Brechlyn Hepatitis B - Ynglŷn â'r brechlyn hepatitis B
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bobl y credir eu bod mewn mwy o berygl o gael hepatitis B neu o gael cymhlethdodau. Mae hefyd yn cael ei gynnig i blant fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio reolaidd.
Brechlyn hepatitis B
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei roi i helpu i’ch amddiffyn chi neu eich babi rhag hepatitis B.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hepatitis B a’r brechlyn yn GIG 111 Cymru.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Imiwneiddio babanod
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG fel brechlyn 6-mewn-1. Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei gynnig i fabanod pan maent yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed.
Mae’r amserlen imiwneiddio reolaidd gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Er bod y risg o ddal hepatitis B yn isel yn y DU, mae plant ac oedolion sydd mewn grwpiau sydd â risg uwch o ddal hepatitis B hefyd yn cael cynnig y brechlyn. Os oes gennych chi’r haint pan rydych yn feichiog, mae eich babi mewn perygl o ddatblygu hepatitis B a rhoddir dosau ychwanegol o’r brechlyn iddo.
Imiwneiddio ar gyfer pobl sydd â risg uwch o hepatitis B
Am y brechlyn
Adnoddau
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gwybodaeth bellach
- British Liver Trust (Saesneg yn unig)
- GIG 111 Cymru – Brechlynnau (safle allanol)
- Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd er mwyn teithio, edrychwch ar ein tudalen Brechlynnau Teithio.
British Liver Trust (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mai 2025