Atal gordewdra mewn gofal sylfaenol
Mae gordewdra yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol yng Nghymru ac yn dod yn fwyfwy cyffredin. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith bod pobl sy’n byw gyda gordewdra yn wynebu mwy o risg o ganlyniadau andwyol.
Yn 2020, gwelwyd bod 61% o oedolion yng Nghymru yn y categori dros bwysau neu ordew; gyda 36% yn y categori rhy drwm, 22% yn ordew, a 3% yn afiachus o ordew. Amcangyfrifir bod gordewdra yn costio £73 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, gan gynyddu i £86 miliwn pan fo’r categori dros bwysau wedi’i gynnwys, gan greu baich ar wasanaethau gofal iechyd.
Mae atal gordewdra wedi cael ei gydnabod fel her gymhleth, gyda sawl ffactor yn cyfrannu ar lefelau unigol, cymunedol, cymdeithasol a byd-eang. Mae Llwyodraeth Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi’r tueddiadau presennol o ran gordewdra, gan gyhoeddi strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach yn 2019 ac, yn fwy diweddar, Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021 (AWWMP).
Mae’r AWWMP yn canolbwyntio ar daith unigolyn i reoli eu pwysau, o’r ymyrraeth gynnar hyd at gymorth arbenigol. Mae’n cydnabod pwysigrwydd gofal sylfaenol a chymunedol, gan ddisgrifio’r lleoliadau hyn fel y pwynt cyswllt cyntaf i bobl sydd â phryderon iechyd a llesiant.
Mae’r is-adran Gofal Sylfaenol wedi datblygu dau adroddiad i dynnu sylw at sut y gall gofal sylfaenol a chymunedol gefnogi’r gwaith o atal gordewdra a rheoli pwysau yng Nghymru, ac at y gefnogaeth y mae’r gweithlu ei angen i gyflawni hyn. Mae argymhellion yr adroddiadau wedi llywio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol (2022–24) i gefnogi cyflwyniad elfennau gofal sylfaenol AWWMP. Gallwch ddarllen y Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol yma.
Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd ag amcanion Strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach 2019 a’i fwriad yw cefnogi gweithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021.