Neidio i'r cynnwys

Porth cynllunio ar gyfer gweithio mewn clystyrau

Mae’r porth cymorth cynllunio i glystyrau yn adnodd ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal.

Dylai’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyd-fynd â chyfeiriad strategol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig nod llesiant Cymru Iachach a’r egwyddorion datblygu cynaliadwy / pum ffordd o weithio.

Mae’r adnodd hwn yn rhoi trosolwg o’r prosesau cynllunio yng Nghymru a’r elfennau allweddol i’w hystyried, gan gynnwys yr ystyriaethau/methodolegau ar gyfer asesu ac ymateb i anghenion lleol, gan gysylltu’r ffynonellau gwybodaeth bellach, a chefnogi datblygiad sgiliau.

Mae’r porth cynllunio’n adeiladu ar becynnau cymorth y Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau a Gwybodaeth am Iechyd y Boblogaeth Fesul Pwnc.

Mae hwn yn adnodd newydd, ac rydym yn croesawu eich adborth ar sut y gellir datblygu’r adnodd. Gallwch gyflwyno eich adborth drwy lenwi ffurflen Microsoft neu drwy e-bost [email protected].

Trosolwg o gynllunio yng Nghymru

Mae canllawiau cynllunio cenedlaethol ar gael i hysbysu gwaith cynllunio’r clystyrau, gan gynnwys:

Partneriaid strategol

Rhaid i waith cynllunio gael ei ysgogi gan anghenion y boblogaeth leol ac ni ellir ei wneud ar wahân. Mae gweithio gyda phartneriaid strategol o fewn y system gofal sylfaenol a chymunedol i ddeall anghenion y boblogaeth a chytuno ar y cyd ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn elfen hanfodol o’r broses gynllunio.

Mae’r dirwedd gofal sylfaenol a chymunedol wedi esblygu gyda chyflwyniad cydweithrediadau proffesiynol a grwpiau cynllunio trawsglwstwr, ac ehangu aelodaeth y clystyrau i fod yn dîm amlddisgyblaethol gwirioneddol. Mae’r partneriaid strategol yn cynnwys:

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Sefydlwyd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i:

  • Wella llesiant y boblogaeth.
  • Gwella sut y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu.

Mae Adran 14A y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gosod dyletswydd ar y cyd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol o fewn y byrddau partneriaeth rhanbarthol i gydweithio i:

  • Lunio asesiadau rhanbarthol o anghenion y boblogaeth sy’n nodi anghenion iechyd, gofal a chefnogaeth y boblogaeth.
  • Llunio cynllun ardal ranbarthol sy’n nodi gweledigaeth strategol pum mlynedd ar gyfer y byrddau cynllunio rhanbarthol ac yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth a lefel y gwasanaethau y mae’r partneriaid rhanbarthol yn cynnig eu darparu, neu’n trefnu iddynt gael eu darparu, mewn ymateb i asesiadau o anghenion y boblogaeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol.
  • Darparu adroddiad blynyddol rhanbarthol.
  • Arddangos ymgysylltiad â dinasyddion a chyd-gynhyrchu.

Mae saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru. Dysgwch rhagor am y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yma.

Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwella cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Rhaid i bob bwrdd gynnal asesiad llesiant, cyhoeddi cynllun llesiant lleol a chyhoeddi adroddiad blynyddol. Mae’r cynllun yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Dysgwch rhagor am y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yma.

Grwpiau Cynllunio Trawsglwstwr

Mae’r Grwpiau Cynllunio Trawsglwstwr yn darparu’r ôl-troed lleol ar gyfer cyflawni blaenoriaethau’r byrddau partneriaeth rhanbarthol sydd yng nghynlluniau ardaloedd y byrddau mewn ffordd dactegol. Dylai cynlluniau strategol tair blynedd y grwpiau cynllunio gydgysylltu’r defnydd o’r holl adnoddau sydd ar gael i ateb anghenion lleol, darparu cyfeiriad strategol i hysbysu datblygiad eu cynlluniau clwstwr priodol a chomisiynu gwasanaethau a datblygu cytundebau i gefnogi gweithio mewn partneriaeth. Mae gwybodaeth o’r clystyrau’n sicrhau bod cynllun strategol y grwpiau cynllunio yn cyfleu anghenion iechyd, gofal a llesiant y boblogaeth yn gywir, ac yn cefnogi camau i fynd i’r afael â’r materion a godir ar draws y system. Bydd y grwpiau cynllunio yn cefnogi gweithrediad yr agenda partneriaeth ar y cyd, gan gynnwys sicrhau newid ar amrywiaeth o lefelau, sy’n briodol i’r angen.

Byrddau iechyd

Mae disgwyliad clir y bydd trefniadau cynllunio’r byrddau iechyd yn cyd-fynd â rhai’r byrddau partneriaeth rhanbarthol, y grwpiau cynllunio trawsglwstwr a chlystyrau. Dylai’r byrddau iechyd ddefnyddio ymateb y grwpiau cynllunio i asesiadau rhanbarthol o anghenion y boblogaeth a chynlluniau rhanbarthol y byrddau partneriaeth i hysbysu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig a dylai cynlluniau’r grwpiau cynllunio a’r clystyrau hysbysu mewn modd amlwg  gynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd (a chael eu hysbysu ganddynt), gan ddarparu sylfaen gadarn i ddarparu gofal sy’n agosach at y cartref, gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau.

Clystyrau

Clystyrau yw’r ôl-troed lleol i gefnogi a galluogi gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau aml-ddisgyblaethol ar y cyd ar gyfer y boblogaeth a wasanaethir a dyma’r lefel fwyaf lleol o gynllunio a chydgysylltu gwasanaethau. Bu clystyrau’n llunio cynlluniau clwstwr am nifer o flynyddoedd, a gafodd eu harwain i ddechrau gan ofynion QOF/QIAF y gwasanaethau meddygol cyffredinol (ers 2014) ac yn fwyaf diweddar drwy ganllawiau Cyfarwyddwr Cyffredinol GIG Cymru (2020/2023) a Fframwaith Cynllunio’r GIG (2021/22 ymlaen). Dylid datblygu Cynlluniau Clwstwr i gydgysylltu gweithgareddau ar y cyd ac i hysbysu gwaith dadansoddi, blaenoriaethau a chynlluniau strategol y grwpiau cynllunio ac i gael eu hysbysu ganddynt. Dylai cynlluniau’r clystyrau gael eu hysbysu hefyd gan y wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu a’i chreu o’r cydweithrediadau proffesiynol penodol sy’n bwydo i mewn i ôl-troed y clystyrau.

Cydweithrediadau proffesiynol

Mae cydweithrediadau proffesiynol yn darparu strwythur i gefnogi cysylltiad â chyfoedion i adolygu ansawdd a diogelwch gwasanaethau lleol, rhannu profiadau ac arferion da ar gyfer y maes arbenigedd ac eirioli dros wella gwasanaethau. Mae cydweithrediadau proffesiynol felly’n fforwm delfrydol ar gyfer casglu profiadau gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr y system iechyd a gofal er mwyn hysbysu’r gwaith o bennu blaenoriaethau a chynllunio ar eu cyfer.

Crynodeb o asesiadau a chynlluniau anghenion y boblogaeth

Ôl-troed (mewn trefn maint)

Cyfarwyddiaeth

Allbwn asesu

Allbwn cynllunio

Bwrdd iechyd/rhanbarth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) Asesiad Rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth Cynllun Ardal ar y Cyd
Fframwaith Cynllunio’r GIG Cynllun Tymor Canolig Integredig wedi’i hysbysu a’i ategu gan asesiadau a chynlluniau anghenion y boblogaeth ar lefel y grwpiau cynllunio a’r clystyrau Cynllun Tymor Canolig Integredig, yn cynnwys cynllun ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol
Bwrdd iechyd (Deddf Iechyd Cyhoeddus 2017) Asesiad o Anghenion Fferyllol Penderfyniad mynediad i’r farchnad
Awdurdod lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015) Asesiad Llesiant Cynllun Llesiant
Grŵp cynllunio trawsglwstwr Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) Y Cynllun Tymor Canolig Integredig wedi’i hysbysu a’i ategu gan asesiadau a chynlluniau anghenion y boblogaeth gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y Byrddau Iechyd, y clystyrau a’r Cydweithrediadau Proffesiynol. Cynllun Integredig Strategol y Cynllun Tymor Canolig Integredig
Clwstwr Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) Asesiad o anghenion lleol Cynllun Gweithredu’r Clwstwr
Cydweithrediadau Proffesiynol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) Asesiad o anghenion lleol Gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn bwydo i mewn i gynlluniau’r grwpiau cynllunio a’r clystyrau
Trosolwg o’r cylch cynllunio

Mewn datblygiad.

Amserlen ar gyfer y cylch cynllunio

Mewn datblygiad

Gwybodaeth ategol