Gweithio clwstwr: Asedau sy’n seiliedig ar leoedd
Mae dulliau sy’n seiliedig ar asedau yn ffordd o edrych ar gymuned/poblogaeth o ran yr hyn sydd ganddyn nhw, yn hytrach na’r hyn sydd ddim yno. Mae’n helpu i roi gwerth i sgiliau, gwybodaeth a pherthnasoedd sydd eisoes mewn cymuned, ac i’w defnyddio. Bydd mabwysiadu dull cynllunio sy’n seiliedig ar asedau yn sicrhau bod cymunedau lleol, sefydliadau’r sector cymunedol a gwirfoddol a gwasanaethau statudol yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio, dylunio, datblygu, cyflawni a gwerthuso mentrau iechyd a llesiant.
Mae canllawiau NICE, Community engagement: improving health and wellbeing and reducing health inequalities (Saesneg yn unig), yn disgrifio:
- Defnyddio dulliau o ymgysylltu â’r gymuned sy’n seiliedig ar dystiolaeth (gweler cydweithrediadau a phartneriaethau a rolau cyfoedion a lleyg).
- Bod yn eglur ynghylch pa benderfyniadau y gall pobl mewn cymunedau lleol ddylanwadu arnynt a sut y bydd hyn yn digwydd.
- Cydnabod, gwerthfawrogi a rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yr holl bartneriaid, yn enwedig y rhai o’r gymuned leol (gweler yr adran ar ddysgu a hyfforddiant).
- Amlygu nodau pob partner wrth ymgysylltu â’r gymuned.
- Parchu hawliau cymunedau lleol i gymryd cymaint neu cyn lleied o ran ag y gallant neu ag y maen nhw’n ei ddymuno.
- Sefydlu a hyrwyddo rhwydweithiau cymdeithasol a chyfnewid gwybodaeth a syniadau (ar faterion megis blaenoriaethau a gwerthoedd diwylliannol gwahanol).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu adnoddau i gefnogi unigolion a chymunedau i gael eu grymuso, gan gefnogi canlyniadau un a dau Model Gofal Sylfaenol Cymru (PCMW). Mae gweithredoedd sy’n arwain at fwy o reolaeth unigol a chyfunol yn ei hanfod yn hyrwyddo iechyd. Mae grymuso hefyd yn gwella perthnasoedd cymdeithasol ar lefel unigolyn a phoblogaeth, a phan fydd unigolion wedi’u grymuso yn cymryd rhan mewn gwaith gwella gwasanaethau, mae datblygiad a’r ddarpariaeth o wasanaethau yn well ac maen nhw’n fwy tebygol o fodloni anghenion defnyddwyr gwasanaeth. Mynediad at yr adnoddau i gefnogi grymuso unigolion a chymunedol.
Nid rhywbeth y mae gweithwyr proffesiynol neu sefydliadau yn ‘ei wneud’ i gymuned yw grymuso, ein gwaith ni yw creu’r amodau lle gall cymunedau gymryd y grym hwnnw. Nod yr Egwyddorion Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Grymuso yw annog ymarfer myfyriol wrth weithio gyda chymunedau ac ar eu cyfer.
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm ymbarél sy’n disgrifio dull person-ganolog o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Mae asedau cymunedol yn cynnwys grwpiau cymunedol, ymyriadau a gwasanaethau y gellid eu darparu ar-lein neu yn bersonol, yn ogystal ag adeiladau, tir neu hyd yn oed person o fewn cymuned. Gall helpu i rymuso unigolion i gydnabod eu hanghenion, eu cryfderau a’u hasedau personol eu hunain ac i gysylltu â’u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda’u hiechyd a’u llesiant. Dysgwch fwy am bresgripsiynu cymdeithasol.
Crewyd y Porwr Prosiectau Gofal Cymdeithasol gan Ofal Cymdeithasol Cymru i gysylltu pobl er mwyn rhannu dysg. Mae ar gyfer pobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac sydd eisiau gwybod am yr hyn sy’n digwydd ledled Cymru. Mae yma gasgliad o enghreifftiau o ymarfer arloesol a mentrau ymchwil sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Ewch i’r Porwr Prosiectau gofal cymdeithasol.
Mae’r wybodaeth i gefnogi clystyrau i nodi eu hiechyd a’u gofal, ac asedau cymunedol o fewn ôl troed y clwstwr yn cynnwys:
- Gwydr hanner llawn: sut y gall dull seiliedig ar asedau wella iechyd a lles cymunedol (Saesneg yn unig)
- Hyrwyddo llesiant unigol a chymunedol – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Offeryn Mapio Cymunedol (Saesneg yn unig)
- Mae MapDataCymru yn ffynhonnell ar gyfer data’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan ddarparu platfform data a rennir i aelodau’r cyhoedd ac awdurdodau cyhoeddus.