Neidio i'r cynnwys

Atal mewn gofal sylfaenol

Wrth wraidd system iechyd a gofal cynaliadwy i Gymru mae ffocws ar atal ac ymyrraeth gynnar — gan symud ffocws y system o drin salwch yn adweithiol i gefnogi iechyd a lles yn rhagweithiol.

Mae’r maes strategol hwn yn arwain newid ar draws pob lefel o atal sydd o fewn dylanwad y system iechyd a gofal, gan fynd i’r afael ag atal clefydau yn achos diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd, datblygu dulliau gydol oes o gefnogi iechyd a lles ar ôl beichiogrwydd yn ogystal ag iechyd cyhyrysgerbydol, a hyrwyddo dulliau trawsbynciol gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol a’r fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal.

Drwy weithio ar y cyd â byrddau iechyd, cymunedau a phartneriaid allweddol, mae’r rhaglenni gwaith yn darparu offer ac adnoddau ymarferol, datblygiadau seilwaith cenedlaethol a gweithredu cydgysylltiedig i wella canlyniadau iechyd a lleihau’r galw ar y system iechyd a gofal.

  • Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

    Darllenwch bopeth am y Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan.

  • Atal clefydau cardiofasgwlaidd

    Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn cyfeirio at amryw o gyflyrau sy’n effeithio’r galon a phibelli gwaed ac yn fater iechyd difrifol yng Nghymru.

  • Atal gordewdra mewn gofal sylfaenol

    Mae gordewdra yn fater iechyd cyhoeddus sy’n ddifrifol ac yn gwaethygu yng Nghymru, ac mae’r pandemig wedi uwcholeuo risgiau ymhellach o ganlyniadau niweidiol i bobl sy’n byw gyda gordewdra.

  • Rhagnodi cymdeithasol

    Mae presgripsiwn cymdeithasol yn derm ymbarél i ddisgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol

  • Cefnogi ymddygiadau iach

    Mae cyfres o adnoddau yma wedi’u dylunio i weithlu gofal sylfaenol a chymdeithasol allu defnyddio i gynnal sgyrsiau gydag unigolion am ddefnyddio ymddygiadau iach.