Neidio i'r cynnwys

Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Brechlyn RSV ar gyfer oedolion hŷn

Cefndir

Mae feirws syncytiol anadlol (RSV) yn achos cyffredin heintiau’r llwybr anadlol. I’r rhan fwyaf o oedolion, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, ac fel arfer mae’n gwella ar ei ben ei hun.

Mewn nifer fach o oedolion hŷn, gall haint RSV arwain at broblemau iechyd difrifol fel niwmonia (haint yr ysgyfaint) neu hyd yn oed farwolaeth. Mae pobl sydd â chlefyd y galon neu’r ysgyfaint, neu system imiwnedd wan, yn wynebu risg uwch.

Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael RSV pan oeddent yn blant, ond efallai na fydd haint yn y gorffennol yn eich atal rhag cael RSV eto.

Ffaith: Cyn i’r rhaglen frechu rhag RSV ddechrau, y gred oedd bod RSV yn achosi tua 400 i 600 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru mewn pobl 75 mlwydd oed neu hŷn.

Er bod y rhan fwyaf o achosion RSV yn digwydd yn yr hydref a’r gaeaf, gallwch gael y brechiad RSV ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r brechlyn RSV yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

Helpwch i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi.

Pam fod y brechlyn RSV yn cael ei gyflwyno i amserlen imiwneiddio arferol y DU?

Cyn i’r rhaglen brechu rhag RSV ddechrau, y gred oedd bod RSV yn achosi tua 400 i 600 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru mewn pobl 75 mlwydd oed neu hŷn.

Ym mis Medi 2023, rhoddodd arbenigwyr brechlyn eu cyngor ar frechu RSV. Dywedon nhw y dylai fod rhaglen frechu RSV i helpu i amddiffyn oedolion hŷn.

Mae rhaglen frechu RSV hefyd ar gael i fenywod beichiog er mwyn helpu i amddiffyn babanod rhag salwch difrifol o ganlyniad i RSV.

Sut ydw i’n amddiffyn fy hun?

Gallwch gael y brechlyn i helpu i amddiffyn rhag RSV.

Gallwch hefyd amddiffyn eich hun ac eraill trwy wneud y canlynol:

  • gorchuddio’ch ceg a’ch trwyn wrth beswch neu disian
  • taflu hancesi papur yn y bin cyn gynted â phosibl
  • golchi’ch dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr cynnes, a
  • chadw eich amgylchedd (er enghraifft, arwynebau caled) yn lân.

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Pwy fydd yn cael cynnig brechlyn RSV?

Cewch gynnig y brechlyn RSV os:

  • ydych chi’n 75 mlwydd oed neu hŷn, neu
  • os ydych chi’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn (beth bynnag fo’ch oedran)

Os ydych chi’n 74 mlwydd oed ac nad ydych chi’n byw mewn cartref gofal, cewch gynnig y brechlyn ar ôl ichi gael eich pen-blwydd yn 75 mlwydd oed.

A oes angen i mi gael y brechlyn bob blwyddyn?

Na. Mae treialon yn dangos bod y brechlyn yn rhoi amddiffyniad da am o leiaf dwy flynedd a’i fod yn debygol o bara’n hirach.

Pa frechlynnau eraill y gallaf fod yn gymwys i’w cael?

Mae brechlynnau arferol eraill sydd ar gael i oedolion hŷn yn cynnwys:

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen imiwneiddio a brechlynnau.

Gallwch hefyd weld yr amserlenni imiwneiddio arferol cyflawn ar gyfer Cymru.

Ynglŷn â’r brechlyn

Sut fyddaf yn cael fy mrechiad?

Bydd y GIG yn rhoi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi methu’r gwahoddiad, siaradwch â’ch practis meddyg teulu.

Gallwch gael y brechlyn RSV ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r brechlyn yn cael ei roi trwy chwistrelliad yn rhan uchaf y fraich.

A ellir rhoi’r brechlyn RSV ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gellir rhoi’r brechlyn RSV ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Bydd yr unigolyn sy’n rhoi eich brechlyn i chi yn rhoi gwybod i chi pa frechlynnau y gellir eu rhoi gyda’i gilydd.

Beth os byddaf yn colli fy apwyntiad?

Dylech ganslo apwyntiad os na allwch fynd iddo. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio eich brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gallwch gael eich brechiad o hyd, ond byddwch heb amddiffyniad am fwy o amser.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

A yw’r brechlyn RSV yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn RSV yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

 

A oes unrhyw sgil-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ol diwrnod neu ddau.

I oedolion hŷn, y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yw: 

  • poen, chwyddo a chochni yn y fraich lle rhoddwyd y pigiad
  • cur pen / pen tost
  • blinder
  • poenau yn y cyhyrau neu’r cymalau

Mae sgil-effeithiau prin neu brin iawn o’r brechlyn yn cynnwys:

  • Syndrom Guillain-Barré (GBS), cyflwr nerfol sy’n gallu achosi gwendid yn y cyhyrau, ac
  • adweithiau alergaidd, megis chwydd yn y wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech chwyddedig, sy’n cosi), anhawster llyncu, a theimlo’n benysgafn.

Mae GBS yn gyflwr prin ond difrifol. Y gred yw bod tua 10 i 25 achos o GBS am bob miliwn dos sy’n cael ei roi i bobl hŷn. Gall GBS ddigwydd ar ôl rhai heintiau cyffredin hefyd. Mae hyn yn cynnwys ffliw, anhwylder ar y stumog, ac yn anaml ar ôl brechlynnau eraill.

Mae’r manteision a ddaw i oedolion hŷn o gael eu brechu yn erbyn RSV yn fwy na’r risg fach y byddant yn datblygu GBS.

Ewch i gael cyngor meddygol ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar gosi, diffyg teimlad, gwendid, poen miniog neu binnau bach yn eich dwylo, eich traed, eich breichiau neu goesau ar ôl cael y brechlyn. Gofynnwch am apwyntiad brys gyda meddyg teulu neu ceisiwch gymorth gan GIG 111 Cymru.

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau’r brechlyn, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion ar-lein:

Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.

Os yw’r sgil-effeithiau’n para am fwy nag ychydig ddyddiau, dylech siarad â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.

Dylech roi gwybod am sgil effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn,  neu drwy ffonio 0800 731 6789  (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yp).

Mae symbol triongl du ar frechlyn neu feddyginiaeth yn golygu ei fod yn cael ei fonitro’n agos am unrhyw sgil-effeithiau. Gallwch helpu drwy roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau y gallech chi eu cael.

A allaf gael RSV os ydw i wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o atal salwch difrifol oherwydd RSV. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau RSV, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau ar y llwybr anadlol, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn RSV?

Ychydig iawn o bobl sydd ddim yn gallu cael y brechlyn RSV.

Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i gael y brechlyn?

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn.

Os ydych chi’n sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn cael y brechlyn, ond dylech chi geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. Os oes gennych amheuon, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi eich brechiad i chi.

Mwy o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13eg Ebrill 2026