Gweithio clwstwr: Data
Mae defnyddio data i gefnogi cynllunio a blaenoriaethu adnoddau yn gofyn am ffynonellau data cyfredol, cadarn a dibynadwy, sydd ar gael ar y lefel briodol e.e., ôl-troed y clwstwr.
Mae offer i gefnogi meddwl am ddata a thystiolaeth yn cynnwys:
Dull 3 chwestiwn Driscoll:
- Beth mae’r data yn ei ddweud (asesiad anghenion / gwybodaeth leol)?
- Felly beth – pa un yw’r maes blaenoriaeth, ble dylid cymryd camau?
- Beth nawr – beth yw’r dystiolaeth ar gyfer gweithredu / codi ymwybyddiaeth neu eiriolaeth?
Dull y 3 A:
- Gweithredu (Action) – Nodi’r bobl / y boblogaeth, pa ymyrraeth sydd ei hangen, a sut y dylid ei rhoi ar waith.
- Eiriolaeth (Advocacy) – Beth sydd y tu hwnt i’m rheolaeth uniongyrchol ond sydd angen i mi eirioli drosto gyda phartneriaid strategol e.e., tai sy’n cefnogi iechyd.
- Ymwybyddiaeth (Awareness) – Beth sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono neu wneud eraill yn ymwybodol ohono e.e., effaith bygythiadau cyfredol ac sy’n dod i’r amlwg i iechyd a lles yng Nghymru, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar anghydraddoldebau.
Offer asesu anghenion y boblogaeth
- Canllaw ymarferol i gynnal asesiad o anghenion iechyd (Saesneg yn unig)
- Rhestr wirio asesu anghenion y boblogaeth – Asesiadau anghenion mewn cynllunio a darparu
- Pecyn hunanasesu tegwch ac cynhwysiant iechyd ar gyfer gofal sylfaenol – Mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i helpu’r rhai sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol neu gyda gofal sylfaenol i ystyried tegwch ym mhob agwedd ar gynllunio a/neu weithredu gwasanaethau, rhaglenni neu ymyriadau penodol a thargedig.
Mae gwaith ar y gweill yng Nghymru i ddatblygu Rheoli Iechyd y Boblogaeth, lle gellir segmentu a haenu data i nodi grwpiau poblogaeth sydd mewn perygl, a allai elwa ar ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, gall ddarparu dull defnyddiol o nodi anghenion a blaenoriaethu camau gweithredu.
Mae angen gwaith pellach yng Nghymru i gryfhau’r gwaith o gasglu, dadansoddi a rhannu data rhwng partneriaid strategol er mwyn llywio dulliau cynllunio iechyd poblogaeth. Gall lansiad yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) gefnogi hyn.
Mae nifer o ddangosfyrddau sy’n cynnwys data perthnasol i ofal sylfaenol a chymunedol, sy’n ddefnyddiol at ddibenion cynllunio, gan gynnwys:
- Gwasanaethau Estynedig Fferyllfeydd V1.2 | Tableau Public (Saesneg yn unig)
- Proffiliau clwstwr gofal sylfaenol – data a dadansoddiad
- Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP) – Gofal Sylfaenol | Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Catalog StatsCymru
- Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru
- Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) a Dangosyddion Cenedlaethol (WBFG) (2022) – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Map Iechyd Cymru (Saesneg yn unig)
- Iechyd a’i benderfynyddion (Saesneg yn unig)
- Arolwg Cenedlaethol Cymru – Mae’r bwletin Iechyd a gofal cymdeithasol yn adrodd ar ddefnydd pobl o wasanaethau meddygon teulu ac ysbytai a’u boddhad ohonynt
- Mapiau rhyngweithiol Cyfrifiad Office for Nation Statistics (Saesneg yn unig) – yn galluogi adeiladu proffil ardal yn seiliedig ar leoliad neu god post y practis
- Mae Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd y Cyhoedd Cymru yn darparu cyfres o ddangosyddion lefel uchel, amserol, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu diweddaru bob pythefnos neu’n fisol ar y canlynol:
- Clefydau trosglwyddadwy
- Gallu’r system i ymateb
- Marwolaethau
- Ymddygiadau iach a llesiant
- Penderfynyddion ehangach
- Bydd data penodol i wasanaethau ar gael gan fyrddau iechyd lleol. Cysylltwch â dadansoddwr data eich Bwrdd Iechyd am wybodaeth benodol am eich bwrdd iechyd. Mae ffynonellau data penodol i bynciau yn cynnwys: