Neidio i'r cynnwys

Feirws syncytiol anadlol (RSV)

Mae RSV yn feirws cyffredin sy’n lledaenu yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Bydd bron pob plentyn wedi dal RSV erbyn iddo fod yn ddwy oed. Mae’n gyffredin bod plant hŷn ac oedolion yn dal y feirws eto.

I’r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy’n mynd yn sâl o haint RSV fynd i’r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed. 

Mae salwch RSV yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG yn ystod y gaeaf. Mae nifer y bobl y mae angen gofal ysbyty arnynt oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf. 

Sut mae RSV yn lledaenu? 

Mae RSV yn lledaenu drwy ddod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi’u heintio. Pan fydd pobl sydd wedi’u heintio yn pesychu neu’n tisian, maen nhw’n rhyddhau defnynnau bychan bach sy’n cynnwys y firws i’r awyr. Gall yr haint gael ei ledaenu wrth i bobl gyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau sydd â’r firws arnynt hefyd. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael y firws o’r blaen pan oedden nhw’n blentyn. Fodd bynnag, efallai na fydd y ffaith eich bod wedi dal haint RSV o’r blaen yn golygu eich bod wedi eich amddiffyn o hyd, felly gallech gael RSV eto. 

Er mwyn helpu i atal RSV a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch: 

  1. Cam 1:Daliwch e

    Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi’n tisian neu’n peswch.

  2. Cam 2:Biniwch e

    Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl.

  3. Cam 3:Lladdwch e

    Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.

    Cadw eich amgylchedd (er enghraifft, arwynebau caled) yn lân.

Pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael RSV?

Mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn.

Mae pobl eraill mewn mwy o berygl o gael clefyd RSV difrifol, megis:  

  • babanod sy’n cael eu geni’n gynnar  
  • pobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint neu glefyd y galon difrifol, a’r  
  • rhai hynny sydd â system imiwnedd wan. 

Beth yw symptomau haint RSV?

Mae haint RSV yn achosi symptomau tebyg i annwyd. Mae’r rhain yn cynnwys:  

  • peswch  
  • trwyn yn rhedeg neu wedi blocio  
  • tisian, a  
  • blinder.  

Mewn rhai achosion, gall RSV achosi gwichian, diffyg anadl neu dwymyn, a gall arwain at niwmonia (haint yr ysgyfaint).   

Beth yw symptomau RSV mewn babanod?

Mae symptomau mwyaf cyffredin RSV yn cynnwys: 

  • trwyn yn rhedeg neu wedi blocio 
  • twymyn 
  • anadlu cyflym neu swnllyd  
  • peswch ar y frest, sy’n swnio’n wlyb   
  • blinder
  • bod yn ofidus neu’n anodd cysuro, ac
  • anhawster bwydo. 

Mae babanod hefyd mewn perygl o gael heintiau ar yr ysgyfaint megis:  

Gallai RSV hefyd achosi cyflyrau eraill mewn plant ifanc, er enghraifft: 

RSV yw achos mwyaf cyffredin bronciolitis mewn babanod ifanc. Mae bronciolitis yn haint ar yr ysgyfaint sy’n ei gwneud hi’n anodd anadlu a bwydo. Mae’n effeithio ar fabanod a phlant dan ddwy oed ac fel arfer gellir ei drin gartref. Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall fod yn ddifrifol ac efallai y bydd angen gofal dwys ar eich plentyn. Gall weithiau arwain at farwolaeth.  

Dysgwch mwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Adroddiadau

Data