Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Brechlyn RSV i fenywod beichiog a’u babanod
Cefndir
Mae RSV (feirws syncytiol anadlol) yn achos cyffredin o heintiau’r llwybr anadlol. I’r rhan fwyaf o oedolion a phlant, mae haint RSV yn achosi salwch ysgafn, megis peswch neu annwyd, sydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, i rai, yn enwedig babanod o dan flwydd oed ac oedolion hŷn, gall RSV fod yn ddifrifol iawn a gall achosi bronciolitis a niwmonia. Mae o leiaf hanner yr holl blant yn dioddef o RSV yn eu blwyddyn gyntaf o fywyd a bydd bron pob un ohonynt wedi ei gael erbyn eu bod yn ddwy oed.
- Gall RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn ond mae’n fwy cyffredin yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
- Mae mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru yn mynd i’r ysbyty oherwydd y feirws. Mae nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf.
- Os ydych wedi cael haint RSV yn y gorffennol, nid yw’n golygu na allwch gael RSV eto.
Cymhwyster ar gyfer y brechlyn
Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i’ch baban, dylech gael eich brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd.
Dylid cynnig y brechlyn i chi tua’r adeg y byddwch yn cael eich apwyntiad cynenedigol 28 wythnos. Os nad ydych wedi clywed erbyn yr adeg hon, cysylltwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu i wneud apwyntiad.
Mae’r brechlyn fwyaf effeithiol rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi yn cael ei eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol.
- Bydd cael y brechlyn ym mhob beichiogrwydd yn rhoi’r amddiffyniad gorau i bob baban rhag salwch RSV difrifol.
- Mae’n bwysig cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd.
I gael gwybodaeth am frechlynnau eraill yn ystod beichiogrwydd, ewch i gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd.
Ynglŷn â’r brechlyn
Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi bodloni safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU ac maent yn ddiogel iawn. Fel yn achos pob meddyginiaeth a brechlyn, bydd unrhyw adroddiadau o sgîl-effeithiau yn cael eu monitro a’u hadolygu’n agos.
Mae’r brechlyn RSV yn ddos unigol a roddir yn rhan uchaf y fraich.
Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn RSV, gallwch ddarllen y daflen i gleifion (Saesneg yn unig).
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mwy o wybodaeth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13eg Ebrill 2026