Neidio i'r cynnwys

Cwrs e-ddysgu Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs)

Disgrifiad:

Nod y cwrs hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG (SPS), yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gofal iechyd proffesiynol sy’n ystyried, datblygu, awdurdodi a defnyddio cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarfer meddyginiaethau NICE (MPG2).

Yn addas ar gyfer:

Staff y GIG sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno rhaglenni brechu.

Hyd:

40 munud 

Cofrestru:

Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR).

I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR, cliciwch y ddolen isod:

 Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru.

I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar [email protected], neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch ar y ddolen isod i hunan-gofrestru.

Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: 

Cliciwch ar enw’r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345!

Ar gyfer defnyddwyr eraill nad ydych chi’n siŵr o’ch allwedd, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth ar [email protected].  

I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad i’r cwrs drwy blatfform Dysgu@Cymru, cliciwch ar y ddolen isod.