Neidio i'r cynnwys

Hepatitis B

Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis B, sy’n cael ei ledaenu drwy’r gwaed a hylifau’r corff.

Yn aml nid yw’n achosi unrhyw symptomau amlwg mewn oedolion ac fel rheol mae’n pasio ymhen ychydig fisoedd heb driniaeth. Ond mewn plant mae’n aml yn parhau am flynyddoedd a gall achosi niwed difrifol i’r iau / afu yn y pen draw.

Mae Hepatitis B yn llai cyffredin yn y DU na rhannau eraill o’r byd, ond mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl o’i ddal. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n wreiddiol o wledydd risg uchel, pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, a phobl sy’n cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartneriaid rhywiol lluosog.  

Mae feirws hepatitis B i’w gael yng ngwaed a rhai hylifau corff eraill pobl sydd â’r feirws. Gellir ei drosglwyddo o’r fam i’r baban yn ystod genedigaeth. Gall plant ac oedolion hefyd gael hepatitis B o ddod i gysylltiad â hylifau’r corff sydd wedi’u heintio. Mae’n gyffredin i fabanod a phlant sy’n cael hepatitis B gael heintiau hirdymor.  

Mae babanod sy’n cael eu geni i famau â hepatitis B yn cael brechlynnau ychwanegol adeg eu geni i leihau’r risg y byddant yn cael yr haint. 

Mae gan dros 250 miliwn o bobl ledled y byd hepatitis B. Mae nifer yr achosion newydd o hepatitis B wedi cynyddu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2023 roedd dros 260 o achosion newydd. Efallai bod gan lawer mwy o bobl y feirws heb yn wybod iddynt.  

Symptomau hepatitis B 

  • Tymheredd uchel 
  • Blinder 
  • Poen yn rhan uchaf y bol 
  • Teimlo eich bod am chwydu neu yn chwydu 
  • Clytiau o groen uchel a all fod yn cosi (llosg danadl) 
  • Melyn y croen a gwyn y llygaid (clefyd melyn)

Cynigir sgrinio am hepatitis B

Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio am hepatitis B i bob menyw. Ystyrir bod rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn risg arbennig o uchel oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed ar ôl 12 mis i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B.

Dysgwch mwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Mae GIG 111 Cymru â gwybodaeth eang am hepatitis B ar eu gwefan. Gellir cael cyngor hefyd gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am hepatitis B a’i symptomau, ewch i wefan British Liver Trust.

Gallwch archebu pecyn hunan-brofi am ddim a fydd yn profi am hepatitis B yma

Data