Neidio i'r cynnwys

Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl - Ynglŷn â'r brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl

Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Mae gan bobl 65 oed neu’n hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol siawns uwch o fynd yn sâl o ganlyniad i haint niwmococol. Maent yn fwy tebygol o gael problemau iechyd difrifol hirdymor a gallant hyd yn oed farw. Cynigir brechiad niwmococol am ddim i’r bobl hyn drwy’r GIG. 

Mae’r brechlyn yn ddiogel a gall helpu i’ch amddiffyn chi rhag rhai o’r  mathau mwy difrifol o heintiau niwmococol. 

Pam mae rhai pobl yn cael cynnig y brechlyn niwmococol?

Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor gan arbenigwyr brechu. Mae eu canllawiau yn ein helpu i benderfynu pa frechlynnau i’w cynnig a phwy ddylai eu cael. 

Mae arbenigwyr brechu yn argymell rhoi’r brechlyn niwmococol i bobl sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol o ganlyniad i glefyd niwmococol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd: 

  • yn 65 oed neu’n hŷn, 
  • yn ddwy flwydd oed neu’n hŷn sydd â chyflyrau iechyd hirdymor penodol 
  • yn dod i gysylltiad rheolaidd â mwg metel yn y gwaith 
     

Cynigir y brechlyn niwmococol hefyd i blant dan ddwy flwydd oed fel rhan o raglen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y brechlyn niwmococol i fabanod.

Ynglŷn â’r brechlyn

Pa frechlyn fydd yn cael ei gynnig i mi?

Oedolion hŷn ac unigolion ddwy flwydd oed a hŷn sydd mewn mwy o berygl o glefyd niwmococol. 

Mae dau frechlyn niwmococol ar gael yng Nghymru i bobl yn y grwpiau hyn:

Bydd PCV20 yn disodli PPV23 ar ddechrau 2026. Byddwch yn cael y brechlyn sydd ar gael ar yr adeg y byddwch yn mynd i’ch apwyntiad. Mae’r ddau frechlyn yn gweithio’n dda.

Gallwch ddysgu rhagor am y brechlynnau niwmococol hyn drwy ddarllen y taflenni cleifion.

Babanod dan ddwy flwydd oed sydd mewn mwy o berygl o glefyd niwmococol

Efallai y bydd angen brechlynnau niwmococol ychwanegol ar rai babanod sydd mewn mwy o berygl. Mae hyn yn cynnwys babanod sydd â:

  • Dueg ar goll neu ddueg nad yw’n gweithio’n iawn
  • Anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol
  • System imiwnedd wan iawn.

Os oes gan eich baban un o’r cyflyrau hyn, bydd naill ai’n cael cynnig y brechlyn niwmococol cyfun 13 (PCV13) neu PCV20 (pan fydd ar gael). Bydd eich baban yn cael y brechlyn sydd ar gael ar yr adeg y byddwch chi’n mynd i’r apwyntiad. Bydd meddyg neu nyrs arbenigol eich baban hefyd yn rhoi gwybod i chi a oes angen rhagor o ddosau arno.

Gallwch ddysgu rhagor am PCV13 (Saesneg yn unig) a PCV20 (Saesneg yn unig) drwy ddarllen y taflenni cleifion:

Sut mae’r brechlyn yn cael ei roi?

Rhoddir y brechlyn i fabanod trwy bigiad yn y glun. Rhoddir y brechlyn i blant dros 12 mis oed ac oedolion fel arfer trwy bigiad yn rhan uchaf y fraich.

Sut y byddaf yn cael fy mrechlyn?

Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i wneud apwyntiad pan fyddwch yn gymwys. Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, neu os ydych chi’n meddwl efallai eich bod wedi colli’r gwahoddiad, cysylltwch â nhw a dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl y dylech fod yn gymwys i gael brechlyn niwmococol.

Faint o ddosau sydd eu hangen arnaf?

Dim ond un dos o’r brechlyn sydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl dros 65 oed a phobl â chyflyrau iechyd penodol.

Efallai y bydd nifer fach o bobl sy’n wynebu risg angen dosau pellach. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â:

  • Chlefyd yr arennau cronig (hirdymor)
  • Dim dueg, neu ddueg nad yw’n gweithio’n dda iawn
  • System imiwnedd wan iawn (oherwydd cyflwr genetig, anhwylder ategol, neu driniaeth fel cemotherapi neu steroidau)

Gofynnwch i’ch meddyg neu nyrs os nad ydych chi’n siŵr faint o ddosau sydd eu hangen arnoch chi.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pwy ddylai gael y brechlyn niwmococol?

Gall unrhyw un gael haint niwmococol, ond mae rhai pobl yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn.

Dylech chi gael y brechlyn – hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iach – os ydych chi’n:

  • 65 oed neu’n hŷn, neu’n
  • Ddwy flwydd oed neu’n hŷn ac yn dioddef o gyflwr iechyd hirdymor, yn cynnwys:
    • Problem hirdymor gyda’r galon (fel methiant y galon neu glefyd y galon sydd angen triniaeth reolaidd)
    • Problem hirdymor gyda’r frest neu broblem anadlu (fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma difrifol sydd angen steroidau rheolaidd)
    • Diabetes (os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth ar ei gyfer)
    • Clefyd cronig (hirdymor) yr arennau neu’r afu
    • System imiwnedd wan (o ganlyniad i gyflwr genetig, anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol, salwch fel HIV, neu driniaeth fel cemotherapi neu steroidau)
    • Hylif serebro-sbinol yn gollwng (hylif o amgylch eich ymennydd a’ch asgwrn cefn yn gollwng o ganlyniad i anaf neu lawdriniaeth)
    • Dueg ar goll neu broblem gyda’ch dueg (mae hyn yn cynnwys pobl â chlefyd seliag sy’n effeithio ar y ddueg a’r rhai â chyflyrau gwaed fel clefyd y crymangelloedd)
    • Mewnblaniad yn y cochlea (math o ddyfais clyw)

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Cysylltwch â’ch meddyg teulu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor ac nad ydych yn siŵr a ddylech gael y brechlyn.

Dylech hefyd gael y brechlyn os ydych chi’n gweithio mewn swydd lle rydych chi’n anadlu mwg metel yn rheolaidd. Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio fel weldiwr. Mae hyn oherwydd mae yna gysylltiad rhwng dod i gysylltiad â mwg fetel a niwmonia.

Babanod hyd at ddwy flwydd oed sy’n wynebu mwy o risg o glefyd niwmococol . 

Cynigir y brechlyn niwmococol i fabanod fel mater o drefn pan fyddant yn:

  • 16 wythnos oed, ac yn
  • 12 mis oed.

Efallai y bydd angen brechlynnau niwmococol ychwanegol ar rai babanod sydd mewn mwy o berygl. Er enghraifft, y rhai sydd â:

  • Dueg ar goll neu ddueg nad yw’n gweithio’n iawn
  • Anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol
  • System imiwnedd wan iawn.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen y brechlynnau ychwanegol hyn ar eich plentyn, siaradwch â’i feddyg neu nyrs arbenigol.

Pa frechlynnau eraill y gallaf fod yn gymwys i’w cael?

I gael gwybod pa frechlynnau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael, gweler y tudalen Amserlenni imiwneiddio arferol i Gymru.

Diogelwch ac effeithiolrwydd 

Ydy’r brechlyn yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn niwmococol yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

A oes unrhyw sgil-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau. Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • Dolur, cochni, chwydd neu galedu lle rhoddwyd y pigiad
  • Twymyn
  • Pen tost/cur pen
  • Poenau yn y cymalau neu’r cyhyrau
  • Blinder

Yn ogystal â hyn, gall sgil-effeithiau mewn plant gynnwys:

  • Newid mewn arferion bwyta
  • Tymer flin
  • Cysgadrwydd neu’n cysgu mwy nag arfer

Mae adroddiadau am yr holl sgil-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn:

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o anghyffredin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

Dylech roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

Mae symbol triongl du ar frechlyn neu feddyginiaeth yn golygu ei fod yn cael ei fonitro’n agos am unrhyw sgil-effeithiau. Bydd hyn yn caniatáu i wybodaeth ddiogelwch newydd gael ei hadnabod yn gyflym. Gallwch helpu drwy roi gwybod am sgil-effeithiau y gallech chi neu’ch plentyn eu cael.

Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.

Sut mae’r brechlyn yn gweithio?

Pan roddir y brechlyn i chi neu’ch plentyn, mae amddiffynfeydd naturiol y corff yn creu gwrthgyrff sy’n helpu i amddiffyn rhag heintiau niwmococol.

Ni all y brechlyn niwmococol amddiffyn rhag pob math o facteria niwmococol. Fodd bynnag, mae’r brechlyn yn helpu i amddiffyn rhag y rhai sy’n achosi salwch difrifol amlaf.

Mae’n bwysig gwybod nad yw’r brechlyn niwmococol yn amddiffyn rhag llid yr ymennydd a achosir gan facteria neu feirysau eraill.

A allaf i gael clefyd niwmococol hyd yn oed os ydw i wedi cael y brechlyn?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i atal salwch difrifol (fel niwmonia, sepsis neu lid yr ymennydd) a achosir gan glefyd niwmococol. Nid oes yr un brechlyn yn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau clefyd niwmococol, hyd yn oed os ydych chi wedi cael y brechlyn.

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau niwmonia, sepsis a llid yr ymennydd, ewch i wefan GIG 111 Cymru:

A oes unrhyw un na ddylai gael y brechlyn?

Ychydig iawn o bobl na all gael y brechiad niwmococol. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

A ellir rhoi’r brechlyn niwmococol ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gall. Gellir rhoi’r brechlyn niwmococol ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Bydd yr unigolyn sy’n rhoi eich brechlyn i chi yn rhoi gwybod i chi pa frechlynnau y gellir eu rhoi gyda’i gilydd.

A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i’n sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn.  

Os ydych chi’n sâl gyda thymheredd uchel (twymyn) dros 38.5C, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn cael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch fynd i’ch apwyntiad brechu, canslwch ef a gwnewch apwyntiad newydd.

Beth os oes ofn nodwyddau arna i?

Os oes ofn nodwyddau arnoch chi, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.

Mwy o wybodaeth 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Ebrill 2026