Neidio i'r cynnwys

E-ddysgu imiwneiddio

Mae’r dysgu ar-lein hwn yn cael ei ddarparu gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Dysgu Digidol Cymru.

Bydd holl staff y GIG yng Nghymru yn cael mynediad at e-ddysgu drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR).

Ar gyfer staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru, mae’r mynediad at e-ddysgu drwy Dysgu@Cymru.

Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar ddefnyddwyr i gael mynediad at blatfform Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair cysylltwch ag [email protected]. Dywedwch wrthym eich enw, teitl swydd a gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen â .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru.

Dechrau arni
Pwy Sut
Staff GIG Cymru Gall holl staff GIG Cymru gael mynediad at e-ddysgu drwy’r ESR. Os nad oes gennych gyfrif, os yw eich cyfrif wedi’i gloi neu os oes angen i chi ailosod cyfrinair anfonwch e-bost i [email protected] neu ffonio 02920 905444.
Meddygon Teulu / Staff Gofal Sylfaenol Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch i gael mynediad at e-ddysgu ar Dysgu@Cymru.

Os nad oes gennych gyfrif, cysylltwch ag  [email protected] a bydd enw defnyddiwr a chyfrinair yn cael eu creu ar eich cyfer.

Nodwch os oes gennych gyfrif ESR, dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer holl staff GIG Cymru uchod.

Cliciwch yma i gael canllaw cyflym i e-ddysgu Dysgu@Cymru.

Fferyllwyr / Holl Staff Fferyllfeydd Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch i gael mynediad at e-ddysgu ar Dysgu@Cymru.

Os nad oes gennych gyfrif, cysylltwch ag  [email protected] a bydd enw defnyddiwr a chyfrinair yn cael eu creu ar eich cyfer.

Nodwch os oes gennych gyfrif ESR, dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer holl staff GIG Cymru uchod.

Cliciwch yma i gael canllaw cyflym i e-ddysgu Dysgu@Cymru.

Awdurdodau Lleol

Prifysgolion

Gallwch gael mynediad at e-ddysgu ar Dysgu@Cymru.

Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen â’r canlynol gallwch hunangofrestru:

@ .gov.uk
@ .ac.uk

Cliciwch ar y ddolen hon i sefydlu eich cyfrif.

Gofalwyr gofal cymdeithasol

Staff cartrefi gofal

Elusennau a grwpiau gwirfoddol

Anfonwch e-bost gyda’ch enw, teitl swydd a lleoliad gwaith i [email protected]

a bydd enw defnyddiwr a chyfrinair yn cael eu creu ar eich cyfer.

 

Allweddi Cofrestru Dysgu@Cymru

Bydd angen i chi ddefnyddio allwedd cofrestru i gael mynediad at yr adnoddau e-ddysgu ar wefan Dysgu@Cymru:

Sefydliad Allwedd Cofrestru
Meddygon Teulu/Gofal Sylfaenol Cod y Practis Meddyg Teulu a !
e.e. W92025!
Fferyllfeydd Pharm25%
Ymatebwyr cyntaf 1stRes17%
Y trydydd sector/arall Third75%

Os nad oes unrhyw rai o’r allweddi cofrestru yn berthnasol, cysylltwch ag [email protected] a bydd allwedd gofrestru yn cael ei dyrannu i chi.

Problemau mewngofnodi a thrafferthion technegol

Meddalwedd a gosodiadau sy’n cael eu hargymell ar gyfer cyfrifiaduron

I wneud yn siŵr bod defnyddwyr yn cael y profiad e-ddysgu gorau posib, mae’r gofynion technegol canlynol yn cael eu hargymell:

ESR:

  • Chrome
  • Edge
  • Ffenestri naid wedi’u galluogi
  • Cwcis wedi’u galluogi
  • Cydraniad y sgrin yn 1280×1024
  • Cyfleuster sain: efallai y bydd angen seinydd allanol neu glustffonau

Dysgu@Cymru:

Un o’r porwyr rhyngrwyd canlynol

  • Chrome
  • Edge

Heb y feddalwedd briodol efallai y bydd oedi, ac y bydd yn cymryd mwy o amser i chi gwblhau modiwlau a chael tystysgrif. Cysylltwch â’ch tîm cymorth TG lleol os nad ydy’r feddalwedd hon gennych chi neu os nad ydy’r fersiwn ddiweddaraf wedi’i gosod.

Problemau mewngofnodi

Os oes gennych broblemau mewngofnodi neu unrhyw anawsterau technegol wrth gael mynediad at ESR neu Learning@Wales, cysylltwch â:

E-bost: [email protected]
Ffôn: 02920 905444
Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 08:30 – 16:30. Gyda chau byr ar ddydd Mercher rhwng 12:00 – 14:00 ar gyfer hyfforddiant hanfodol staff.

Cyrsiau

Rhannu Gwybodaeth

Mae’n bosib y bydd gwybodaeth am y cynnydd y byddwch yn ei wneud wrth gwblhau’r cyrsiau – ac ydych chi wedi’u gorffen – yn cael ei rhannu â’ch rheolwr llinell a’ch cydlynydd imiwneiddio lleol.