Neidio i'r cynnwys

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Am y newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant

Mae’r amserlen imiwneiddio (brechu) reolaidd i blant yng Nghymru yn cael ei diweddaru. 

Mae’r newid hwn yn cynnig amddiffyniad i blant rhag brech yr ieir, a gwell amddiffyniad fyth rhag clefydau fel y frech goch. 

Pa newidiadau fydd yn digwydd yn 2026? 

Apwyntiad 18 mis oed: 

  • Ar 1 Ionawr 2026, ychwanegir apwyntiad brechu newydd at yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru yn 18 mis oed.  
  • Bydd babanod yn cael y brechlyn MMRV yn yr apwyntiad 18 mis hwn. Gweler yr adran ‘Cyflwyno’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela)’ isod. Bydd babanod hefyd yn cael dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1
  • Mae’r dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn helpu i amddiffyn rhag Hib (Haemophilus influenzae math b). Math o germ yw Hib sy’n gallu achosi afiechydon difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys llid yr ymennydd (haint o amgylch yr ymennydd) a niwmonia (haint ar y frest). Yn y gorffennol, roedd amddiffyiad rhag Hib yn cael ei roi fel rhain o’r brechlyn Hib/MenC.

Cyflwyno’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela) 

Ar 1 Ionawr 2026, cafodd brechlyn newydd o’r enw MMRV ei ychwanegu at yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant. Mae MMRV yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela).

Rhoddir y brechlyn MMRV i fabanod yn rhad ac am ddim gan y GIG fel rhan o’u brechiadau rheolaidd. Mae’r brechlyn MMRV wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd lawer.

  • Rhoddir y dos cyntaf i fabanod pan fyddant yn 12 mis oed
  • Rhoddir yr ail ddos ​​pan fyddant yn 18 mis oed (gweler ‘Apwyntiad 18 mis oed’ isod).

Mae’r brechlyn MMRV yn cael ei roi i rai plant ifanc eraill hefyd. Mae hyn yn dibynnu ar oedran plant ac a ydyn nhw wedi cael haint brech yr ieir neu frechlyn brech yr ieir o’r blaen. 

Mae’r brechlyn MMR yn dal i gael ei roi i rai plant hŷn neu oedolion. Mae’n cael ei roi i bobl a fethodd un neu’r ddau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys MMR, neu bobl sydd ddim yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.

Mae’n bwysig cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Gallwch ddysgu rhagor am y brechlyn MMRV yn brechlynnau MMRV a MMR.

Rhaglen dal i fyny brech yr ieir

Mae rhaglen dal i fyny brech yr ieir ar gyfer plant cymwys rhwng 3 blwydd a 4 mis oed i ychydig o dan 6 oed. Bydd y rhaglen hon yn cynnig un dos o’r brechlyn MMRV ac yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. Mae ar gyfer plant nad ydynt wedi cael haint brech yr ieir neu ddau ddos o frechlyn brech yr ieir yn y gorffennol. 

Mae atebion i gwestiynau cyffredin ar gael yn yr adran ‘Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau‘ isod. 

Pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi a phryd?  

Gan fod yr amserlen imiwneiddio yn newid, bydd cyfnod byr o addasu

Bydd yr hyn y disgwylir i’ch plentyn gael yn dibynnu ar ei oedran ar 1 Ionawr 2026, pan fydd y rhaglen newydd yn dechrau. 

Gwybodaeth:

Mae’r canllaw cymhwysedd ar gyfer brechu isod yn dangos pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi i blant a phryd. Bydd eich nyrs practis neu’ch meddyg teulu yn cadarnhau cymhwysedd eich plentyn.

Mae’n bwysig bod plant yn cael eu brechlynnau cyn gynted â phosib ar ôl cael cynnig

Gweler y rhaglen frechu gyflawn ar gyfer Cymru.

Mae eich plentyn yn 12 mis oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2026
Oedran Amserlen frechu
8 wythnos oed 6 mewn 1
MenB
Rotafeirws
12 wythnos oed 6 mewn 1
MenB
Rotafeirws
16 wythnos oed 6 mewn 1
PCV
12 mis oed MMRV
PCV
MenB
18 mis oed 
(Apwyntiad newydd)
MMRV
6 mewn 1
3 blwydd 4 mis oed 4 mewn 1
Mae eich plentyn yn hŷn na 12 mis oed a hyd at 18 mis oed ar 1 Ionawr 2026

Os bydd eich plentyn eisoes wedi cael ei frechiadau 12 mis oed, gan gynnwys MMR, rhoddir:

Oedran Amserlen frechu
18 mis oed
(Apwyntiad newydd)
MMRV
6 mewn 1
3 blwydd 4 mis oed MMRV
4 mewn 1
Mae derbyn 3 dos o frechlyn sy’n cynnwys MMR yn ddiogel.

Os cafodd eich plentyn ei frechiadau 16 wythnos oed, ond NAD yw wedi cael ei frechiadau 12 mis oed, siaradwch â’ch nyrs practis neu’ch meddyg teulu.

Mae eich plentyn yn hŷn na 18 mis oed a hyd at 3 blwydd a 4 mis oed ar 1 Ionawr 2026

Os bydd eich plentyn wedi cael ei frechlynnau i gyd hyd yma, ac wedi cael y brechlyn MMR yn ei apwyntiad 12 mis oed, rhoddir:

Oedran Amserlen frechu
3 blwydd 4 mis oed MMRV
4 mewn 1
Noder, nid yw pobl yn y grŵp oedran hwn yn gymwys ar gyfer yr apwyntiad 18 mis oed.
Mae eich plentyn yn hŷn na 3 blwydd a 4 mis oed i ychydig o dan 6 oed ar 1 Ionawr 2026

Bydd eich plentyn yn cael cynnig y brechlyn MMRV fel rhan o raglen dal i fyny ar gyfer brech yr ieir, os:

  • yw wedi cael ei frechlynnau, gan gynnwys MMR yn 12 mis oed a 3 blwydd a 4 mis oed, ond
  • nad yw wedi cael haint brech yr ieir na’r brechlyn rhag brech yr ieir.

Bydd eich plentyn yn derbyn llythyr yn ei wahodd i gael ei frechiad.

Os NAD yw eich plentyn wedi cael ei frechiadau yn 3 blwydd a 4 mis oed, siaradwch â’ch nyrs practis neu’ch meddyg teulu.

Mae eich plentyn yn 6 oed neu yn hŷn ar 1 Ionawr 2026

Nid yw plant a aned ar neu cyn 31 Rhagfyr 2019 yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.

Brechlynnau ar gyfer plant oedran ysgol a phobl ifanc

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau am frechlynnau ar gyfer plant oedran ysgol a phobl ifanc.

Cwestiynau cyffredin am y newidiadau

Oes angen i mi roi paracetamol i’m babi ar ôl iddo gael ei frechiadau 16 wythnos?

Gall paracetamol helpu i ostwng tymheredd uchel a lleihau anghysur. 

gael cyngor ar roi paracetamol i fabanod ar ôl y brechlyn MenBewch i: 

Meningococol grŵp B (MenB) – Iechyd Cyhoeddus Cymru  

A yw’n iawn i’m plentyn gael y brechlyn Hib (haemophilus influenzae math b) yn 18 mis oed os cafodd y brechlyn yn 12 mis oed?

Ydi. Mae astudiaethau wedi dangos bod symud y dos Hib (haemophilus influenzae math b) i 18 mis yn helpu i amddiffyn plant am gyfnod hirach. Mae hyn oherwydd bod cyrff plant hŷn yn ymateb yn gryfach i’r brechlyn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Awst 2025