Cwrs e-ddysgu’r eryr
Fersiwn 2 (21.1.26)
Mae’r wybodaeth yn y fersiwn hwn yn seiliedig ar ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2025 (WHC/2025/028)
Disgrifiad:
Mae’r modiwl hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am haint yr eryr, y brechiad rhag yr eryr a’r rhaglen brechu rhag yr eryr genedlaethol yng Nghymru.
Addas ar gyfer:
Holl staff y GIG sy’n gyfrifol am roi’r brechiad rhag yr eryr neu staff sy’n rhoi cyngor ar yr eryr.
Hyd:
30 munud
Cofrestru:
Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR).
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar [email protected], neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, gallwch hunan-gofrestru.
Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru:
Cliciwch ar enw’r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill nad ydych chi’n siŵr o’ch allwedd, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth ar [email protected].