Neidio i'r cynnwys

Brechlyn niwmococol i fabanod - Brechlyn niwmococol i fabanod – Gwybodaeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol

Cefndir

Mae llid yr ymennydd niwmococol yn glefyd hysbysadwy

Clefyd niwmococol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio heintiau a achosir gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae. Mae ganddo lawer o seroteipiau gwahanol. Mae rhai seroteipiau’n cael eu cario heb symptomau; mae eraill yn gysylltiedig â chlefyd ymledol. Mae clefyd niwmococol ymledol (IPD) yn effeithio’n bennaf ar fabanod, plant ifanc iawn ac oedolion hŷn. 

Gall yr organeb ledaenu’n lleol i’r sinysau neu geudod y glust ganol, gan arwain at lid y sinysau neu lid y glust ganol. Gall hefyd effeithio ar yr ysgyfaint, gan achosi niwmonia, neu ledaenu i rannau eraill o’r corff, gan arwain at gyflyrau ymledol fel niwmonia bacteremig, sepsis, a llid yr ymennydd. 

Mae trosglwyddiad yn digwydd trwy ddiferion anadlol, aerosol neu gysylltiad uniongyrchol â secretiadau anadlol rhywun sy’n cario’r organeb. Nid yw’r cyfnod magu wedi’i ddiffinio’n dda, ond gall fod mor fyr â diwrnod i dridiau. Mae amrywiad tymhorol i’w weld mewn clefyd niwmococol, ac mae’r lefel uchaf yn digwydd yn ystod misoedd y gaeaf. 

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn 

Mae’r Brechlyn Niwmococol Cyfun (PCV) yn rhoi lefelau uchel o amddiffyniad yn erbyn y seroteipiau niwmococol sydd wedi’u cynnwys yn y brechlyn. 

Brechiadau rheolaidd 

  • Dylid cynnig PCV13 (Prevenar 13®) i fabanod fel prif ddos sengl yn 16 wythnos oed a rhoi dos atgyfnerthu iddynt pan fyddant yn 12 mis oed

Newid i amseriad y dos cyntaf o PCV13 yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant: 

Ar 1 Gorffennaf 2025, newidiodd amseriad y dos cyntaf o PCV13 yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant o 12 wythnos i 16 wythnos oed. 

I gael rhagor o wybodaeth am y newid hwn, ewch i’r adran ‘Imiwneiddiadau Plant’ ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin (Saesneg yn unig) (mynediad i staff Gofal Iechyd y GIG) .

Brechiadau ychwanegol i’r rhai sy’n wynebu risg 

Bydd angen brechiad niwmococol ychwanegol ar y plant hynny sydd mewn grwpiau risg glinigol yn dibynnu ar: 

  • eu hoedran pan gawsant ddiagnosis cyntaf o gyflwr â risg glinigol  
  • eu hoedran wrth ymgyflwyno i gael brechiad 
  • eu statws brechu 
  • eu cyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes 

Mae diweddariadau diweddar wedi’u gwneud i Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2025/054 (17 Rhagfyr 2025) a’r bennod niwmococol yn y Llyfr Gwyrdd (12 Mehefin 2025) ynghylch newid cynnyrch mewn perthynas â’r brechlyn niwmococol. 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y brechlynnau PCV ychwanegol a roddir i fabanod mewn grwpiau risg clinigol, cyfeiriwch at: 

Amserlenni imiwneiddio arferol i Gymru yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a brechiadau i’r rhai sydd mewn perygl. 

Brechlynnau PCV 

Mae brechlynnau PCV yn cael eu rhoi fel arfer trwy bigiad mewngyhyrol i gyhyr deltoid yn rhan uchaf y fraich neu, yn achos babanod 1 oed ac iau, ar flaen ochr allanol y glun. 

PCV13 (Prevenar 13®)

Mae PCV13 yn cynnwys polysacarid o dri ar ddeg o fathau capsiwlaidd cyffredin. Fe’i rhoddir i imiwneiddio’n weithredol rhag clefyd ymledol, niwmonia a llid y glust ganol acíwt a achosir gan niwmonia Streptococws.

Brechlyn chwistrelladwy wedi’i anactifadu yw PCV13. Mae’n cael ei gyflwyno fel daliant i’w chwistrellu mewn chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw.

PCV20 (Prevenar 20®)

Mae PCV20 yn gynnyrch Triongl Du. Defnyddir y Cynllun Triongl Du i nodi meddyginiaethau a brechlynnau newydd sy’n destun monitro ychwanegol. Mae PCV20 yn cynnwys polysacarid o ugain math capsiwlaidd cyffredin. Caiff ei ddynodi ar gyfer imiwneiddio gweithredol i atal clefyd niwmococol a achosir gan Streptococcus pneumoniae.

Brechlyn chwistrelladwy wedi’i anactifadu yw PCV20. Mae’n cael ei gyflwyno fel daliant i’w chwistrellu mewn chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw.

Mae canllawiau ar gymhwystra i gael y brechlyn, dosau a gweinyddu’r brechlyn (Saesneg yn unig) ar gael.

Crynodeb o nodweddion y cynnyrch

Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau PCV, yn cynnwys canlyniadau niweidiol posibl, ar gael o: 

Mae canllawiau ar yr amserlen imiwneiddio a nodir yn Niwmococol – y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig) yn disodli’r crynodeb o nodweddion y cynnyrch.

 Adrodd am sgil-effeithiau brechlynnau PCV 

Mae adrodd am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl brechu yn bwysig. Mae’n helpu i fonitro diogelwch a manteision y feddyginiaeth. Dylech adrodd am amheuon am sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn: Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). 

Mae gan feddyginiaethau a brechlynnau newydd sy’n cael eu monitro’n ychwanegol symbol triongl gwrthdro du (▼) wedi’i arddangos ar eu taflen yn y pecyn ac yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch, ynghyd â brawddeg fer yn egluro ystyr y triongl. Nid yw’n golygu bod y feddyginiaeth neu’r brechlyn yn anniogel. Dylech roi gwybod am unrhyw adweithiau niweidiol a amheuir mewn perthynas â’r cynhyrchion hyn. 

Canllawiau

Mae argymhellion ynghylch y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod. 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Adnoddau allanol 

Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) – Gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol am grwpiau risg clinigol:  

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau trwy’r dudalen E-ddysgu.

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi ar gael ar y dudalen Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio.

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer brechlynnau ar dudalen Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ebrill 2026