Brechlynnau ar gyfer beichiogrwydd - Gwybodaeth brechu yn ystod beichiogrwydd
Byddwch yn cael cynnig brechlynnau yn ystod eich beichiogrwydd. Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o’ch amddiffyn chi a’ch baban rhag salwch difrifol.
Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o frwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a’ch baban.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Cyn neu ar ôl beichiogrwydd
Mae’r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Brechlyn byw yw’r MMR ac felly ni argymhellir ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, fe’i hargymhellir ar gyfer menywod nad ydynt wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn naill ai cyn neu ar ôl beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi neu ar ôl i’ch baban gael ei eni. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch gyda’ch bydwraig neu’ch practis meddyg teulu. Ewch i dudalen brechlyn MMR am ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR.
| Brechlyn | Pryd i gael y brechlyn |
| Brechiad y pas (pertwsis) |
Wedi’i gynnig o 16 wythnos. Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. Gall y pas fod yn haint difrifol iawn, yn enwedig i fabanod ifanc. Gall arwain at anhawster anadlu, heintiau difrifol ar yr ysgyfaint (niwmonia) ac, mewn achosion prin, marwolaeth. Mae cael y brechlyn pertwsis yn ystod beichiogrwydd yn helpu i amddiffyn eich babi rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Mae brechlyn y pas wedi cael ei gynnig i fenywod beichiog ers 2012. |
| Brechlyn RSV (feirws syncytiol anadlol) |
Wedi’i gynnig o 28 wythnos. Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. Mae RSV yn achos cyffredin o heintiau’r pibellau anadlu. Mae babanod dan flwydd oed mewn mwy o berygl o gael RSV. Cynigir y brechlyn RSV o 28 wythnos o feichiogrwydd i helpu i amddiffyn babanod ifanc o enedigaeth hyd at chwech mis a thu hwnt. Mae’r brechlyn RSV wedi bod ar gael i fenywod beichiog ers 1 Medi 2024. |
| Ffliw (firws ffliw) |
Wedi’i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi. Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n fwy tebygol o fynd yn sâl iawn os oes gennych chi’r ffliw, yn enwedig yng nghamau olaf beichiogrwydd. Os ydych chi’n cael y ffliw pan fyddwch chi’n feichiog rydych chi’n fwy tebygol o fynd i’r ysbyty nag os nad ydych chi’n feichiog. Os ydych chi’n cael y ffliw pan fyddwch chi’n feichiog, gallai achosi i’ch baban gael ei eni’n gynnar neu fod â phwysau geni isel a gallai hyd yn oed arwain at farw-enedigaeth. Mae’r brechlyn ffliw wedi’i gynnig i fenywod beichiog fel rhan o raglen ffliw’r DU ers 2010. |
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, siaradwch â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu nyrs practis. I drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechiad, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu siaradwch â’ch bydwraig.
Brechlynnau eraill i’w trafod gyda’ch bydwraig
Mae’n bosibl y cewch gynnig brechlynnau eraill yn ystod beichiogrwydd os oes gennych gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes.
Er enghraifft, os oes gennych system imiwnedd wan, efallai y cynigir y brechlyn COVID-19 i chi i helpu i leihau eich risg o salwch difrifol o haint COVID-19. Am ragor o wybodaeth, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.
Mae’n bosibl y bydd brechlynnau eraill yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl genedigaeth, gan gynnwys:
- hepatitis B, a
- BCG.
Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael brechlynnau ychwanegol, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.
Pam mae brechiadau’n bwysig i ferched beichiog?
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi a’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Cyn dod yn feichiog, gwiriwch fod eich brechiadau wedi’u diweddaru i amddiffyn rhag clefydau a all achosi salwch ynoch chi neu’ch babi heb ei eni.
A yw’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?
Ydy, mae’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael eu profi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn y caniateir iddynt gael eu defnyddio. Pan fyddant yn cael eu defnyddio, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch.
Oes gan y brechiadau hyn sgil-effeithiau?
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn gweithio trwy sbarduno ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o’r sgîl-effeithiau hyn yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac ni fydd pawb yn eu cael.
Y sgil-effaith mwyaf cyffredin yw braich ddolurus lle cawsoch y pigiad. Mae sgîl-effeithiau eraill yn cynnwys:
- twymyn
- teimlo’n flinedig
- poenau cyffredinol
- oerfel neu symptomau tebyg i ffliw
- y fraich wedi chwyddo lle cawsoch y brechiad ynddi
- diffyg archwaeth
- tymer flin , a
- cur pen/pen tost.
Mae sgîl-effeithiau difrifol yn brin iawn.
Mae’r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n bryderus, ffoniwch GIG Cymru 111. Os cewch gyngor gan feddyg neu fydwraig, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiadau fel y gallant eich asesu’n iawn.
Gallwch hefyd roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn wefan Yellow Card (safle allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Pryd ddylwn i gael fy mrechu?
Mae brechlyn y pâs yn ddiogel iawn ac fe’i argymhellir rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i’ch baban gael ei amddiffyn o adeg ei eni, gan y byddwch yn trosglwyddo’ch gwrthgyrff iddo cyn iddo gael ei eni. Argymhellir y brechlyn pas bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen.
Cynigir y brechlyn Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) o 28 wythnos y beichiogrwydd. Fe’i cynigir drwy gydol y flwyddyn. Argymhellir yn ystod pob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae’r brechlyn RSV yn ystod beichiogrwydd yn cynnig yr amddiffyniad gorau i’ch babi rhag RSV.
Gallwch gael y brechlyn ffliw ar unrhyw adeg o’ch beichiogrwydd. Mae’r brechlyn ffliw ar gael rhwng mis Medi a mis Mawrth, ac fe’i argymhellir bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch babi.
Gellir rhoi’r brechlyn COVID-19 ar unrhyw adeg o’ch beichiogrwydd. Mae’n bwysig bod menywod beichiog yn cael yr holl ddosau a argymhellir o’r brechlyn COVID-19 cyn gynted â phosibl. Mae adroddiadau o bob cwr o’r byd yn dangos bod brechlynnau Pfizer a Moderna yn ddiogel i’w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Mae’n bwysig cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd. Bydd y GIG yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych yn siŵr beth sydd orau i chi, trafodwch hyn gyda’ch bydwraig, a fydd yn esbonio mwy am y brechlynnau a sut y gallant helpu i’ch diogelu chi a’ch babi.
Os byddwch yn sâl pan fydd eich apwyntiad i fod, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella i gael eich brechlynnau, ond dylech geisio eu cael cyn gynted â phosibl.
A yw’r brechlynnau’n ddiogel os ydw i’n bwydo ar y fron?
Mae manteision bwydo ar y fron yn hysbys iawn, a gellir rhoi’r holl frechlynnau hyn yn ddiogel i fenywod sy’n bwydo ar y fron. Nid oes angen i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron cyn eich brechlyn, a gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer wedyn.
A allaf i ddal y pas, RSV neu’r ffliw pan fyddaf wedi cael fy mrechu?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas, RSV a’r ffliw. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, ewch i:
- Gwybodaeth am y pas ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am y ffliw ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am arwyddion a symptomau salwch a achosir gan RSV yn:
- Gwybodaeth am niwmonia ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am bronchiolitis ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am haint clust ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am crŵp ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Ar ôl i’ch babi gael ei eni
Am wybodaeth am frechlynnau i blant rhwng 0 a 5 oed, ewch i dudalen cyn ysgol.
Adnoddau pellach
- Sut i amddiffyn eich hun a’ch babi – Gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd (llyfryn dwyieithog).
- Diogelu chi a’ch babi – brechiadau yn ystod beichiogrwydd (cerdyn post dwyieithog).
- Brechiadau yn ystod beichiogrwydd – poster dwyieithog
- Mae amserlen sy’n dangos pa frechiadau sy’n cael eu cynnig yn rheolaidd yng Nghymru.
- Mae adnoddau Pob Plentyn Cymru (safle allanol) yn rhoi gwybodaeth i rieni am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu plant. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i’r dechrau gorau mewn bywyd a chymorth ar hyd y ffordd.
- Nod Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG) (safle allanol) yw gwella gofal iechyd menywod ledled y byd drwy ei wneud yn fwy hygyrch a gwella ansawdd addysg.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Chwefror 2026