y mae’n rhaid i wasanaethau eu gwneud er mwyn i bawb allu eu defnyddio. Mae’r rhain yn gallu bod yn bethau fel cael apwyntiad ar amser mwy tawel o’r dydd neu gofyn i beidio â chael eich cadw i aros yn rhy hir.
Mae’n bwysig trefnu’r rhain cyn eich apwyntiad.
Derbynnydd: Haia. Sut galla i helpu?
Rachel: Prynhawn da. Fy enw i yw Rachel Jones. Mae gen i apwyntiad am ddau o’r gloch.
Derbynnydd: Ie, mae gennych apwyntiad yma. Mae ‘da ni apwyntiad fydd yn rhoi tipyn bach mwy o amser. A jyst rhoi gwybod i ti, os wyt ti moyn mynd â gofalwr efo ti, mae hynny’n iawn.
Rachel: Iawn.
Derbynnydd: Os cymerwch chi sêt byddan nhw’n galw chi i mewn.
Rachel: Ocê. Diolch yn fawr.
Derbynnydd: Diolch.
Nyrs: Rachel Jones?
Rachel: Ie. Dyma fi.
Nyrs: Helo Rachel. Ydych chi eisiau dilyn fi?
Rachel: Ie, iawn.
Nyrs: Helo Rachel. Hawys ydw i.
Rachel: Helo.
Nyrs: Da chi wedi dod am y brechlyn ffliw heddiw?
Rachel: Ydw.
Nyrs: Gwych. Gawsoch chi gyfle i fynd trwy’r wybodaeth ddaeth gyda’r llythyr.
Rachel: Do. Wnes i ddarllen trwyddo gyda fy ngofalwr i.
Nyrs: Gwych. Ydych chi’n teimlo’n iach heddiw?
Rachel: Ydw diolch.
Nyrs: Oes gennych chi unrhyw alergedd?
Rachel: Penicillin.
Nyrs: Ocê. Mae hynny’n iawn. Ac ydych chi wedi cael y brechlyn ffliw o’r blaen?
Rachel: Ydw.
Nyrs: Oeddech chi’n teimlo’n ocê ar ei ôl e?
Rachel: Ges i fraich bach yn dost ac roeddwn i’n fwy blinedig nag arfer.
Nyrs: Ocê. Mae hynny’n gallu digwydd. Rydyn ni’n gweld hyn yn aml. ‘Dy ni’n galw’r symptomau yma yn sgil-effeithiau. Nid yw pawb yn eu cael nhw. Ond fel arfer, ar ôl y brechlyn, gall pobl deimlo’n flinedig, poen yn y fraich am ddau neu dri diwrnod ar ôl. Mae rhai pobl yn gallu cael cur pen a chyhyrau’n poeni hefyd. Hefyd mae rhai pobl yn gallu cael tymheredd.
Rachel: Beth ydw i’n wneud os bydd rhain yn digwydd i mi?
Nyrs: Felly, os ydych chi yn cael y sgil-effeithiau yma, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gorffwys, yfed digon o ddŵr, a hefyd gallwch chi gymryd moddion fel paracetamol i helpu.
Rachel: Iawn, diolch.
Nyrs: Dyw’r sgil-effeithiau yma ddim yn neis iawn ond dylen nhw ond para dau neu dri diwrnod. Ond os ydych chi yn poeni amdanyn nhw, neu os ydyn nhw’n gwneud i chi deimlo’n sâl neu’n para mwy na tri diwrnod, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl i’n gweld ni.
Rachel: Iawn, diolch.
Nyrs: Ocê. Wyt ti’n hapus i gario ymlaen?
Rachel: Ydw, ond rydw i’n ofni’r pigiad.
Nyrs: Ocê. Mae llawer o bobl yr un peth. Paid â phoeni. Mae’n broses cyflym iawn. Rydyn ni’n rhoi’r brechlyn ar dop y fraich a bydd e drosodd mewn chwinciad.
Rachel: Iawn.
Nyrs: Fydd e’n helpu os gwna i guddio’r pigiad oddi wrthot ti, a ‘falle, pan fyddwn ni’n barod, gallet ti edrych bant at dy ofalwr?
Rachel: Iawn.
Nyrs: Ocê. Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? ‘Chi’n barod?
Rachel: Ydw, dwi’n barod.
Nyrs: Gwych.
Llais sylwebydd: Gan nad ydy Rachel yn hoffi nodwyddau, mae yna bethau mae hi’n gallu gofyn amdanyn nhw i helpu gyda hyn.
Fel addasiadau rhesymol mae hi’n gallu gofyn am beidio ag edrych ar y nodwydd, gofyn am eli sy’n tynnu’r teimlad o’r croen neu fynd â rhywbeth gyda hi i dynnu ei sylw fel cerddoriaeth neu bêl straen.
Nyrs: Reit, dyna ni ‘te, wedi gorffen. Ydych chi’n teimlo’n ocê?
Rachel: Ydw, dwi’n iawn.
Nyrs: Oes gennych chi ragor o gwestiynau?
Rachel: Nac oes.
Nyrs: Gwych. Dyna ni, ‘te. Wnawn ni’ch gweld chi cyn hir.
Rachel: Iawn. Diolch.
Llais sylwebydd: Mae brechlynnau yn un o’r ffyrdd gorau i’ch cadw chi, a’r bobl o’ch cwmpas, yn ddiogel rhag mynd yn sâl iawn o glefydau fel y ffliw a COVID-19.
Mae mwy o wybodaeth ar gael i’ch helpu i gael eich brechlyn. Gallwch ddarllen ein canllaw Hawdd ei Ddeall neu mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.
Adroddiadau
Data
-
Dangosfwrdd brechiadau COVID-19
Mae’r dangosfwrdd hwn yn darparu gwybodaeth am gynnydd y rhaglen brechiadau COVID-19 ledled Cymru. Mae’n…