Neidio i'r cynnwys

Brechlyn Meningococol B (MenB) ar gyfer gonoroea - Ynglŷn â'r brechlyn MenB ar gyfer gonoroea

Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Yng Nghymru, mae’r GIG yn cynnig y brechlyn fesul achos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). 

Efallai y bydd pobl eraill hefyd yn gymwys i gael y brechlyn, yn seiliedig ar gyngor gan weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol. 

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn os ydych:  

  • wedi cael haint bacteriol o ganlyniad i ryw, fel clamydia neu gonoroea, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu  
  • wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf. 

Gall y brechlyn helpu i leihau eich siawns o gael gonoroea ond ni fydd yn dileu’r risg yn llwyr. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag heintiau difrifol eraill, fel llid yr ymennydd (haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a septisemia (gwenwyn y gwaed). 

Gweithredu: Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl, siaradwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol.  

Gallwch ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru ar wefan GIG 111 Cymru.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pwy all gael y brechlyn?

Mae gonoroea yn cael ei ddiagnosio’n fwy cyffredin ymysg GBMSM. Nod y rhaglen frechu hon yw lleihau nifer yr achosion o gonoroea a lleihau eich risg o gael yr haint.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael y brechlyn os ydych chi’n GBMSM ac:  

  • wedi cael haint bacteriol o ganlyniad i ryw, fel clamydia neu gonoroea, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu
  • wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf.

Gall pobl eraill fod yn gymwys hefyd yn seiliedig ar asesiad gan weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol.

Ni fyddwch yn cael gwahoddiad i gael y brechlyn, ond os byddwch yn cysylltu â chlinig iechyd rhywiol neu’n ymweld ag un, ac yn bodloni’r meini prawf a restrir uchod, dylech gael cynnig y brechlyn.

Pam nad yw pob oedolyn yn cael cynnig y brechlyn i helpu i amddiffyn rhag gonoroea?

Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor arbenigwyr brechlynnau ac yn cynnig y brechiad i amddiffyn pobl sydd mewn perygl. Cynigir y brechlyn i bobl sydd fwyaf tebygol o ddal gonoroea. Mae hyn yn helpu i amddiffyn y rhan fwyaf o bobl.

Ynglŷn â’r brechlyn

Pa frechlyn fydd yn cael ei gynnig i mi?

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn 4CMenB. Cyflwynwyd y brechlyn hwn gyntaf i helpu i amddiffyn rhag llid yr ymennydd (haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a septisemia (gwenwyn y gwaed).

Mae’r bacteria sy’n achosi rhai mathau o lid yr ymennydd yn debyg i’r bacteria sy’n achosi gonoroea. Mae ymchwil yn dangos y gall y brechlyn 4CMenB hefyd helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Dyna pam rydych chi’n cael cynnig y brechlyn hwn – i leihau eich siawns o gael gonoroea.

Faint o ddosau sydd eu hangen?

Bydd angen dau ddos ​​arnoch. Rhaid rhoi’r ail ddos ​​o leiaf 4 wythnos ar ôl y dos cyntaf a gellir ei roi pan fyddwch chi’n mynd i’r clinig nesaf, a allai fod ymhen 3 mis, 6 mis neu’n ddiweddarach.

Sut fyddaf yn cael fy mrechu?

Mae’r brechlyn 4CMenB ar gael am ddim gan wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol i’r rhai sy’n gymwys. Gallwch ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf yma ar wefan GIG 111 Cymru.

Mae GIG Cymru yn argymell yn gryf eich bod yn cael y brechlyn 4CMenB cyn gynted ag y bydd yn cael ei gynnig i chi.

Sut mae’r brechlyn 4CMenB yn cael ei roi?

Rhoddir y brechlyn fel pigiad, fel arfer yn rhan uchaf eich braich.

Beth os ydw i eisoes wedi cael y brechlyn 4CMenB?

Os ydych yn byw gyda HIV, os nad oes gennych ddueg neu os oes gennych gyflwr prin o’r enw anhwylder ategol, efallai eich bod eisoes wedi cael dau ddos ​​o’r brechlyn 4CMenB. Os felly, ni fydd angen dosau pellach arnoch. Os mai dim ond un dos o’r brechlyn 4CMenB rydych wedi’i gael, gallwch gael ail ddos ​​o leiaf bedair wythnos ar ôl eich dos cyntaf.

Os oes gennych gyflwr meddygol neu os ydych yn cymryd meddyginiaeth sy’n gwanhau eich system imiwnedd, efallai na fydd y brechlyn yn eich amddiffyn cystal. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cael y brechlyn o hyd os yw’n cael ei argymell. Rhowch wybod i’ch meddyg neu eich nyrs.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Ydy’r brechlyn yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn 4CMenB yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

A allaf i ddal gonoroea o hyd ar ôl i mi gael fy mrechu?

Gall y brechlyn 4CMenB leihau eich risg o ddal gonoroea, ond nid yw’n gwarantu na fyddwch chi’n ei ddal. Hyd yn oed ar ôl cael dau ddos, dylech barhau i fod yn ymwybodol o risgiau a symptomau gonoroea gan nad yw’r un brechlyn 100% yn effeithiol.

Mae astudiaethau diweddar yn dangos y gall y brechlyn 4CMenB ddarparu amddiffyniad o 30% i 40% rhag gonoroea ymysg pobl sydd mewn perygl uchel o gael eu heintio.

Prif fantais y brechlyn yw y gall helpu i leihau’r nifer o heintiau gonoroea. Er efallai na fydd yn atal pob achos, mae’n dal yn ddefnyddiol, gan nad yw dal gonoroea unwaith yn eich amddiffyn rhag ei ​​ddal eto.

Nid yw’r brechlyn 4CMenB yn achosi gonoroea nac yn ei ledaenu.   

Condomau yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun ac eraill rhag gonoroea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, yn cynnwys HIV. Mae hefyd yn bwysig cadw teganau rhyw yn lân a rhoi condom newydd arnynt bob tro y byddant yn cael eu defnyddio. Dylech chi gael prawf rheolaidd am gonoroea os oes gennych chi fwy nag un partner rhywiol. Os byddwch chi’n cael diagnosis o gonoroea, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffen eich triniaeth yn unol â chyfarwyddyd eich meddyg neu nyrs.

Siaradwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol os ydych yn poeni am eich risg o ddal gonoroea neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf ar wefan GIG 111 Cymru.

A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i wedi cael gonoroea o’r blaen?

Dylech. Gallwch gael eich brechu o hyd os ydych wedi cael gonoroea o’r blaen ac wedi gwella ohono. Gallwch hefyd gael eich brechu os oes gennych gonoroea ar hyn o bryd.

Oeddech chi’n gwybod? Y gallwch gael gonoroea eto hyd yn oed os ydych wedi ei gael o’r blaen. 

Oes unrhyw un na ddylai gael y brechlyn 4CMenB?

Ni ellir rhoi’r brechlyn 4CMenB i nifer fach iawn o bobl. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Os oes gennych anhwylder gwaedu, neu system imiwnedd wan, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs clinig cyn i chi gael y brechlyn.

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i gael y brechlyn?

Os ydych yn sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn cael brechlyn. Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os oes gennych amheuon, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi eich brechiad i chi.

Beth os ydw i’n cymryd meddyginiaethau eraill?

Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs am unrhyw feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd neu wedi’u cymryd yn ddiweddar. Dylech hefyd ddweud wrthynt am unrhyw frechiadau eraill rydych wedi’u cael yn ddiweddar. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai fod yn iawn i chi gael y brechlyn.

Mae’r brechlyn yn ddiogel i bobl sy’n byw gyda HIV a’r rhai sy’n cymryd PreP. Gallwch hefyd gael y brechlyn yr un pryd â brechlynnau pwysig eraill, gan gynnwys y rhai yn erbyn HPV, brech M, hepatitis A a hepatitis B. 

Beth yw sgil-effeithiau’r brechlyn 4CMenB?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael. Dim ond am ychydig ddyddiau y dylai sgil-effeithiau cyffredin o’r brechlyn bara.

Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn ar ôl brechu yn cynnwys:

  • poen, cochni neu chwydd lle rhoddir y pigiad i chi
  • cyhyrau a chymalau dolurus
  • teimlo’n sâl yn gyffredinol
  • teimlo’n gyfoglyd, a
  • chur pen/pen tost

Dylech aros am 15 munud cyn i chi yrru os byddwch yn teimlo’n wanllyd ar ôl cael y brechiad.

Os cewch un o’r sgil-effeithiau a restrir uchod, gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o barasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â gyrru na defnyddio peiriannau os ydych yn teimlo’n sâl.

Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am y sgil-effeithiau, ewch i:

Os bydd eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n poeni, cysylltwch â GIG Cymru drwy ffonio 111 neu ffoniwch eich practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech roi gwybod am sgil effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

Beth os oes ofn nodwyddau arna i?

Os oes ofn nodwyddau arnoch chi, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.

Rydw i’n HIV positif; alla i gael y brechlyn o hyd?

Mae’r brechlyn yn ddiogel i bobl sy’n byw gyda HIV a’r rhai sy’n cymryd PreP.

Efallai y byddwch eisoes wedi cael dau ddos ​​o 4CMenB os ydych chi’n HIV positif, neu os oes gennych gyflwr sy’n arwain at system imiwnedd wan neu’n cael triniaeth a allai arwain at hynny. Ni argymhellir cael dosau pellach.

A allaf gael y brechlyn 4CMenB ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gellir rhoi’r brechlyn ar yr un pryd â brechlynnau pwysig eraill, yn cynnwys rhai yn erbyn HPV, brech M, hepatitis A a hepatitis B.

Adnoddau

Gweler y dolenni isod os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn 4CMenB neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn.   

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau. 

Rhagor o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Mehefin 2025