Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Gwerthusiad o Prehab2Rehab

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 30ain Medi 2025

  • Bwrdd Iechyd

Gwerthusiad proses a chanlyniadau i ddeall effeithiau’r rhaglen Prehab2Rehab

Cefndir

Gall rhaglenni i baratoi cleifion ar gyfer llawdriniaeth i drin canser wella sut maent yn ymateb i’r llawdriniaeth a pha mor gyflym maen nhw’n gwella ohoni. Cyfeirir at y rhaglenni hyn fel rhagsefydlu. Maent yn cynnig cymorth gwahanol i gleifion fel dosbarthiadau ymarfer corff, arweiniad ar ddeiet iach, neu gymorth i reoli straen i wella eu hiechyd cyffredinol, cyn ac yn syth ar ôl llawdriniaeth.

Y Rhaglen Prehab2Rehab

Creodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro y rhaglen Prehab2Rehab i helpu cleifion canser i baratoi ar gyfer triniaeth fel llawdriniaeth, cemotherapi neu radiotherapi. Mae cleifion yn cael cynnig gwasanaeth sy’n diwallu eu hanghenion penodol eu hunain a all gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff, arweiniad ar eu deiet, a chymorth gyda’u lles meddyliol. Y nod yw helpu cleifion i wella’n gynt ac aros yn iach ar ôl triniaeth, gan leihau arhosiadau yn yr ysbyty, cymhlethdodau, ac ailymweliadau â’r ysbyty.

Pwrpas Gwerthuso

Nod y gwerthusiad hwn oedd deall pa mor dda y mae’r rhaglen Prehab2Rehab yn cyrraedd ei nodau.

Dyluniad yr Astudiaeth

Buom yn siarad â 14 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio ar y rhaglen, yn ogystal â 15 o bobl sydd â’r profiad byw o gymryd rhan yn y rhaglen Prehab2Rehab, neu nad ydynt yn cymryd rhan yn y rhaglen. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio gwybodaeth am 351 o gleifion canser i asesu a oedd cymryd rhan yn y rhaglen yn cael unrhyw effaith ar ba mor hir roedd cleifion yn aros yn yr ysbyty ar ôl y llawdriniaeth, cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth, yn ogystal â mynd yn ôl i’r ysbyty ar ôl llawdriniaeth.

Canfyddiadau

Canfuom fod cleifion a gymerodd ran mewn o leiaf tair sesiwn ymarfer corff Prehab2Rehab yn aros yn yr ysbyty tua 3 diwrnod yn llai na’r rhai nad oeddent yn gwneud hynny. Fe wnaethom hefyd ddarganfod bod y rhan fwyaf o gleifion yn hapus gyda’r rhaglen ac yn dweud ei bod yn eu helpu i wneud newidiadau iach i’w ffordd o fyw cyn llawdriniaeth.

Roedd hefyd yn rhoi cymorth emosiynol iddynt trwy fod yn rhan o grŵp o bobl sy’n mynd trwy’r un profiad. Fodd bynnag, roedd rhai cleifion yn ei chael hi’n anodd cymryd rhan yn Prehab2Rehab oherwydd pa mor sâl oedden nhw neu oherwydd eu bod nhw’n teimlo’n drist, yn bryderus neu dan straen. Roedd gan rai cleifion hefyd ddiffyg cludiant i gyrraedd lle cynigiwyd y rhaglen. Roedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o’r farn ei bod yn rhaglen dda ond fe wnaethant awgrymu rhai meysydd o welliant ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys gwella ochr adsefydlu’r rhaglen i helpu cleifion i gynnal newidiadau iach ar ôl llawdriniaeth.

Casgliad

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y rhaglen yn lleihau hyd arhosiad yn yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mewn o leiaf tair sesiwn ymarfer corff. Gallai gwelliannau yn y ffordd y mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ei gwneud yn well nag y mae ar hyn o bryd.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad gwerthusiad o Prehab2Rehab

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad gwerthusiad o Prehab2Rehab (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

  • Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd

    Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi […]

    Cyhoeddwyd: 27ain Mawrth 2019

  • Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Y cyhoeddiad yma yw’r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau […]

    Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2024

  • Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: 18 Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen […]

    Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026

  • Goroesi canser yng Nghymru

    Cyheoddiad nesaf: 2027 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oroesiad pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru rhwng 2002 a 2022. Lle bo […]

    Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026

  • Marwolaethau canser yng Nghymru

    Cyheoddiad nesaf: 15 Gorffennaf 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae […]

    Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2025

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion […]

    Cyhoeddwyd: 18fed Mawrth 2026

Yn ôl i'r brig