Marwolaethau canser yng Nghymru
Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
Cyhoeddwyd ar: 18fed Mehefin 2025
Cyheoddiad nesaf: 15 Gorffennaf 2026
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae allbynnau’n cael eu cyflwyno fesul cyfnod sengl a chyfnod treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod, a phersonau ar gyfer Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phumedau amddifadedd ardal.
Prif bwyntiau
Canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru o hyd, ac mae’n cyfrif am chwarter yr holl farwolaethau yn 2024. Roedd 9,123 o farwolaethau newydd o ganser yn 2024.
Roedd canser yr ysgyfaint, canser y coluddyn (y colon a’r rhefr), canser y prostad a chanser y fron ymhlith benywod yn cyfrif am 4 o bob 10 marwolaeth o ganser yng Nghymru yn 2024, ac roedd canser yr ysgyfaint yn unig yn cyfrif am 2 o bob 10 marwolaeth o ganser.
Mae dros hanner yr holl farwolaethau o ganser yng Nghymru ymhlith pobl 75 oed a hŷn (Ffigur 1). Mae’r ffigur hwn wedi bod yn codi’n gyson o 48% yn 2002 i 57% yn 2024, wrth i boblogaeth Cymru fynd yn fwy oedrannus.
Ffigur 1: Marwolaethau o ganser yn ôl grŵp oedran, pob canser ac eithrio NMSC, cyfrif, personau, Cymru, 2002-2024
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd (PHM) o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Mae cyfraddau marwolaethau o ganser yn parhau i fod yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (Ffigur 2), heb welliant gwirioneddol dros y cyfnod a adroddwyd. Roedd y gyfradd 52% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2024.
Ffigur 2: Marwolaethau o ganser yn ôl pumed amddifadedd, pob canser ac eithrio NMSC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, personau, pob oedran, Cymru, 2002-2024
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac Amcangyfrifon Canol Blwyddyn (MYE) o’r ONS

Mae’r darlun o farwolaethau o ganser ar ôl y pandemig yn dal yn aneglur. Gall effeithiau parhaol y pandemig – yn enwedig ymhlith y rhai sydd bellach yn cyflwyno â chlefyd mwy datblygedig – barhau i ddylanwadu ar dueddiadau marwolaethau yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i’w monitro ac adrodd arnynt.
Canfyddiadau allweddol eraill
Cyn y pandemig, cynyddodd nifer y marwolaethau o ganser yng Nghymru yn raddol rhwng 2002 a 2019. Fodd bynnag, prif achos hyn yw bod y boblogaeth yn heneiddio a’r gyfradd marwolaethau wedi disgyn yn ystod y cyfnod hwn (Ffigur 3).
Ar ôl y pandemig, mae nifer y marwolaethau blynyddol o ganser wedi aros yn ei unfan, ac mae’r niferoedd bellach ychydig yn is na’r lefel cyn y pandemig yn 2019. Mae’r gyfradd marwolaethau o ganser hefyd wedi aros yn ei hunfan (Ffigur 3). Mae hyn yn wir ar gyfer dynion a menywod.
Mae marwolaethau o ganser yn dal yn uwch ymhlith dynion na menywod yng Nghymru (4,895 o farwolaethau vs. 4,228 o farwolaethau yn 2024), er bod y bwlch yn y gyfradd marwolaethau yn lleihau (Ffigur 3).
Ffigur 3: Marwolaethau o ganser yn ôl rhyw, pob canser ac eithrio NMSC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, pob oedran, Cymru, 2002-2024
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Mae canser yr ysgyfaint yn gyfrifol am tua un rhan o bump o’r holl farwolaethau o ganser yng Nghymru, sy’n ei wneud yn brif achos marwolaethau o ganser. Mae hanner yr holl farwolaethau o ganser yr ysgyfaint yn digwydd ymhlith pobl 75 oed a hŷn, gan amlygu cysylltiad y clefyd ag oedran a chyswllt â ffactorau risg fel ysmygu.
Bu gostyngiad hirdymor mewn marwolaethau o ganser yr ysgyfaint, wedi’i yrru’n bennaf gan gyfraddau sy’n disgyn ymhlith dynion (Ffigur 4). Rhwng 2002 a 2024, disgynnodd y gyfradd marwolaethau ymhlith dynion 38%. Yn achos menywod, arhosodd cyfraddau marwolaethau yn gymharol sefydlog dros yr un cyfnod. Mae hyn yn adlewyrchu darlun cymhleth — er bod y digwyddedd ymhlith menywod wedi cynyddu rhwng 2002 a 2016, cafwyd gwelliant yn y gyfradd goroesi hefyd, a wrthbwysodd y cynnydd posibl yn nifer y marwolaethau.
Ffigur 4: Marwolaethau o ganser yn ôl rhyw, canser yr ysgyfaint, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, pob oedran, Cymru, 2002-2024
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Mae canser yr ysgyfaint yn dangos yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ehangaf o ran marwolaethau o’r pedwar canser mwyaf cyffredin (Ffigur 5). Yn 2024, roedd cyfraddau marwolaethau 2.5 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r rhai lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn adlewyrchu’r cyfraddau ysmygu, sydd 3 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Arolwg Cenedlaethol Cymru).
Ffigur 5: Marwolaethau o ganser yn ôl pumed amddifadedd, canser yr ysgyfaint, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, personau, pob oedran, Cymru, 2002-2024
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Yn 2024, canser y coluddyn oedd â’r nifer uchaf ond un o farwolaethau o ganser, a hynny ar ôl canser yr ysgyfaint. Fodd bynnag, hwn oedd â’r bedwaredd gyfradd marwolaethau uchaf yng Nghymru ar ôl canser yr ysgyfaint, y prostad a chanser y fron ymhlith benywod, ar ôl addasu ar gyfer oedran. Yn 2024, digwyddodd 59% o farwolaethau o ganser y coluddyn ymhlith pobl 75 oed a hŷn.
Mae canser y fron ymhlith benywod hefyd yn dangos bod y cyfraddau marwolaethau wedi aros yn eu hunfan yn y blynyddoedd ar ôl y pandemig o’u cymharu â gostyngiad cyffredinol cyn y pandemig, er bod amrywiadau i’w gweld o flwyddyn i flwyddyn (Ffigur 6). Gellir gweld cynnydd bach yn 2024. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud a yw hyn yn ddechrau ar duedd gynyddol.
Ffigur 6: Marwolaethau o ganser, canser y fron ymhlith benywod, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, pob oedran, Cymru, 2002-2024
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Yn 2024, roedd canserau’r prostad yn cyfrif am 7% o’r holl farwolaethau o ganser (13% o ganserau ymhlith dynion), sy’n ei wneud yn drydydd prif achos marwolaethau o ganser yn gyffredinol ac yn ail brif achos marwolaethau ymhlith dynion. Mae gan farwolaethau o ganser y prostad broffil oedran hŷn, ac mae 77% o’r marwolaethau yn digwydd ymhlith pobl 75 oed a hŷn.
Tablau data
Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn
Gwybodaeth dechnegol
Rhestr cyn cyhoeddi
Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru
Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru
Adroddiadau perthnasol
-
Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi […]
Cyhoeddwyd: 27ain Mawrth 2019
-
Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Y cyhoeddiad yma yw’r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau […]
Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2024
-
Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: 18 Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026
-
Goroesi canser yng Nghymru
Cyheoddiad nesaf: 2027 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oroesiad pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru rhwng 2002 a 2022. Lle bo […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mawrth 2026
-
Mynychder canser yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau (2026) Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar ganserau diagnosis i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2022, ac mae allbynnau’n […]
Cyhoeddwyd: 23ain Hydref 2025
Setiau data cysylltiedig
-
Data mynychder canser a chyfrifiad canser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 12, 2018
-
Data mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 30, 2024
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 18, 2026
-
Data samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 26, 2026
-
Data marwolaethau canser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2025