Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth am frechiadau i oedolion

Cael eich brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i’ch amddiffyn rhag salwch difrifol. Mae brechiadau’n achub miliynau o fywydau bob blwyddyn.

Efallai y bydd angen gwahanol frechiadau arnoch ar wahanol adegau yn ystod eich bywyd. Mae hyn yn dibynnu ar eich oedran, eich iechyd, neu ddigwyddiadau fel beichiogrwydd neu deithio. 

  • Os ydych chi’n feichiog, gallwch ymweld â’n tudalen we brechlynnau yn ystod beichiogrwydd i gael rhagor o wybodaeth. 
  • Os ydych chi’n bwriadu teithio, ewch i’n tudalen we brechlynnau teithio i gael rhagor o wybodaeth am frechiadau cyn teithio. 
  • Os ydych angen brechiadau oherwydd eich swydd, siaradwch â’ch cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth.

Oedolion sydd mewn mwy o berygl o heintiau 

Mae rhai oedolion yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn o ganlyniad i heintiau. Mae hyn yn cynnwys y bobl ganlynol: 

  • oedolion hŷn, a 
  • phobl â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. 

Mae brechlynnau’n helpu i leihau’r risg o ofal ysbyty, problemau iechyd hirdymor a hyd yn oed marwolaeth o heintiau fel y ffliw, COVID-19, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), clefyd niwmococol neu’r eryr. Maent yn gweithio trwy ddysgu’r system imiwnedd i adeiladu ei hamddiffynfeydd yn erbyn clefydau. Maent yn helpu i’ch amddiffyn pan nad yw’ch corff yn gallu brwydro yn erbyn y salwch yn hawdd. 

Mae brechlynnau hefyd yn helpu i atal lledaeniad clefydau. Drwy gael eich brechu, rydych chi’n helpu i gadw’ch hun, eich teulu, a’ch cymuned yn iach. 

Cliciwch ar y dolenni yn y tablau isod i ddysgu rhagor am y brechlynnau rheolaidd sydd ar gael i oedolion.

Brechlyn  Pwy sy’n gymwys?  Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn yn ei erbyn 
Yr Eryr • Pobl sy’n troi’n 65 oed 
• Pobl rhwng 70 a 79 oed   
• Pobl 18 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn 
Yr Eryr 
Clefyd niwmococol • Pobl 65 oed a hŷn  
• Oedolion sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i glefyd niwmococol 
Llid yr ymennydd (meningitis – haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn)  
Sepsis (ymateb sy’n peryglu bywyd i haint) Niwmonia (haint yn yr ysgyfaint) 
Feirws Syncytiol Anadlol • Pobl 75 mlwydd oed a hŷn  
• Pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn  
• Menywod beichiog i amddiffyn eu babanod 
Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) sy’n gallu arwain at heintiau difrifol fel niwmonia

Brechlynnau tymhorol i oedolion 

  • Covid-19

    Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn sy’n cael ei achosi gan feirws. Gall fod yn fwy difrifol ymhlith pobl 75 oed neu’n hŷn a’r rhai sydd â ssystem imiwnedd wan.

  • Ffliw

    Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirws, sy’n cael ei ledaenu trwy beswch a thisian. Mae’r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, os ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn.

Brechiadau eraill i oedolion

Efallai y bydd angen brechlynnau eraill neu ddosau ychwanegol ar rai pobl i helpu i’w hamddiffyn. Mae hyn yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd penodol, neu’r rhai sy’n fwy tebygol o fod yn agored i salwch.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall eich practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol neu dîm gofal iechyd arbenigol roi cyngor a chymorth i chi yn seiliedig ar eich anghenion.

Mae’r tabl isod yn dangos enghreifftiau o frechlynnau eraill y gallech fod eu hangen a ble gallwch eu cael. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Efallai y bydd angen brechlynnau eraill arnoch yn dibynnu ar eich swydd, os ydych yn teithio dramor, neu eich amgylchiadau personol.

Brechlyn  Pwy sy’n gymwys?  Y clefyd y mae’n helpu i amddiffyn rhagddo  Ble allwch chi gael y brechlyn? 
HPV Dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) 45 oed neu’n iau  Canser ceg y groth, rhai mathau o ganser y pen a’r gwddf ac anogenhedlol, a defaid gwenerol a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV)  Clinig iechyd rhywiol 
Brech M Pobl sydd mewn mwy o berygl  Brech M (a’r frech wen)  Clinig iechyd rhywiol 
Men B ar gyfer gonoroea Pobl sydd mewn mwy o berygl   Llid yr Ymennydd B (meningitis – haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a gonoroea  Clinig iechyd rhywiol 
Hepatitis B Pobl sydd mewn mwy o berygl  Hepatitis B Practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig teithio neu glinig iechyd galwedigaethol 
Hepatitis A Pobl sydd mewn mwy o berygl  Hepatitis A Practis meddygon teulu, clinig iechyd rhywiol, clinig teithio neu glinig iechyd galwedigaethol 

Os ydych chi wedi colli unrhyw frechiadau

Mae’n bwysig eich bod yn cael yr holl frechiadau rheolaidd sydd angen i chi eu cael. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi colli unrhyw frechiadau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu nyrs practis. Gallant wirio’ch cofnodion a threfnu unrhyw apwyntiadau brechu maen nhw’n eu darparu. Gallant hefyd eich cynghori ynghylch ble i gael brechiadau sy’n cael eu cynnig trwy wasanaethau eraill, fel clinigau iechyd rhywiol neu glinigau teithio.

Cwestiynau Cyffredin

Pam mae brechu’n bwysig i oedolion?

Diolch i frechu, mae clefydau fel y frech wen, polio a thetanws oedd yn arfer lladd neu effeithio ar filiynau o bobl naill ai wedi diflannu neu’n brin iawn yn y DU. Fodd bynnag, os bydd pobl yn rhoi’r gorau i gael eu brechu, gallai’r clefydau hyn ddychwelyd a lledaenu’n gyflym. 

Efallai y bydd angen dosau ychwanegol (pigiadau atgyfnerthu) o rai brechlynnau arnoch i gynnal eich amddiffyniad. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer heintiau fel y ffliw neu COVID-19, pan mae eich amddiffyniad gan y brechlyn yn pylu, a’r feirws yn parhau i newid. Mae cael pigiadau atgyfnerthu rheolaidd yn helpu i gynnal eich amddiffyniad ac yn lleihau’ch siawns o fynd yn sâl iawn. 

Sut mae brechlynnau’n gweithio?

Mae brechlynnau’n gweithio trwy ddysgu’ch system imiwnedd sut i frwydro yn erbyn heintiau. Maen nhw’n dysgu eich corff i adnabod ac ymateb i glefydau penodol cyn i chi eu dal.  

Mae’n fwy diogel i’ch corff ddysgu sut i ymladd salwch trwy frechu yn hytrach na thrwy ddal y clefyd. 

Gwyliwch y fideo canlynol i ddysgu rhagor am sut mae brechlynnau’n gweithio: Sut mae brechlynnau’n gweithio? — Oxford Vaccine Group (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Pam mae rhai oedolion mewn mwy o berygl o heintiau?

Mae oedolion hŷn a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor penodol yn fwy tebygol o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i heintiau. 

Nid yw ein system imiwnedd yn gweithio cystal wrth i ni fynd yn hŷn. Gall rhai cyflyrau iechyd hefyd wanhau’r system imiwnedd, gan eich gwneud yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn. Mae hyn yn golygu y gall heintiau fel y ffliw, COVID-19, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV), yr eryr a niwmonia arwain at broblemau iechyd mwy difrifol neu hyd yn oed gofal ysbyty. 

A allaf i ddal haint hyd yn oed os ydw i wedi cael fy mrechu yn ei erbyn?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o atal salwch difrifol a achosir gan heintiau. Nid oes yr un brechlyn yn rhoi amddiffyniad sy’n 100% effeithiol, ond gall wneud y salwch yn llawer ysgafnach os byddwch chi’n ei ddal.