Brechlynnau ar gyfer beichiogrwydd - Gwybodaeth brechiadau yn ystod beichiogrwydd i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
Mae brechiadau’n achub bywydau ac yn un o’r ymyriadau iechyd y cyhoedd mwyaf effeithiol yn fyd-eang.
Cefndir
Mae brechu yn ystod beichiogrwydd yn nodi dechrau taith imiwneiddio baban. Mae’n ffordd ddiogel ac effeithiol o helpu i amddiffyn mamau a’u babanod rhag risg clefydau y gellir eu hatal drwy frechu. Mae’r amddiffyniad hwn yn ymestyn o feichiogrwydd ac i wythnosau cyntaf bywyd babanod cyn eu brechiadau arferol yn wyth wythnos oed.
Mae bydwragedd a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn chwarae rhan allweddol fel lleisiau dibynadwy mewn gofal mamolaeth. Maent yn ffynonellau gwybodaeth pwysig ac yn ganolog i hyrwyddo brechu mamau a chefnogi menywod beichiog a’u teuluoedd i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Dylid cynnig brechlynnau a argymhellir cyn gynted ag y bydd menyw yn gymwys i helpu i sicrhau’r amddiffyniad gorau. Fodd bynnag, os collir brechlyn ar yr amser a argymhellir, gellir ei roi’n ddiweddarach o hyd. Dylid gwneud pob ymdrech i nodi a chefnogi menywod sydd wedi colli brechiadau.
Pam brechu yn ystod beichiogrwydd?
Yn ystod beichiogrwydd, mae’r system imiwnedd yn newid i gefnogi datblygiad y ffetws. Gall y newidiadau hyn wneud y fenyw feichiog yn fwy agored i haint. Gall hyn effeithio’n negyddol ar y fam a’r baban.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu trwy:
- Atal morbidrwydd a marwolaethau mamol drwy amddiffyn y fam rhag salwch difrifol neu farwolaeth a achosir gan glefydau heintus.
- Atal canlyniadau gwael i feichiogrwydd a ffetws fel genedigaeth gynamserol a phwysau geni isel sy’n gysylltiedig â chlefydau heintus.
- Darparu imiwnedd goddefol i’r babi wrth i wrthgyrff o’r fam basio trwy’r brych gan helpu i amddiffyn babanod yn ystod wythnosau cyntaf bywyd.
Brechlynnau a argymhellir yn ystod beichiogrwydd:
Yng Nghymru, cynigir tri brechiad fel mater o drefn yn ystod beichiogrwydd.
O Hydref 2025 ymlaen, sylwch na fydd brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig i fenywod beichiog, oni bai bod ganddynt system imiwnedd wan o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn natganiad y JCVI ar frechlyn COVID-19.
| Vaccine | When is the vaccine offered |
| Y pas (pertwsis) |
Wedi’i gynnig o 16 wythnos. Gweler ‘Brechlyn Pertwsis (y pas)’ isod am ragor o wybodaeth. |
| RSV (feirws syncytiol anadlol) |
Wedi’i gynnig o 28 wythnos. Gweler ‘Brechlyn feirws syncytiol anadlol (RSV)’ isod am ragor o wybodaeth. |
| Ffliw (firws ffliw) |
Wedi’i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). Gweler ‘Brechlyn ffliw’ isod am ragor o wybodaeth. |
A ellir rhoi brechlynnau ar yr un pryd yn ystod beichiogrwydd?
Gellir cyd-weinyddu’r brechiad mamol a argymhellir yn erbyn pertwsis, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) a’r ffliw os oes angen. Gall menywod beichiog sy’n gymwys am frechlyn COVID-19 oherwydd bod ganddynt system imiwnedd wan (o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth) dderbyn y brechlyn COVID-19 ar yr un pryd â’r brechlynnau eraill sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd.
Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gallai rhoi Feirws Syncytiol Anadlol ar yr un pryd â brechlynnau sy’n cynnwys pertwsis leihau’r ymateb a geir i’r cydrannau pertwsis. Fodd bynnag, nid yw’r arwyddocâd clinigol yn glir ac mae’n debygol y bydd yr effaith ar amddiffyniad yn fach.
Er mwyn optimeiddio’r ymateb imiwnedd, dylid rhoi brechlynnau ar yr adegau a argymhellir lle bo modd er mwyn osgoi gwanhau’r ymateb gwrthgyrff o bosibl. Fodd bynnag, os nad yw menyw feichiog wedi derbyn brechlyn pertwsis erbyn iddi gyflwyno i gael y brechlyn Feirws Syncytiol Anadlol, gellir, a dylid, eu rhoi ar yr un pryd.
A yw bwydo ar y fron ar ôl brechu mam yn ddiogel?
Gellir rhoi pob brechlyn mamol a argymhellir yn ddiogel i fenywod sy’n bwydo ar y fron.
Gall y gwrthgyrff a gynhyrchir trwy frechu gael eu trosglwyddo i’r baban, a darparu amddiffyniad rhag pertwsis, Feirws Syncytiol Anadlol, a’r ffliw.
Ni ddylai menywod roi’r gorau i fwydo ar y fron cyn eu brechiad a gallant barhau i fwydo ar y fron ar ôl y brechiad.
Diogelwch brechlynnau mamol
Mae brechlynnau mamol a gynigir yng Nghymru yn dilyn argymhellion cenedlaethol a rhyngwladol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Maent yn ddiogel i’w rhoi yn ystod beichiogrwydd ac maent wedi cael profion trylwyr am ddiogelwch gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (Saesneg yn unig). Nid ydynt yn cynnwys feirysau byw, felly ni allant achosi’r clefydau y maent yn amddiffyn yn eu herbyn.
Mae sgîl-effeithiau fel arfer yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig.
Canllawiau
Mae gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal mamolaeth gyfle i wneud gwahaniaeth drwy gefnogi brechu yn ystod beichiogrwydd. Drwy rannu gwybodaeth glir, ddibynadwy a chefnogi mynediad at frechiadau, gall gweithwyr proffesiynol chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu iechyd mamau a’u babanod.
Penodau Llyfr Gwyrdd
Mae ‘Imiwneiddio yn Erbyn Clefydau Heintus’, a elwir hefyd yn Y Llyfr Gwyrdd, yn darparu gwybodaeth am frechlynnau ar gyfer clefydau y gellir eu hatal drwy frechlyn. Gallwch ddarllen y penodau perthnasol yn Imiwneiddio yn erbyn clefyd heintus (Saesneg yn unig).
Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio. Darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI yn Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (Saesneg yn unig).
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
Mae Cylchlythyrau Iechyd Cymru yn darparu canllawiau a chyfarwyddiadau i sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru ar wahanol agweddau ar ddarparu a pholisi gofal iechyd. Darllenwch gyhoeddiadau yn y cylchlythyrau Iechyd: 2024 i 2027.
Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif
Gall defnyddio’r dull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) i gefnogi sgyrsiau am frechu yn ystod beichiogrwydd. Mae MECC yn ddull o newid ymddygiad sy’n annog gweithwyr proffesiynol i gael sgyrsiau ystyrlon am wneud dewisiadau cadarnhaol am eu hiechyd a’u llesiant, gan gynnwys penderfyniadau am frechu.
Ffynonellau eraill o wybodaeth ac arweiniad
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd (Saesneg yn unig)
- Imiwneiddio Mamau a Babanod Newydd-anedig – Oxford Vaccine Group (Saesneg yn unig)
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi sgyrsiau am frechu yn ystod beichiogrwydd gan gynnwys taflenni, posteri a fideos.
- Poster brechlynnau mamau ar gyfer bydwragedd
- Sut i amddiffyn eich hun a’ch babi – Gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd
- Yn feichiog? – Diogelu chi a’ch babi
- Diogelu chi a’ch babi – Cerdyn post
- Mae brechu yn eich amddiffyn chi a’ch baban – Sticer nodiadau mamolaeth
- Brechlyn Y Pas – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol
Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau
Mae modd cael mynediad at gyrsiau a deunyddiau hyfforddi ar-lein drwy’r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio.
Os ydych chi’n newydd i imiwneiddio, bydd angen i chi gwblhau’r rhaglen Imiwneiddio ar gyfer imiwneiddwyr newydd, sydd ar gael yn E-ddysgu Imiwneiddio ac Atodiad A: Vaccinator competency assessment tool (Saesneg yn unig).
Cysylltiadau lleol
Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth yn lleol trwy dimau brechlynnau lleol. Am gysylltiadau brechlyn yn eich bwrdd iechyd, ewch i dudalen gysylltiadau brechlyn.
Data a gwyliadwriaeth
- Gwyliadwriaeth o Frechlynnau, Clefydau y gellir eu Hatal drwy Frechlynnau a Heintiau Anadlol (Saesneg, yn unig)
- Cymeriant imiwneiddio yn ystod beichiogrwydd (Saesneg, yn unig)
- Gwyliadwriaeth ac epidemioleg pertwsis (y pas)
- Adroddiad Wythnosol ar y Ffliw a Heintiau Anadlol Acíwt
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Mai 2026