Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl - Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl sy’n wynebu risg – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol
Cefndir
Clefyd niwmococol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio heintiau a achosir gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae.
Mae heintiau naill ai’n ymledol neu’n anymledol. Mae clefydau anymledol yn cynnwys llid y sinysau, llid y glust ganol a broncitis. Mae clefyd niwmococol ymledol (IPD) yn fwy difrifol ac mae’n cynnwys niwmonia, sepsis neu lid yr ymennydd. Mae llid yr ymennydd niwmococol yn glefyd hysbysadwy.
Mae clefyd niwmococol ymledol yn effeithio’n bennaf ar:
- blant ifanc iawn
- yr henoed
- pobl heb ddueg neu ddueg nad yw’n gweithio, a
- phobl â chyflyrau meddygol cronig penodol ac imiwnedd gwan.
Mae clefyd niwmococol yn lledaenu trwy aerosol, diferion anadlol neu drwy gyswllt uniongyrchol â secretiadau anadlol rhywun sy’n cario’r organeb. Mae gan y clefyd gyfnod magu sydd wedi’i ddiffinio’n wael, ond gallai fod mor fyr ag un i dri diwrnod.
Y brechlyn
Mae PPV23 (Pneumovax 23®) a PCV20 (Prevenar 20®) yn frechlynnau anfyw.
SYLWCH: Disgwylir i’r brechlyn PCV20 ddisodli PPV23 ar gyfer oedolion dros 65 oed a’r rhaglen ar gyfer unigolion mewn perygl ddechrau 2026. Dylid defnyddio stociau o PPV23 cyn archebu PCV20 er mwyn paratoi ar gyfer y newid hwn.
Mae’r chwistrell PCV20 wedi’i llenwi ymlaen llaw a’r pecynnu yn edrych yn debyg iawn i chwistrell a phecynnu PCV13. Gwnewch yn siŵr fod brechlynnau PCV20 a PCV13 yn cael eu storio ar wahân, er enghraifft, ar silffoedd gwahanol yn yr oergell.
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyngor ym mis Mehefin 2023 y gellid defnyddio’r brechlyn PPV23 neu PCV20 ar gyfer y rhaglen niwmococol reolaidd i oedolion a rhai 2 oed a hŷn sy’n wynebu risg glinigol.
Mae’r JCVI yn nodi bod y brechlyn PCV20 yn debygol o atal mwy o glefyd na’r brechlyn PPV23, ac y gallai imiwnedd ddirywio ar gyfradd arafach.
Y rhaglen frechu
Ar gyfer pobl dros 65 oed ac unigolion dwy oed a hŷn sydd mewn grŵp risg glinigol
Mae’r brechlyn PCV23 wedi cael ei argymell ar gyfer grwpiau risg er 1992, a phob unigolyn 65 oed a hŷn er 2003. Mae’r rhaglen frechu niwmococol ar gyfer unigolion mewn grŵp risg yn cynnwys unigolion dwy oed a hŷn sy’n rhan o grwpiau risg clinigol penodol. I gael manylion am y meini prawf cymhwysedd manwl, gweler tabl 25.2 yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig).
Profwyd bod perthynas rhwng dod i gysylltiad â mwg metel – yn enwedig ymhlith weldwyr – a risg gynyddol o glefyd niwmococol. Dylid ystyried rhoi dos sengl o’r brechlyn PPV23 neu PCV20 (pan fydd ar gael) i unigolion sy’n dod i gysylltiad â mwg metel yn aml neu’n barhaus yn eu gwaith.
Babanod hyd at ddwy oed sy’n wynebu mwy o risg o glefyd niwmococol
Dylai plant dan 2 oed sydd ag asplenia, camweithrediad y ddueg, anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol neu ag imiwnedd gwan iawn hefyd gael y brechlyn PCV20 (pan fydd ar gael). Gweler tabl 25.3 yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig) am fanylion pellach.
Sylwer: Dylai meddygfeydd gynnig brechlyn o fewn 12 wythnos o’r dyddiad y bydd person yn dod yn gymwys. Yr oedran cymwys ar gyfer y rhaglen oedolion hŷn yw 65, sy’n cyd-fynd ar hyn o bryd ag oedran cymwys ar gyfer rhaglenni brechu yr eryr a’r ffliw arferol. Gan y gall unigolion gael y brechlynnau hyn gyda’i gilydd, dylid manteisio ar gyfleoedd i’w rhoi gyda’i gilydd ble’n bosibl.
Maint y dos a gweinyddu
Oedolion 65 oed a hŷn, ac unigolion 2 oed neu hŷn mewn grwpiau risg glinigol:
- un dos 0.5 ml o’r brechlyn PPV23 neu PCV20 (pan fydd ar gael)
Canllawiau ar ail-frechu
Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC)
- Hydoddiant Pneumovax 23® i’w chwistrellu mewn chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw (Saesneg yn unig)
- Daliant Prevenar 20® ▼ i’w chwistrellu mewn chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw (Saesneg yn unig)
Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n caniatáu monitro parhaus o gydbwysedd mantais/risg y cynnyrch meddyginiaethol. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Mae gan feddyginiaethau a brechlynnau newydd sy’n destun monitro ychwanegol symbol triongl du â’i ben i lawr (▼) ar y daflen yn y pecyn a’u Crynodeb o Nodweddion y cynnyrch (SmPC), ynghyd â brawddeg fer yn esbonio ystyr y triongl. Dylech roi gwybod am bob adwaith niweidiol a amheuir wrth ddefnyddio’r cynhyrchion hyn.
Mae’r canllawiau ar yr amserlen yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig) yn disodli’r SmPC.
Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am raglenni imiwneiddio rheolaidd a detholus a brechlynnau ychwanegol y gallai fod angen eu hystyried ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.
Cyd-weinyddu brechlynnau
Fel arfer, gellir rhoi dosau o wahanol frechlynnau wedi’u hanactifadu unrhyw adeg cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â’i gilydd, oni nodir yn wahanol. Gellir rhoi dosau o frechlynnau wedi’u hanactifadu hefyd ar unrhyw gyfnod cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â brechlyn byw ac i’r gwrthwyneb.
Canllawiau
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
- Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brech (Saesneg yn unig) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e.niwmococal
- Rhaglen frechu niwmococol (Saesneg yn unig)
Adnoddau hyfforddi
Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu imiwneiddio.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Niwmococol: y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru (SharePoint) – Cwestiynau cyffredin
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs)
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.
Data a goruchwyliaeth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ebrill 2026