Neidio i'r cynnwys

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae newidiadau yn cael eu gwneud i’r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru yn ystod 2026.

Mae gwybodaeth fanwl am newidiadau i argymhellion brechu ar gyfer babanod a phlant, yn cynnwys cymhwysedd, ar gael isod ar y dudalen. Am fanylion pellach am y newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant a gyflwynir yn 2025 a 2026, gweler Polisi Llywodraeth Cymru isod:  

Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 

Mae pecyn cymorth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi’i baratoi, sy’n crynhoi’r holl adnoddau ac offer i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy’r newidiadau i’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant. 

Mae set sleidiau hefyd wedi’i chreu i amlygu cyhoeddiadau allweddol.

Adnoddau hyfforddiant imiwneiddio a digwyddiadau

Bydd newidiadau sylweddol i’r amserlen yn 2026.   

Er mwyn eich cadw’n wybodus am y newidiadau hyn, gallwch ddod o hyd i’n sesiynau codi ymwybyddiaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys setiau sleidiau wedi’u recordio, sesiynau cinio a dysgu ar gyfer gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweminarau holi ac ateb.

Cefndir

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio.  

Mae datganiadau a gyhoeddwyd gan y JCVI yn nodi’r prif newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant yn 2025 a 2026. I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, darllenwch ddatganiadau’r JCVI isod:

Pa frechlynnau fydd yn cael eu rhoi, a phryd? 

Mae tudalen we amserlenni imiwneiddio rheolaidd Cymru a’r dogfennau cysylltiedig yn cwmpasu amserlen imiwneiddio gyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cymru.

Mae offer cymhwysedd brechu wedi’u datblygu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i benderfynu a yw plant yn gymwys i gael eu brechu o dan y newidiadau.

Mae’r offeryn cymhwysedd MMRV hwn yn berthnasol dim ond o 1 Ionawr 2026.

Adnoddau cymhwysedd allanol

Cyfrifiannell cymhwysedd ar gyfer brechu plant Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA)

Darllenwch dogfen bolisi Cymru cyn defnyddio cyfrifiannell cymhwysedd brechu plant UKHSA. 

Pa newidiadau fydd yn digwydd yn 2026?

Trafododd y JCVI opsiynau ar gyfer newidiadau angenrheidiol i’r amserlen imiwneiddio plant. Mae’r cyd-bwyllgor wedi gwneud yr argymhellion canlynol i’w gweithredu o 1 Ionawr 2026.

Apwyntiad 18 mis oed newydd 

  • O 1 Ionawr 2026, ychwanegir apwyntiad brechu newydd at yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru. Bydd yr apwyntiad newydd yn digwydd pan fydd babanod yn 18 mis oed.
  • Yn yr apwyntiad 18 mis oed hwn, bydd babanod yn cael y brechlyn MMRV a dos ychwanegol o’r brechlyn amlfalent DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) sy’n cynnwys Hib.

Cyflwyno rhaglen frechu rhag farisela (brech yr ieir) reolaidd y GIG

Mae brechu rhag farisela yn cael ei gyflwyno i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru o 1 Ionawr 2026 gan ddefnyddio’r brechlyn cyfun rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela (MMRV). Bydd plant sydd i fod i gael eu brechlyn MMR cyntaf neu eu hail ddos o 1 Ionawr 2026 yn cael cynnig y brechlyn MMRV cyfun yn lle’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR).

Brechiadau rheolaidd: 

  • Rhoddir y dos cyntaf o MMRV i fabanod yn 12 mis oed
  • Rhoddir yr ail ddos ​​o MMRV yn 18 mis oed (gweler ‘apwyntiad 18 mis oed’ isod).

Nid oes brechlyn ‘farisela yn unig’ yn cael ei gynnig yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru.

Rhaglen dal i fyny ddetholus Farisela 

  • Bydd rhaglen dal i fyny ddetholus gyda MMRV hefyd ar gyfer plant hŷn sydd heb hanes o frech yr ieir neu frechiad farisela presennol, i helpu i gyflymu rheolaeth ac i leihau trosglwyddiad yn y boblogaeth ymhellach.
  • Bydd y rhaglen dal i fyny MMRV un dos ddetholus yn cael ei chyflwyno rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon, cyfeiriwch at yr adran Pa frechlynnau fydd yn cael eu rhoi, a phryd? ar y dudalen we hon. Defnyddiwch yr offer cymhwysedd i gadarnhau amseriad a chymhwysedd ar gyfer cleifion unigol.

Dylid asesu a rheoli plant â chofnodion imiwneiddio anghyflawn gan ddefnyddio algorithm imiwneiddio ansicr neu anghyflawn UKHSA, sy’n cael ei ddiweddaru gyda’r newidiadau hyn.

Y rheswm dros y newidiadau:

Mae farisela (brech yr ieir) yn glefyd heintus iawn a achosir gan y feirws varicella-zoster. Nodweddir haint farisela gan bresenoldeb brech goslyd a smotiog. Mae’r rhan fwyaf o achosion o farisela ymhlith plant yn gymharol ysgafn ac mae’r salwch yn gwella heb ymyrraeth feddygol. Fodd bynnag, gall rhai plant ddatblygu cymhlethdodau, a all arwain at arhosiad yn yr ysbyty ac yn anaml iawn gall arwain at farwolaeth.

Yn aml, nid yw arosiadau yn yr ysbyty a achosir gan farisela yn cael eu hadrodd yn ddigonol oherwydd gwallau codio mewn data rheolaidd. Mae llawer o dderbyniadau i’r ysbyty yn deillio o gymhlethdodau o farisela, megis: llid yr isgroen, heintiau streptococol grŵp A ymledol, neu strôc yn ystod plentyndod, nad ydynt o bosibl yn gysylltiedig â farisela yng nghofnodion yr ysbyty. Efallai y bydd cymhlethdodau eraill hefyd sy’n gysylltiedig â farisela nad ydynt wedi’u deall na’u dogfennu’n llawn eto.

Nod cyflwyno’r brechlyn MMRV i’r rhaglen i blant yw lleihau nifer yr achosion o heintiau’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela a chymhlethdodau cysylltiedig. Nid yn unig i leihau nifer yr achosion o glefydau, ond i ddileu’r frech goch a rwbela, ac o bosibl farisela.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn:

Brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) 

Nid yw’r brechlyn MMR, sy’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela, ar gael mwyach fel rhan o’r rhaglen reolaidd i blant y GIG o 1 Ionawr 2026. Bydd ar gael i’w ddefnyddio y tu allan i’r rhaglen reolaidd i blant, er enghraifft unigolion hŷn nad ydynt wedi derbyn dau ddos ​​o MMR ac nad ydynt yn gymwys i gael brechlyn farisela).

Brechlyn amlfalent DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) sy’n cynnwys Hib 

Mae angen dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn yr apwyntiad 18 mis oed i gymryd lle’r Hib, a roddwyd yn flaenorol gyda’r brechlyn Menitorix© (Hib/MenC) yn 12 mis oed. Bydd hyn yn helpu i roi amddiffyniad tymor hwy yn erbyn haint Hib.

Mae’r ymweliad brechu 6 mewn 1 ychwanegol ar gyfer babanod yn 18 mis oed yn effeithio ar y rhaglen HepB newyddenedigol ddetholus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am newidiadau i’r rhaglen frechu HepB newyddenedigol ddetholus

Brechlyn meningococol Grŵp C 

O ganlyniad i lwyddiant y rhaglen MenACWY i bobl ifanc wrth reoli clefyd meningococol C ar draws y boblogaeth, ni argymhellir dos o frechlyn sy’n cynnwys meningococol C (MenC) i fabanod 12 mis oed mwyach.

Fodd bynnag, mae’n bwysig:

  • sicrhau bod nifer uchel o unigolion yn manteisio ar y brechlyn MenACWY*,
  • cael gwyliadwriaeth dda o haint meningococol, a
  • monitro effaith y rhaglen frechu a’r dirywiad disgwyliedig yn yr afiechyd.

*rhoddir y brechlyn MenACWY yn rheolaidd i bobl ifanc 13 a 14 oed (blwyddyn ysgol 9). Rhoddir brechiadau MenACWY ychwanegol i’r rhai sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol.  

Gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechlyn MenACWY.

I gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn, gweler y cwestiynau cyffredin isod, a’n tudalen Cwestiynau Cyffredin ar SharePoint (Saesneg yn unig) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).

Neu cyfeiriwch at Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru ar SharePoint (Saesneg yn unig) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).

Crynodeb o newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant o 1 Ionawr 2026
Oedran Amserlen frechu
8 wythnos oed 6 mewn 1

MenB

Rotafeirws

12 wythnos oed 6 mewn 1

MenB

Rotafeirws

16 wythnos oed 6 mewn 1

PCV

12 mis oed  MMRV

PCV

MenB

18 mis oed

(APWYNTIAD NEWYDD) 

MMRV

6 mewn 1

3 blwydd 4 mis oed 4 mewn 1

Gweler ‘Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol‘ uchod am offer cymhwysedd manwl.


Cwestiynau cyffredin am y newidiadau

Pam mae angen apwyntiad brechu 18 mis newydd?

O 1 Ionawr 2026, bydd apwyntiad rheolaidd newydd yn 18 mis oed yn cael ei drefnu ar gyfer y rhai a aned ar 1 Gorffennaf 2024 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Yn ystod yr apwyntiad hwn, dylid rhoi dos ychwanegol o’r DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) a’r ail ddos ​​MMRV.

Dylid rhoi dos ychwanegol o frechlyn amlfalent sy’n cynnwys Hib (y brechlyn chwefalent DTaP/IPV/Hib/HepB a roddir yn ystod babandod) yn 18 mis oed i ddisodli cydran Hib y brechlyn Hib/MenC a roddwyd yn 12 mis oed. Mae hyn yn gofyn am gyflwyno apwyntiad newydd yn 18 mis oed.

Mae’r apwyntiad 18 mis oed newydd yn gyfle i roi’r ail ddos ​​o’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela (MMRV). Bwriad brechu’n gynharach yn ystod plentyndod yw hybu imiwnedd yn gynt a lleihau brigiadau o achosion trwy gynyddu nifer y plant sy’n cael eu brechu cyn mynd i feithrinfeydd neu leoliadau addysg gynnar.

Ffynonellau cyfeirio:

1.  Datganiad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant (Saesneg yn unig)

2. Datganiad JCVI ar raglen frechu farisela (brech yr ieir) yn ystod plentyndod (Saesneg yn unig)

Canllawiau

Canllawiau ar newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru: 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Mae’r ffurflen cofnodi imiwneiddio heb ei drefnu hwn yn berthnasol dim ond o 1 Ionawr 2026.

Llythyr eglurhaol CYPrIS am y newid yn yr amserlen

Mae’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru wedi cael ei diweddaru yn CYPrIS i adlewyrchu’r canlynol: 

  • Mae’r brechlyn Meningococcal Grŵp B (MenB) wedi’i amserlennu ar gyfer 12 wythnos oed
  • Mae’r brechlyn Niwmococol Cyfun (PCV) wedi’i amserlennu ar gyfer 16 wythnos oed

Bydd unrhyw apwyntiadau sy’n cael eu gwneud ar neu ar ôl 3 Tachwedd yn dangos newidiadau’r amserlen newydd. 

Llyfr Gwyrdd – Imiwneiddio rhag clefydau heintus

Mae gan y Llyfr Gwyrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau a gweithdrefnau brechu (Saesneg yn unig), ar gyfer clefydau heintus ataliadwy drwy frechu yn y DU.  

Adnoddau pellach

Cyfeiriwch at y ddogfen polisi ganlynol ar gyfer Cymru cyn defnyddio’r dogfennau allanol canlynol.

Y brechlyn 6 mewn 1

Hepatitis B

Brechlyn MenACWY

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer brechlynnau ar gwefan Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ionawr 2026