Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

Manylion:

Awduron: Tim Dadansoddi

Cyhoeddwyd ar: 18fed Mawrth 2026

Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Rhybudd

Rydym wedi nodi problem gyda’n dadansoddiad o ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru o fewn yr offeryn adrodd hwn. Rydym wedi dileu pob dangosydd Arolwg Cenedlaethol Cymru dros dro tra byddwn yn cywiro’r ffigurau.

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd gyntaf ym Mawrth 2016, a diben Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yw ein helpu ni i ddeall yr effaith y mae ein hymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a’n polisiau yn ei gael ar iechyd a lles yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid o dimau iechyd y cyhoedd lleol a Llywodraeth Cymru i greu’r offeryn adrodd hwn. Wedi ei ddatblygu mewn ffordd ystwyth, rydym yn cyfarfod â’n rhanddeiliaid yn rheolaidd i gytuno ar y ffordd y mae’r offeryn adrodd yn edrych, yn cael ei lywio a’r ffordd y caiff dangosyddion eu rhannu.

Prif bwyntiau

Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru:

  • disgwyliad oes
  • pobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • ysmygu yn ystod beichiogrwydd
  • marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy allweddol
  • marwolaethau o anafiadau
  • marwolaethau o anafiadau traffig ffyrdd
  • hunanladdiadau
  • ansawdd yr aer a anadlwn
  • toriadau clun ymhlith pobl hŷn
  • marwolaethau y gellir eu hosgoi
  • marwolaethau y gellir eu hosgoi yn ôl achos

Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion hyn:

  • Mae cyfradd marwolaethau y gellir eu hosgoi o glefydau endocrin a metabolaidd (categori sy’n cynnwys diabetes a gordewdra) yn codi’n sylweddol, o 3.5 yn 2011-13 i 5.8 yn 2022-24. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 66% dros y cyfnod.
  • Mae cyfradd marwolaethau y gellir eu hosgoi o achosion sy’n gysylltiedig ag alcohol/cyffuriau hefyd wedi codi’n gyson, o 15.3 fesul 100,000 yn 2011-13 i 21.2 fesul 100,000 i fenywod yn 2022-24, ac o 31.6 i 43.9 i ddynion. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 45% i ddynion a chynnydd o 39% i fenywod.
  • Canser yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau y gellir eu hosgoi ymhlith menywod. Mae’n arwain at tua 1,200 o farwolaethau bob blwyddyn.
  • Ymhlith dynion, clefyd cylchrediad y gwaed yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau y gellir eu hosgoi gyda’r cyfraddau wedi aros yn gyson ers 2011-13. Mae hyn yn arwain at tua 1,550 o farwolaethau’r flwyddyn. Mae cyfraddau marwolaethau y gellid eu hosgoi ar gyfer dynion o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chylchrediad y gwaed a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol/cyffuriau yn fwy na dwbl y cyfraddau cyfatebol ar gyfer menywod yn y cyfnod diweddaraf.
  • Mae crynodiad cyfartalog NO2 mewn ardaloedd preswyl wedi parhau â’i duedd fras ar i lawr, gan gyrraedd 6.8µg/m³ yn 2023.
  • Mae canran y mamau a nododd eu bod yn ysmygu adeg geni eu babanod yn y cyfnod 2024 yn amrywio o 7.6% yn BIA Powys i 15.8% yn BIP Betsi Cadwaladr.
  • Yn 2024, roedd 88% o bobl ifanc 16-18 oed ac 85% o bobl 19-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Mae disgwyliad oes ychydig yn uwch yn 2022-24 nag yn 2021-23 i fenywod a dynion. Ymhlith menywod, mae disgwyliad oes wedi dychwelyd i’r ffigur cyn Covid, sef 82.2 mlynedd o 2017-19. Mae’r un peth yn wir am ddynion, gan ddychwelyd i 78.3 o flynyddoedd.
    • Dylid nodi, fodd bynnag, fod disgwyliad oes wedi bod yn aros yn ei unfan yng Nghymru ers 2011-13, sy’n newid sylweddol yn dilyn y cynnydd cyson mewn disgwyliad oes ar draws y degawdau blaenorol. Mae’r diffyg cynnydd hwn yn cael ei adlewyrchu’n eang ar draws gwledydd y G7, er enghraifft yn yr Almaen ac UDA.
  • Ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, mae disgwyliad oes dynion yn amrywio o 75.0 mlynedd ym Merthyr Tudful i 80.3 mlynedd ym Mro Morgannwg, Powys a Sir Fynwy. Ymhlith menywod, mae disgwyliad oes yn amrywio o 79.2 mlynedd ym Mlaenau Gwent i 84.6 mlynedd yn Sir Fynwy.
  • Oedran – mae cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy yng Nghymru wedi gostwng o 324.2 fesul 100,000 yn 2011-13 i 307.6 fesul 100,000 yn 2022-24, sy’n ostyngiad ystadegol arwyddocaol.
  • Mae cyfradd y marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy yn y pumed â’r amddifadedd mwyaf yn fwy na dwywaith cyfradd y pumed â’r amddifadedd lleiaf yn 2022-2024 (486 o’i gymharu â 192 fesul 100,000). Mae’r bwlch rhwng y pumed â’r amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi bod yn ehangu ers y cyfnod 2012-2014, yn bennaf oherwydd bod cyfraddau yn y pumed â’r amddifadedd lleiaf yn gostwng.
  • Roedd cyfradd y marwolaethau o ganlyniad i anafiadau yn sylweddol uwch yn 2022-24 o’i gymharu â 2021-23. Digwyddodd y cynnydd mwyaf ymhlith y rhai 65 oed a throsodd. Mae’r cynnydd yn bennaf ymhlith dynion ond fe’i gwelir ymhlith menywod hefyd. Gwelir y cynnydd ym mhob cwintel amddifadedd.
    • Fel y nodwyd yn flaenorol, mae marwolaethau o ganlyniad i gwympiadau wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gallai rhan o’r cynnydd mewn marwolaethau a gafodd eu cofnodi fel cwympiadau adlewyrchu newidiadau mewn arferion cofnodi, lle gallai cwympiadau mewn pobl hŷn fod wedi’u cofnodi’n flaenorol trwy ddefnyddio cod mwy generig ar gyfer henaint.
  • Mae’r gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran o farwolaethau o ganlyniad i anafiadau traffig ffyrdd bron i bedair gwaith yn uwch mewn dynion na menywod (4.9 o’i gymharu â 1.3 fesul 100,000). Nid oes tuedd ar gael ar gyfer y data hyn oherwydd nifer gymharol fach o farwolaethau o ganlyniad i anafiadau traffig ffyrdd (tua 100 y flwyddyn yng Nghymru).
  • Gwelwyd cynnydd bach yn y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran o gofrestriadau marwolaethau oherwydd hunanladdiad yn 2020-24 (13.1 fesul 100,000) o’i gymharu â 2019-23 (12.5 fesul 100,000). Mae’r gyfradd ar gyfer dynion dros dair gwaith yn uwch nag ar gyfer menywod (20.9 o’i gymharu â 5.9 fesul 100,000). I ddynion, mae’r gyfradd yn y pumed â’r amddifadedd mwyaf tua dwywaith cyfradd y pumed â’r amddifadedd lleiaf (28.6 o’i gymharu â 13.7 fesul 100,000), ac mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi ehangu ers 2011-15.

Tablau data

Mynediad i’r data sydd

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig