Gofal sylfaenol
Mae gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned wrth galon ein cymunedau, yn ymgysylltu â phobl drwy gydol eu hoes ac yn aml, dyma’r pwynt cyswllt cyntaf y mae pobl yn ei gael â’r GIG a gofal cymdeithasol. Mae 60 o glystyrau aml-broffesiynol yng Nghymru. Mae’r clystyrau hyn yn cynnwys darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned. Dyma’r dirwedd ar gyfer diwallu anghenion y boblogaeth drwy’r gofal iawn, gan y bobl â’r sgiliau iawn, ar yr amser iawn, ac yn y lle iawn.
Beth yw gofal sylfaenol?
Gwasanaethau gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwy na 90% bobl â’r GIG yng Nghymru ar gyfer gofal, ddydd neu nos. Mae ymarfer cyffredinol yn elfen graidd o ofal sylfaenol ond nid dyma’r unig elfen – mae gwasanaethau eraill megis fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg yn darparu gofal uniongyrchol i’r cyhoedd, a hynny’n fwyfwy cyffredin. Mae cyfraniad gofal sylfaenol hefyd – yn bwysicach – yn ymwneud â chydlynu’r broses o sicrhau bod yr ystod eang o wasanaethau yn y gymuned leol ar gael i bobl er mwyn helpu i ddiwallu eu hanghenion iechyd a lles. Mae amrywiaeth eang iawn o staff yn rhan o’r gwasanaethau cymunedol hyn, megis nyrsys cymunedol a dosbarth, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, timau iechyd meddwl, timau hybu iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, gwaedyddion, parafeddygon, gwasanaethau cymdeithasol, aelodau eraill o staff yr awdurdod lleol a phawb sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector annibynnol ac mewn sefydliadau gwirfoddol sy’n cynorthwyo pobl yn ein cymunedau.
Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru
Mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn fframwaith ar-lein am ddim sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau clinigol ac anghlinigol sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Darllenwch fwy am Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a’r fframwaith yma.
Model gofal sylfaenol i Gymru
Model ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymdeithasol, a ddatblygwyd fel dull system gyfan o ddarparu gofal iechyd a llesiant lleol sy’n gynaliadwy a hygyrch. rwy ganolbwyntio ar ofal sy’n seiliedig ar leoedd, gofal yn nes at y cartref a gwaith aml-broffesiynol, mae’n disgrifio sut y caiff gofal ei ddarparu’n lleol, nawr ac yn y dyfodol, fel rhan o ddull system gyfan o gyflawni Cymru iachach. Dysgwch fwy am y model gofal Sylfaenol i Gymru yn ein tudalennau gwybodaeth.
Gweithio mewn clystyrau
Mae clwstwr yn dod a’r holl wasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ynghyd ar draws ardal ddaearyddol, sydd fel arfer yn gwasanaethu poblogaeth o rhwng 25,000 a 100,000. Mae gweithio fel clwstwr yn sicrhau bod gofal yn cael ei gydlynu’n well i hyrwyddo lles unigolion a chymunedau. Gallwch ddysgu mwy am weithio mewn clystyrau yma.
Gofal deintyddol sylfaenol
Yn cefnogi ac yn arwain gwelliannau iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru. Bydd nifer o raglenni a diwygio cyffredinol deintyddol yn cefnogi pobl Cymru i well hylendid y geg a lleihau cyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd y geg. Mae mwy o fanylion am y rhaglenni deintyddol yma.
Lleihau anghydraddoldebau iechyd
Cyrchwch adnoddau a fydd yn cefnogi cynllunio a gweithredu mewn gofal sylfaenol a fydd yn lleihau annhegwch iechyd i gleifion ar draws Cymru.
Iechyd cynhwysol
Mae Rhaglen Iechyd Cynhwysol Cymru yn cefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol sy’n datblygu neu’n adolygu gwasanaethau i ystyried ac addasu’r anghenion i’w poblogaethau fwyaf agored i niwed. Dysgwch fwy am iechyd cynhwysol.
Atal mewn gofal sylfaenol
Mae atal yn ganolog i ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru, gan symud y canolbwynt o drin salwch i gefnogi iechyd a lles hir dymor. Dysgwch fwy am atal mewn gofal sylfaenol.
Gofal iechyd i gyn-filwyr a chyn-filwyr y lluoedd arfog
Canllawiau i ymarferion cyffredinol i atal milwyr a chyn-filwyr fod dan anfantais wrth geisio cael gafael ar ofal iechyd.
Digwyddiadau gofal sylfaenol
Cofrestrwch ar gyfer gweminarau pynciol a mynediad i wybodaeth ôl-ddigwyddiad i gefnogi ymarferion Gofal Sylfaenol yng Nghymru.
botwm
Adran gofal sylfaenol
Mae’r adran Gofal sylfaenol yn darparu trosolwg o gyfeiriad strategol o ofal sylfaenol a chymdeithasol yng Nghymru, y Model Gofal Sylfaenol i Gymru, a throsolwg o’r rolau a chyfrifoldebau o gydweithredwyr proffesiynol, clystyrau aml-broffesiynol a grwpiau cynllunio pan-glystyrau. Gyda’r nod o rannu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth a dylanwadu gweithredoedd, i wella iechyd a lles poblogaeth Cymru.
Cysylltu â ni
Cysylltwch ag adran gofal Sylfaenol.
Tabl cynnwys:
- Beth yw gofal sylfaenol?
- Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru
- Model gofal sylfaenol i Gymru
- Gweithio mewn clystyrau
- Gofal deintyddol sylfaenol
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd
- Iechyd cynhwysol
- Atal mewn gofal sylfaenol
- Gofal iechyd i gyn-filwyr a chyn-filwyr y lluoedd arfog
- Digwyddiadau gofal sylfaenol
- Adran gofal sylfaenol
- Cysylltu â ni
- Gwybodaeth bellach
- Adroddiadau
- Data
- Adnoddau
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn