Brechlyn niwmococol i fabanod - Ynglŷn â'r brechlyn niwmococol i fabanod
Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Gall heintiau niwmococol effeithio ar unrhyw un, ond mae babanod yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn. Cynigir y brechlyn niwmococol i fabanod fel rhan o raglen frechu reolaidd y GIG. Mae’r brechlyn niwmococol yn cael ei gynnig i bob baban pan fyddant yn:
- 16 wythnos oed, ac yn
- 12 mis oed.
Mae’r brechlyn yn rhoi amddiffyniad da yn erbyn haint niwmococol. Nid yw’n amddiffyn rhag llid yr ymennydd sy’n cael ei achosi gan facteria neu feirysau eraill. Felly, mae’n dal yn bwysig eich bod yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau i edrych amdanynt.
I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau niwmococol, ewch i NHS inform (Saesneg yn unig).
Ynglŷn â’r brechlyn
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mwy o wybodaeth
- Meningitis Now (Saesneg yn unig)
- GIG 111 Cymru – Niwmonia
- Heintiau niwmococol – NHS inform (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Ebrill 2026