Neidio i'r cynnwys

Cwrs e-ddysgu sicrhau bod cymaint â phosib yn cael brechlynnau: Defnyddio cyfweliadau ysgogol ar gyfer gwell sgyrsiau

Gwybodaeth:

E-ddysgu yn cael ei diweddaru ​​​

Disgrifiad:

Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol a brechwyr rôl bwysig mewn sgyrsiau am gael brechlynnau ac maent yn cael eu nodi gan y cyhoedd fel ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am frechlynnau. Gall dull ac arddull sgwrs am frechlynnau wneud byd o wahaniaeth o ran deall petruster unigol, mynd i’r afael â rhwystrau, a dylanwadu ar y nifer sy’n cael brechlynnau.

Wedi’i gynllunio ar y cyd â’r Uned Gwyddor Ymddygiad, y Tîm Hyfforddiant ac Arweiniad a’r Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu, nod y modiwl hwn yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi technegau cyfweld ysgogol ar waith pan fyddwch yn cael sgyrsiau sy’n ymwneud â brechlynnau. 

Addas ar gyfer:

Mae’r modiwl yn addas ar gyfer unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sy’n cael sgyrsiau sy’n ymwneud â brechlynnau. 

Hyd:

30 munud 

Cofrestru:

Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy ESR. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs, gweler:

Ar gyfer staff nad oes ganddynt fynediad i ESR neu sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru, bydd arnoch angen enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad i wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch ag [email protected].

Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch man gwaith a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych chi gyfeiriad e-bost sy’n gorffen gydag .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru.

Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru:

Os oes arnoch chi angen allwedd cofrestru i gael mynediad i’r modiwl, cliciwch ar y ddolen isod: