Neidio i'r cynnwys

Brechlynnau ar gyfer beichiogrwydd - Gwybodaeth brechu yn ystod beichiogrwydd

Byddwch yn cael cynnig brechlynnau yn ystod eich beichiogrwydd. Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o’ch amddiffyn chi a’ch baban rhag salwch difrifol. 

Diogelu chi a’ch baban

Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o frwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a’ch baban.

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. 

Cyn neu ar ôl beichiogrwydd 

Mae’r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Brechlyn byw yw’r MMR ac felly ni argymhellir ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, fe’i hargymhellir ar gyfer menywod nad ydynt wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn naill ai cyn neu ar ôl beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi neu ar ôl i’ch baban gael ei eni. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch gyda’ch bydwraig neu’ch practis meddyg teulu. Ewch i dudalen brechlyn MMR am ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR.

Pa frechlynnau sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd? 

Argymhellir brechiadau i amddiffyn rhag y pas (pertwsis), feirws syncytiol anadlol (RSV) a’r ffliw yn ystod beichiogrwydd i helpu i’ch cadw chi a’ch baban yn ddiogel. 

Brechlyn  Pryd i gael y brechlyn 
Brechiad y pas (pertwsis)  Wedi’i gynnig o 16 wythnos. 

Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.

Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i’ch baban gael ei amddiffyn o adeg ei eni, gan y byddwch yn trosglwyddo’ch gwrthgyrff iddo cyn iddo gael ei eni. Argymhellir y brechlyn pas bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. 
Brechlyn RSV (feirws syncytiol anadlol)  Wedi’i gynnig o 28 wythnos. 

Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. 

Fe’i cynigir drwy gydol y flwyddyn. Argymhellir yn ystod pob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae’r brechlyn RSV yn ystod beichiogrwydd yn cynnig yr amddiffyniad gorau i’ch babi rhag RSV. 
Ffliw (firws ffliw) Wedi’i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd).

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.   

Mae’r brechlyn ffliw ar gael rhwng mis Medi a mis Mawrth, ac fe’i argymhellir bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch babi.
Brechlyn COVID-19 Gellir rhoi’r brechlyn COVID-19 ar unrhyw adeg o’ch beichiogrwydd.

Mae’n bwysig bod menywod beichiog yn cael yr holl ddosau a argymhellir o’r brechlyn COVID-19 cyn gynted â phosibl. Mae adroddiadau o bob cwr o’r byd yn dangos bod brechlynnau Pfizer a Moderna yn ddiogel i’w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.  

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, siaradwch â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu nyrs practis. I drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechlynnau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu siaradwch â’ch bydwraig. 

Cael mynediad i’r llyfryn dwyieithog am wybodaeth am frechu yn ystod beichiogrwydd.

Brechlynnau eraill i’w trafod gyda’ch bydwraig 

Mae’n bosibl y cewch gynnig brechlynnau eraill yn ystod beichiogrwydd os oes gennych gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes. 

Er enghraifft, os oes gennych system imiwnedd wan, efallai y cynigir y brechlyn COVID-19 i chi i helpu i leihau eich risg o salwch difrifol o haint COVID-19. Am ragor o wybodaeth, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.  

Mae’n bosibl y bydd brechlynnau eraill yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl genedigaeth, gan gynnwys: 

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael brechlynnau ychwanegol, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.

Pam mae brechiadau’n bwysig i ferched beichiog?

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi a’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.

Cyn dod yn feichiog, gwiriwch fod eich brechiadau wedi’u diweddaru i amddiffyn rhag clefydau a all achosi salwch ynoch chi neu’ch babi heb ei eni.

A yw’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Ydy, mae’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.

Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael eu profi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn y caniateir iddynt gael eu defnyddio. Pan fyddant yn cael eu defnyddio, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch.

Oes gan y brechiadau hyn sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn gweithio trwy sbarduno ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o’r sgîl-effeithiau hyn yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac ni fydd pawb yn eu cael.

Y sgil-effaith mwyaf cyffredin yw braich ddolurus lle cawsoch y pigiad. Mae sgîl-effeithiau eraill yn cynnwys:

  • twymyn
  • teimlo’n flinedig
  • poenau cyffredinol
  • oerfel neu symptomau tebyg i ffliw
  • y fraich wedi chwyddo lle cawsoch y brechiad ynddi
  • diffyg archwaeth
  • tymer flin , a
  • cur pen/pen tost.

Mae sgîl-effeithiau difrifol yn brin iawn.

Mae’r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n bryderus, ffoniwch GIG Cymru 111. Os cewch gyngor gan feddyg neu fydwraig, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiadau fel y gallant eich asesu’n iawn.

Gallwch hefyd roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae’n bwysig cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd. Bydd y GIG yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych yn siŵr beth sydd orau i chi, trafodwch hyn gyda’ch bydwraig, a fydd yn esbonio mwy am y brechlynnau a sut y gallant helpu i’ch diogelu chi a’ch babi.

Os byddwch yn sâl pan fydd eich apwyntiad i fod, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella i gael eich brechlynnau, ond dylech geisio eu cael cyn gynted â phosibl.

A yw’r brechlynnau’n ddiogel os ydw i’n bwydo ar y fron?

Mae manteision bwydo ar y fron yn hysbys iawn, a gellir rhoi’r holl frechlynnau hyn yn ddiogel i fenywod sy’n bwydo ar y fron. Nid oes angen i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron cyn eich brechlyn, a gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer wedyn.

A allaf i ddal y pas, RSV neu’r ffliw pan fyddaf wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas, RSV a’r ffliw. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, ewch i:

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am arwyddion a symptomau salwch a achosir gan RSV yn:

Ar ôl i’ch babi gael ei eni

Am wybodaeth am frechlynnau i blant rhwng 0 a 5 oed, ewch i dudalen cyn ysgol

Adnoddau pellach

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Mai 2026