Neidio i'r cynnwys

Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) - Gwybodaeth brechlyn 6 mewn 1 i weithwyr iechyd proffesiynol

Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Mae difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), poliomyelitis, Hib (ffliw Haemophilus math b) a hepatitis B yn glefydau hysbysadwy

Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn amddiffyn rhag difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), poliomyelitis, Hib (Ffliw Haemophilus math b) a hepatitis B ac fe’i cyflwynwyd ar gyfer holl fabanod y DU a aned ar, neu ar ôl 1 Awst 2017. 

Rhoddir y tri dos cyntaf o frechlyn sy’n cynnwys Hib ar 8, 12, ac 16 wythnos drwy’r brechlyn 6-mewn-1 (DTaP/IPV/Hib/HepB). 

Newidiadau i amserlen imiwneiddio plant yng Nghymru ac effaith ar y brechlyn 6-mewn-1  

Daeth Menitorix© (Hib/MenC) i ben ar 30 Mehefin 2025. Menitorix© oedd pedwerydd dos brechlyn Hib yn yr amserlen arferol. 

O ganlyniad i ddod â Menitorix© i ben, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) sy’n cynghori Llywodraeth y DU ar faterion brechu, newidiadau i amserlen imiwneiddio plant yng Nghymru. 

Mae argymhellion y JCVI, yn cynnwys: 

 O 1 Ionawr 2026 

  • Rhoddir dos ychwanegol o frechlyn amlfalent sy’n cynnwys Hib (DTaP/IPV/Hib/HepB) pan fydd y plentyn yn 18 mis oed. Bydd hwn yn cymryd lle’r Hib a roddir yn flaenorol ar ôl 12 mis (Hib/MenC).  
  • Mae’r ymweliad 18 mis yn apwyntiad newydd ar amserlen imiwneiddio plant. 

I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i amserlen imiwneiddio plant, sy’n cynnwys cwestiynau cyffredin, ewch i: 

Am y brechlyn 

Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei farchnata i’w ddefnyddio yn y DU o dan yr enwau brand Infarix hexa® a Vaxelis®.  

Mae Infanrix hexa®yn frechlyn anweithredol ar ffurf powdr ac mae’n ddaliant y mae angen ei ailansoddi cyn rhoi pigiad. Mae Vaxelis®yn frechlyn a ddaw ar ffurf chwistrell wedi’i lenwi ymlaen llaw. 

Mae canllawiau ar drin achosion tetanws a rheoli clwyfau a allai arwain at: 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael ym mhenodau’r Llyfr Gwyrdd ar gyfer pob clefyd. Gweler yr adran adnoddau a gwybodaeth glinigol.

Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd yn disodli’r Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC).  

Rhoi gwybod am sgîl-effeithiau 

Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n caniatáu monitro parhaus o gydbwysedd mantais/risg y cynnyrch meddyginiaethol. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn wefan Yellow Card (safle allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod. 

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol)darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI;chwiliwch e.e. polio.

Gall canllawiau ar newidiadau i amserlen imiwneiddio plant yng Nghymru (safle allanol) ei ddarganfod ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae’r amserlen imiwneiddio rheolaidd gyflawn ar gyfer Cymru ar gael ar ein gwefan ac mae’n cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.  

Gellir dod o hyd i bolisi a chanllawiau hefyd ar dudalen polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru SharePoint Iechyd Cyhoeddus Cymru (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) a gweithdrefnau

Gellir dod o hyd i dempliedi PGD ar y dudalen cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) a tudalen glanio protocolau.

Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth 

Rhagor o wybodaeth 

Data a goruchwyliaeth

Mae gwybodaeth goruchwyliaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod:

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026