Llid yr ymennydd a chlefyd meningococol
Mae clefyd meningococol yn haint sy’n peryglu bywyd. Clefyd meningococol yw’r term a ddefnyddir I ddisgrifio dau salwch difrifol llid yr ymennydd a septisemia.
Mae llid yr ymennydd yn haint difrifol iawn sy’n achosi llid yn leinin yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.
Gwenwyn gwaed yw septisemia.
- Gall yr afiechydon hyn:
- ymddangos yn sydyn
- datblygu’n gyflym iawn
- lladd mewn oriau, a
- gadael goroeswyr ag anableddau gydol oes.
Gall meningitis daro unrhyw un, ond mae’n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Gall achosi septisemia sy’n peryglu bywyd ac sy’n gallu arwain at niwed parhaol i’r ymennydd neu’r nerfau. Gall llid yr ymennydd arwain at fyddardod, dallineb, epilepsi (ffitiau), anawsterau dysgu ac weithiau at farwolaeth.
Mae 12 grŵp hysbys o facteria meningococol (Neisseria meningitidis). Mae grŵp meningococol B (MenB) yn gyfrifol am tua 9 o bob 10 haint meningococol yn y DU.
Mae clefyd meningococol yn cael ei achosi gan sawl grŵp o facteria meningococol. Grwpiau B, C, W ac Y yw’r rhai mwyaf cyffredin yn y DU.
Pwy sydd mewn perygl?
Mae pawb mewn perygl o ddal clefyd meningococol, ond:
- y rhai dan 5 oed sy’n wynebu’r risg fwyaf; ac
- pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion yw’r ail grŵp sy’n wynebu’r risg fwyaf.
Llid yr ymennydd
Mae llid yr ymennydd yn haint pilennau’r ymennydd, y pilennau sy’n gorchuddio’r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn. Gall gael ei achosi gan amrywiaeth o organebau gwahanol, gan gynnwys bacteria, feirysau a ffyngau. Mae ffurf lai cyffredin y clefyd, llid bacterol yr ymennydd, bob amser yn gysylltiedig â salwch difrifol a gall fod yn angheuol. Ar y llaw arall, mae llid feirysol yr ymennydd, sy’n gallu cael ei achosi gan sawl feirws gwahanol, yn fwy cyffredin ond fel arfer yn llai difrifol.
Yn y DU, achos mwyaf cyffredin llid bacterol yr ymennydd yw haint gyda’r bacteria meningococaidd (Neisseria menigitidis) er bod bacteria arall, gan gynnwys y rhai sy’n achosi clefyd niwmococol a thwbercwlosis, yn gallu achosi llid yr ymennydd.
Clefyd meningococaidd
Yn ogystal ag achosi llid yr ymennydd, gall haint â bacteria Neisseria meningitidis hefyd achosi septisemia meningococaidd (gwenwyn gwaed). Clefyd meningococaidd yw’r enw cyfunol a roddir i glefyd a achosir gan haint Neisseria meningitidis. Gall clefyd fod yn bresennol naill ai fel llid yr ymennydd meningococaidd neu septisemia meningococaidd neu fel y ddau gyda’i gilydd.
Mae bacteria meningococaidd wedi’u rhannu yn grwpiau sero penodol, yn ôl eu capsiwl allanol polysacarid. Y grwpiau sero mwyaf cyffredin sy’n achosi clefyd yn fyd-eang yw grwpiau B, C, A, Y ac W. Mae’r rhan fwyaf o glefyd meningococaidd yn y DU yn cael ei achosi gan grwpiau sero B ac C. Fodd bynnag, mae nifer yr achosion a achosir gan grŵp sero C wedi lleihau’n sylweddol yn y DU ers cyflwyno brechu rheolaidd yn 1999 yn y grwpiau oedran hynny a dargedwyd ar gyfer brechu.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Adnoddau
Data
-
Goruchwyliaeth brechlynnau MenACWY
Mae’r dangosfwrdd rhyngweithiol hwn yn darparu data gwyliadwriaeth ar dderbyniad brechiad MenACWY ledled Cymru, gan…