Neidio i'r cynnwys

Bacteria meningococol grŵp B (MenB)

Beth yw MenB? 

Mae bacteria meningococol yn achosi’r clefyd meningococol. Gall hyn arwain at ddau salwch difrifol – llid yr ymennydd a septisemia.

Mae MenB yn fyr am facteria meningococol grŵp B. Mae MenB yn un o sawl math (straen) o facteria meningococol. Mae’r mathau mwyaf cyffredin eraill yn cynnwys W, Y ac C.

Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag clefyd MenB, ond nid yw’n amddiffyn rhag straeniau eraill o facteria meningococol. Mae brechlyn arall yn cael ei gynnig i bobl ifanc yn eu harddegau, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau meningococol A, C, W ac Y.

Gall y bacteria meningococol achosi brigiadau o achosion mewn meithrinfeydd, ysgolion a phrifysgolion.

Mae brechiadau meningococol wedi bod yn effeithiol iawn a dyma ein hamddiffyniad gorau yn erbyn clefyd meningococol, a all fod yn beryglus iawn. Fodd bynnag, nid yw llawer o blant wedi’u brechu’n llawn o hyd. Mae’n bwysig eu hamddiffyn oherwydd gallai clefyd meningococol ddatblygu’n gyflym iawn ac achosi problemau iechyd difrifol.

Sut mae bacteria MenB yn achosi salwch difrifol?

Mae bacteria MenB yn byw yng ngwddf tua 1 o bob 10 o bobl heb achosi’r un broblem – mewn gwirionedd, maen nhw’n helpu i adeiladu imiwnedd. Gall y bacteria ledaenu i bobl eraill trwy beswch, tisian neu gusanu.

Weithiau bydd y bacteria yn y gwddf yn mynd I mewn I’r llif gwaed, gan achosi septisemia, neu gallant gyrraedd yr ymennydd, gan arwain at lid yr ymennydd. Gall bacteria MenB achosi septisemia a llid yr ymennydd ar yr un pryd.

Pwy sydd fwyaf tebygol o gael MenB?

Mae MenB yn effeithio ar fabanod a phlant ifanc yn bennaf. Mae hyn am nad yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn i frwydro yn erbyn heintiau eto. Ond gall llid yr ymennydd a septisemia ddigwydd ar unrhyw oedran, felly mae’n bwysig adnabod arwyddion a symptomau’r clefydau.

Gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos o gwbl.

Babanod a phlant bach

  • Twymyn, dwylo a thraed oer
  • Gwrthod bwyd a chwydu
  • Cwynfanllyd, ddim yn hoffi cael eu trin
  • Cysglyd, llipa, ddim yn ymateb
  • Anadlu’n gyflym neu’n rhochian
  • Croen blotiog golau. Smotiau/brech (gweler y prawf gwydr)
  • Crïo’n anarferol, griddfan
  • Y ffontanél (man meddal) yn dynn ac wedi chwyddo
  • Gwddw stiff, ddim yn hoffi goleuadau llachar
  • Confylsiynau neu drawiadau

Ffynhonnell: © meningitisnow.org

Ni fydd brech septisemia meningococol nodweddiadol yn pylu pan fyddwch yn pwyso arni. I’w gwirio, pwyswch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen. Ni fydd pob plentyn yn cael y frech hon. Mae fel arfer yn dechrau fel smotiau bach ond yn datblygu’n gyflym yn batsys porffor dwfn.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn amau ​​meningitis neu septisemia?

Peidiwch ag aros am frech.

Os yw eich baban neu eich plentyn bach yn sâl ac yn gwaethygu, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith.

Gallai baban neu blentyn bach â llid yr ymennydd neu septisemia waethygu’n gyflym iawn. Parhewch i’w wirio.

Credwch yn eich greddf – mynnwch gymorth meddygol ar unwaith.

Cofiwch – ni fydd y symptomau’n ymddangos mewn trefn, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos o gwbl. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am iechyd eich plentyn, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith. Os na allwch gysylltu â’ch meddyg, ewch i adran achosion brys eich ysbyty agosaf.

Mae angen sylw meddygol brys ar rywun sydd â thwymyn a brech nad yw’n pylu dan bwysau. Gallwch wneud y prawf gwydr i wirio a yw brech yn pylu dan bwysau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Meningitis Now (Saesneg yn unig) neu ffoniwch llinell gymorth Meningitis Now ar 0808 80 10 388.

A ellir trin clefyd MenB?

Mae angen i unrhyw un sydd â chlefyd MenB fynd i’r ysbyty ar frys a chael triniaeth â gwrthfiotigau ar unwaith. Os rhoddir triniaeth yn fuan, mae’n fwy tebygol y gellir osgoi anabledd neu farwolaeth.

A ellir atal clefyd MenB?

Mae’r brechlyn MenB wedi’i gynllunio i amddiffyn rhag y rhan fwyaf o heintiau MenB. Ers i’r brechlyn MenB gael ei gyflwyno yn 2015, bu gostyngiad o dros 60% yn nifer yr achosion o’r clefyd MenB ymhlith plant ifanc erbyn trydedd flwyddyn y rhaglen frechu.

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn