Twbercwlosis (TB)
Mae TB yn haint difrifol sy’n effeithio ar yr ysgyfaint ac weithiau rhannau eraill o’r corff, fel yr ymennydd, yr esgyrn, y cymalau a’r arennau.
Mewn pobl ifanc ac oedolion mae fel rheol yn effeithio ar yr ysgyfaint, ond gall hefyd effeithio ar y chwarennau lymff, yr ymennydd, y cymalau, yr arennau a’r esgyrn.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn gwella’n llwyr ar ôl triniaeth, ond mae hyn fel rheol yn cymryd sawl mis.
Symptomau twbercwlosis
Mae symptomau TB yn amrywiol ac yn dibynnu ar leoliad yr haint. Gall y symptomau cyffredinol gynnwys y canlynol:
- tymheredd uchel
- dim awydd bwyd
- colli pwysau
- chwysu yn ystod y nos a
- blinder
Heb ei drin, mae TB yn y rhan fwyaf o oedolion sy’n iach fel arall yn afiechyd sy’n datblygu’n araf a gall fod yn angheuol yn y pen draw.
Dysgwch mwy
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn neu’r afiechydon y mae’n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Gwybodaeth bellach
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn