Neidio i'r cynnwys

Brechlyn niwmococol i fabanod - Ynglŷn â’r brechlyn niwmococol i fabanod

Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Gall heintiau niwmococol effeithio ar unrhyw un, ond mae babanod yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn. Cynigir y brechlyn niwmococol i fabanod fel rhan o raglen frechu reolaidd y GIG. Mae’r brechlyn niwmococol yn cael ei gynnig i bob baban pan fyddant yn:  

  • 16 wythnos oed, ac yn  
  • 12 mis oed

Mae’r brechlyn yn rhoi amddiffyniad da yn erbyn haint niwmococol. Nid yw’n amddiffyn rhag llid yr ymennydd sy’n cael ei achosi gan facteria neu feirysau eraill. Felly, mae’n dal yn bwysig eich bod yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau i edrych amdanynt. 

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau niwmococol, ewch i NHS inform (Saesneg yn unig)

Ynglŷn â’r brechlyn

Pa frechlyn fydd yn cael ei gynnig i fy maban?

Brechiad niwmococol rheolaidd ar gyfer babanod 

Bydd eich baban yn cael cynnig y brechlyn niwmococol cyfun 13 (PCV13) pan fydd yn 16 wythnos a 12 mis oed. Gallwch ddysgu rhagor am y brechlyn hwn drwy ddarllen y daflen wybodaeth i gleifion ar-lein (Saesneg yn unig).

Babanod dan ddwy flwydd oed sydd mewn mwy o berygl o glefyd niwmococol 

Efallai y bydd angen brechlynnau niwmococol ychwanegol ar eich baban os yw mewn mwy o berygl. Bydd yn cael cynnig naill ai’r brechlyn PCV13 neu PCV20 (pan fyddant ar gael). Bydd eich baban yn cael y brechlyn sydd ar gael ar yr adeg y byddwch chi’n mynd i’r apwyntiad. Bydd meddyg neu nyrs arbenigol eich baban hefyd yn rhoi gwybod i chi os oes angen rhagor o ddosau arno.

Gallwch ddysgu rhagor am PCV13 a PCV20 drwy ddarllen y taflenni gwybodaeth i gleifion.

Sut mae’r brechlyn yn cael ei roi?

Rhoddir y brechlyn i fabanod trwy bigiad yn y glun. Rhoddir y brechlyn i blant dros 12 mis oed fel arfer trwy bigiad yn rhan uchaf y fraich.

Sut byddaf yn gwybod pan fydd hi’n amser i fy maban gael ei frechiadau?

Bydd apwyntiad i gael y brechlyn niwmococol rheolaidd yn cael ei anfon at rieni/gwarcheidwaid babanod pan fyddant wedi cyrraedd yr oedran priodol. Mae’r rhan fwyaf o bractisiau meddygon teulu a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau brechu arbennig neu glinigau babanod.

Os yw eich baban mewn mwy o berygl o glefyd niwmococol, dylai eich practis meddygon teulu gysylltu â chi i drefnu apwyntiad pan fydd eich baban yn gymwys i gael ei frechu. Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu arbenigwr os nad ydych yn clywed gan y practis, neu os ydych yn meddwl eich bod wedi methu’r gwahoddiad.

Beth os byddaf yn colli’r apwyntiad?

Dylech ganslo apwyntiad ymlaen llaw os nad ydych yn gallu cyrraedd. Os byddwch yn methu apwyntiad neu’n gorfod oedi gyda’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosib.

Cofiwch: mae’n bwysig cysylltu â’ch practis meddyg teulu i drefnu i gael brechiadau a gollwyd! 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pryd fydd fy maban yn cael cynnig y brechlyn niwmococol?

Cynigir y brechlyn niwmococol i fabanod fel mater o drefn pan fyddant yn:

  • 16 wythnos oed, ac yn
  • 12 mis oed.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y cynigir y dos cyntaf o’r brechlyn (16 wythnos), ewch i Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant.

Siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y practis i gael cyngor os yw eich plentyn wedi colli dos. 

Pa fabanod allai fod angen brechlynnau niwmococol ychwanegol?

Efallai y bydd angen brechlynnau niwmococol ychwanegol ar rai babanod o dan ddwy flwydd oed. Er enghraifft, y rhai sydd â:

  • Dueg ar goll neu ddueg nad yw’n gweithio’n iawn
  • Anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol
  • System imiwnedd wan iawn

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen y brechlynnau ychwanegol hyn ar eich plentyn, siaradwch â’i feddyg neu nyrs arbenigol.  

Pwy arall all gael brechlyn niwmococol?

Dylai pobl 65 oed a hŷn ac unigolion dwy flwydd oed a hŷn sydd â chyflyrau iechyd penodol hefyd gael brechlyn niwmococol. Mae hyn oherwydd bod eu hoedran neu eu cyflwr iechyd yn eu rhoi mewn perygl o wahanol fathau o haint niwmococol.

Gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn niwmococol ar gyfer oedolion hŷn ac unigolion sydd mewn perygl.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Ydy’r brechlyn yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn niwmococol yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro. Mae miliynau o ddosys o’r brechiad wedi cael eu defnyddio ac mae ganddo enw da am ddiogelwch.

A oes unrhyw sgil-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau.

Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin mewn babanod a phlant yn cynnwys:

  • Twymyn
  • Dolur, cochni, chwydd neu galedu lle rhoddwyd y pigiad
  • Pen tost/cur pen
  • Poen yn y cyhyrau
  • Newid mewn arferion bwyta
  • Tymer flin
  • Cysgadrwydd neu’n cysgu mwy nag arfer

Gweler y daflen wybodaeth i gleifion i gael manylion am yr holl sgil-effeithiau ac i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn:

Gallwch roi hylif paracetamol i’ch baban os oes ganddo dymheredd uchel ac os yw’n ymddangos yn sâl ar ôl cael y brechlyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel yn ofalus a rhoi’r dos a’r cryfder cywir i’ch plentyn ar gyfer ei oedran.

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o anghyffredin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch sgîl-effeithiau, gallwch ofyn i’r person sy’n rhoi’r brechlyn i’ch babi, ymweld â GIG 111 Cymru neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.

Dylech roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn  Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

A all fy maban ddal clefyd niwmococol, hyd yn oed os yw wedi cael y brechlyn?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal heintiau niwmococol. Nid oes yr un brechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau heintiau niwmococol, hyd yn oed os ydych chi neu’ch plentyn wedi cael y brechlyn.

I gael rhagor o wybodaeth am salwch difrifol a achosir gan haint niwmococol ewch i wefan GIG 111 Cymru:

A oes plant na ddylent gael brechlyn niwmococol?

Ychydig o resymau sydd dros beidio â brechu plant.

Alergeddau  

Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb gael problemau.

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i’ch babi os yw’ch babi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Os:

  • oes gan eich plentyn anhwylder gwaedu (er enghraifft hemoffilia, pan nad yw eu gwaed yn ceulo’n iawn)
  • yw eich plentyn wedi cael ffit nad yw wedi’i achosi gan dwymyn, neu
  • oes gan eich plentyn broblem gyda’u system imiwnedd

siaradwch â’ch meddyg, nyrs y practis neu ymwelydd iechyd cyn i’ch plentyn gael brechiad.

Oes posib rhoi’r brechiad os yw fy mhlentyn yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os oes gan eich plentyn fân salwch heb dwymyn, fel annwyd, dylai gael y brechiad yn ôl yr arfer. Os yw eich plentyn yn sâl â thwymyn ar y diwrnod y mae i fod i gael y brechiad, gohiriwch y brechiad nes ei fod yn well.

Mwy o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Ebrill 2026