Gweithio clwstwr: Monitro a gwerthuso
Mae monitro yn cyfeirio at osod targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd a chyflawniad, ac i wirio a yw’r mewnbynnau yn cynhyrchu’r allbynnau bwriadol. Nid dim ond dangos llwyddiant yw diben gwerthuso; mae hefyd yn ffordd o ddeall pam nad yw pethau’n gweithio (gan fod dysgu o gamgymeriadau yr un mor werthfawr). Nid darganfod popeth yw diben monitro a gwerthuso yn ymwneud â darganfod (byddai hynny’n frawychus), ond mae’n ymwneud â chanolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig.
Adnoddau monitro a gwerthuso
Mae cyfoeth o adnoddau i lywio gweithgareddau monitro a gwerthuso, gan gynnwys:
- Canllaw rhagarweiniol i werthuso (Data Cymru): Bydd y canllaw hwn yn cefnogi eich dealltwriaeth o beth yw gwerthuso a pham ei fod yn bwysig i’ch prosiectau, rhaglenni a pholisïau; yn eich rhoi ‘ar ben ffordd’, er mwyn i chi’n deall pam a phryd y gallech ddewis gwerthuso; yn rhoi cyfarwyddyd i chi ynghylch y dulliau a’r prosesau y gallech eu defnyddio i gynnal gwerthusiad effeithiol; ac yn cynnig awgrymiadau o ran arweiniad a chefnogaeth bellach.
- The Magenta Book: Guidance for evaluation (Trysorlys EF) (Saesneg yn unig): Y Llyfr Magenta yw canllaw y llywodraeth ganolog o ran argymhellion arfer gorau i’w hadrannau o ran gwerthuso; mae Data Cymru yn argymell yr adnodd hwn cyn eraill.
- Mae Timau Astudiaethau Ymatebol Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd (PHIRST), a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) (Saesneg yn unig), yn darparu gwerthusiadau amserol a hygyrch o ymyriadau iechyd cyhoeddus. Mae’r cynllun PHIRST yn cysylltu timau academaidd â llywodraeth leol a sefydliadau iechyd cyhoeddus er mwyn gwerthuso ymyriadau iechyd cyhoeddus sydd eisoes yn digwydd ledled y DU.
Gall cymuned ymarfer Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru roi mynediad at hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi gweithgareddau monitro a gwerthuso. Cofrestrwch drwy e-bostio [email protected]
Dyma rai o fesurau’r system:
- Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru
- Dangosyddion allweddol Model Gofal Sylfaenol Cymru – Yn cael ei ddatblygu
Modelau rhesymeg
Gall modelau rhesymeg helpu i wirio’r elfennau sydd angen dod ynghyd i gynllunio, cyflawni a gwerthuso prosiect yn llwyddiannus. Gellir eu hintegreiddio i gynlluniau prosiect o’r cychwyn cyntaf, neu gallant lywio cynllun monitro a gwerthuso pwrpasol trwy ddatgelu’r canlynol:
- Mewnbynnau : Y pethau allweddol y mae angen i ni fuddsoddi ynddyn nhw/eu sefydlu er mwyn cefnogi’r gweithgaredd.
- Gweithgareddau: Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’r mewnbynnau.
- Allbynnau: Yr hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu o ganlyniad i’r gweithgareddau.
- Canlyniadau: Beth fydd ein cynnyrch yn ei gyflawni ar gyfer pobl neu wasanaethau (nodau).
- Effeithiau: Uchelgeisiau terfynol lefel uchel e.e., pedair amcan Cymru Iachach.
- Rhwystrau: Yr hyn a allai fod yn anodd dylanwadu arno neu ei oresgyn (e.e., ffactorau allanol).
- Rhagdybiaethau: Yr hyn yr ydym yn gobeithio sydd yn ei le yn barod (amodau cefnogol, ac ati).
Mae model rhesymeg yn ceisio sefydlu cysylltiadau dilyniannol rhwng yr elfennau uchod, a hynny ar ffurf tabl neu diagram aml-res. Weithiau, bydd yn haws i’w llenwi o’r dde i’r chwith, yn hytrach na’r chwith i’r dde (h.y. dechrau gyda’r mewnbynnau). Mae cyngor ar ddatblygu modelau rhesymeg yn cynnwys:
- Modelau rhesymeg (Data Cymru): Defnyddio modelau rhesymeg i gynllunio, mapio a nodi’r gweithgareddau a’r mewnbynnau sy’n arwain at ganlyniadau, ac i ddeall y newidiadau bwriadol a phwy fyddai’n atebol amdanynt.
- Defnyddio modelau rhesymeg wrth werthuso (Yr Uned Strategaeth) (Saesneg yn unig): Paratowyd y briff hwn gan yr Uned Strategaeth ar gyfer GIG Lloegr i fod yn rhan o raglen hyfforddiant i gefnogi gwerthusiad cenedlaethol a lleol o raglen a safleoedd Vanguard.
Ehangu prosiectau
Diben prosiectau peilot yw gwahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gweithio o’r hyn sydd ddim yn gweithio. Gall ehangu pethau sy’n gweithio ar raddfa fach i fod ar raddfa fwy (e.e. bwrdd iechyd neu Gymru gyfan) fod yn heriol; mae’r cyngor i’w gael yn yr adnoddau canlynol:
- Enghreifftiau Bevan (Comisiwn Bevan): Mae rhaglenni arloesi Comisiwn Bevan yn cefnogi ac yn galluogi gwneuthurwyr newid i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal i holl ddinasyddion Cymru a thu hwnt.
- Mae Sefydliad Calon y Ddraig yn hyfforddi arweinwyr gofal iechyd y dyfodol ac yn paratoi timau ar gyfer ehangu eu datrysiadau ar draws eu system a’r byd ehangach.
- Yn erbyn y disgwyl: Llwyddo i ehangu arloesedd yn y GIG (Uned Arloesi, heb ddyddiad) (Saesneg yn unig): Mae’r adroddiad hwn gan yr Uned Arloesi a’r Sefydliad Iechyd yn galw am ddulliau newydd o ehangu arloesiadau gofal iechyd profedig; mae’n tynnu sylw at yr angen i greu’r amodau cywir i ledaenu’r rhain yn llwyddiannus ar draws y GIG.
- Lledaenu ac ehangu arloesedd a gwelliant (BMJ 2019;365:l2068): Mae lledaenu arloesedd ar draws y system gofal iechyd yn heriol ond yn bosibl yn gyraeddadwy trwy wahanol resymeg: mecanistaidd, ecolegol a chymdeithasol.