Neidio i'r cynnwys

Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Gwybodaeth am frechu firws syncytial anadlol (RSV)

Cyn i’r rhaglen frechu rhag RSV ddechrau yn y DU, roedd tua 33,500 o blant o dan bump oed yn mynd i’r ysbyty oherwydd y feirws bob blwyddyn. Credir bod RSV yn achosi 5,000 i 7,500 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn yn ystod y gaeaf yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o’r marwolaethau hyn ymhlith oedolion dros 75 oed.

Pam mae yna raglen frechu RSV? 

Ym mis Medi 2023, cynghorwyd y Llywodraeth gan arbenigwyr brechu i gyflwyno rhaglen frechu rhag RSV ar gyfer babanod ac oedolion hŷn. Dechreuodd Cymru ar y rhaglen ym mis Medi 2024.  

Cafodd y rhaglen RSV ei chyflwyno i helpu i amddiffyn babanod ac oedolion hŷn  rhag salwch difrifol bob hydref a gaeaf. Mae’r rhaglen hefyd yn anelu at leihau’r angen am ofal ysbyty ac ymweliadau â meddygon teulu a achosir gan RSV.  

Trawsysgrif – Brechlyn RSV

Pam mae’r brechyn yn cael ei gyflwyno nawr?

Mae’r cydbwyllgor ar imiwneiddio a brechu wedi cydnabod bod RSV yn gallu achosi salwch difrifol ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig. Gall hyn gael effaith sylweddol ar wasanaethau’r GIG yn ystod miseodd y gaeaf.

Erbyn hyn mae brechlynnau effeithiol a diogel wedi cael ei chyflwyno ac mae’r JCVI yn argymell y brechlynnau yn y Deyrnas Unedig.

Pwy fydd yn gymwys?

I ddechrau bydd y rhaglen ar gyfer pobl sydd yn troi’n 75 oed a hefyd i bobl sy’n feichiog p 28 wythnos hyd at enedigaeth.

Bydd pobl yn cael eu gwahodd am yr apwyntiad neu hefyd gall pobl gael eu hanfon i glinigau gan eu bydwraig, a bydd hyn o Fedi’r 1af 2024.

Beth yw’r sgil effeithiau?

Mae’r sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn. Y sgil-efeithiau mwyaf cyffredin yw cur pen a phoen yn y fraich lle cafwyd pigiad. Fel arfer, dydy’r sgil-effeithiau yma ddim yn para’n o hir  gwbl.  Fel gyda phob brechlyn, mae’r sgil-effeithiau’n cael eu monitro’n fanwl iawn gan yr MHRA yn y Deyrnas Unedig.

Mae tystiolaeth yn dangos i ni od brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn arbed salwch difrifol o RSV.

Pam ddylwn i gael y brechlyn?

Mae RSV yn heintus iawn ac yn achos sylweddol o salwch difrifol a marwolaethau mewn pobl hyn. Yng Nghymru , gall y brechlyn atal tua 125 o farwolaethau pob blwyddyn.

Sut allai ddysgu mwy?

Byddwch yn derbyn gwahoddiad uniongyrchol gan eich bwrdd iechyd lleol gyda mwy o wybodaeth am y brechlyn. Yn y cyfamser, gallwch gael mwy o wybodaeth o’r wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Pam ddylwn i gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd? 

Bydd y brechlyn RSV yn amddiffyn eich babi o’r enedigaeth ymlaen. Mae tua 90% o blant erbyn iddyn nhw gyrraedd dwy flwydd oed wedi cael RSV yn barod ond gall RSV fod yn fwy difrifol i fabanod o dan flwydd oed ac mae hyn oherwydd ei bod llwybrau anadlu yn llai. A phan mae wedi cael eu llidio gall achosi trafferth anadlu.

Does dim triniaeth uniongyrchol ar gyfer RSV felly gael eu brechu yw’r ffordd gorau i’w amddiffyn eich babi rhag salwch difrifol.

Ydy’r brechlyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd? 

Mae’r brechlyn wedi bod drwy dreialon a phrofion clinigol trylwyr cyn iddo gael ei gyflwyno. Gall RSV achosi salwch difrifol mewn babanod a gall effeithio ar ei iechyd drwy gydol ei oes. Mae’r brechlyn RSV yn 94% yn effeithiol o ran arbed salwch difrifol o RSV.

Pa frechlynnau eraill sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd?

Yn ogystal ag RSV, mae brechlynnau yn erbyn y pas, COVID-19 a’r ffliw yn cael eu hargymell mewn beichiogrwydd.

Sut alla i ddysgu mwy?

Fel rhan o’ch gofal cynendidigol bydd eich bydwraig neu eich darparwr gofal iechyd yn trafod  yr holl frechlynnau sydd ar gael ei chi yn ystod eich beichiogrwydd.

Grwpiau risg   

Rhaglen i famau i amddiffyn babanod  

Mae RSV yn gallu achosi i fabanod newydd-anedig a phlant bach fynd yn sâl iawn. 

Gall achosi heintiau ar yr ysgyfaint o’r enw bronciolitis neu niwmonia. Gall y cyflyrau hyn ei gwneud hi’n anodd i fabanod anadlu a bwydo. Efallai y bydd angen gofal ysbyty arnynt i’w helpu i wella.  

Mae’r brechlyn RSV yn cael ei gynnig yn ystod beichiogrwydd i helpu i amddiffyn babanod rhag salwch difrifol a achosir gan RSV yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd. 

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen frechu rhag RSV i famau, ewch i dudlaen y rhaglen frechu rhag RSV ar gyfer menywod beichiog a’u babanod.

Rhaglen ar gyfer oedolion hŷn 

Mewn oedolion hŷn, gall RSV achosi problemau anadlu difrifol, yn enwedig yn y rhai sy’n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill. Gall haint RSV achosi niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) neu hyd yn oed farwolaeth.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen frechu rhag RSV ar gyfer oedolion hŷn, ewch i dudalen gwybodaeth am frechu rhag RSV ar gyfer oedolion hŷn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13eg Ebrill 2026