Brechlyn Hepatitis B - Gwybodaeth hepatitis B i weithwyr iechyd proffesiynol
Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Newidiadau i’r rhaglen frechu ddewisol i fabanod newyddenedigol rhag hepatitis B – yn dod i rym o 1 Gorffennaf 2025
Bydd yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru yn newid yn 2025 a 2026. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhaglen frechu ddewisol i fabanod newyddenedigol a aned i famau â hepatitis B (HepB).
O 1 Gorffennaf 2025:
- Bydd y dos HepB unfalent sy’n cael ei chynnig i fabanod blwydd oed fel rhan o amserlen y rhaglen frechu ddewisol i fabanod newyddenedigol rhag HepB yn cael ei thynnu o’r amserlen.
O 1 Ionawr 2026:
- Bydd ychwanegu (4edd dos) o’r brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (hecsafalent) yn ystod apwyntiad arferol newydd i fabanod 18 mis oed yn disodli’r angen i gael dos o’r brechlyn HepB unfalent yn flwydd oed.
Mae’n bwysig iawn bod babanod sy’n gymwys i fod yn rhan o’r rhaglen imiwneiddio ddewisol i fabanod newyddenedigol rhag Hepatitis B yn cael y dos hon pan fyddant yn 18 mis oed.
I gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn, gweler:
- Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B (WHC/2025/019)
- Llwybr imiwneiddio detholus newyddenedigol ar gyfer Hepatitis B (yn weithredol o 1 Gorffennaf 2025)
Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r daflen wybodaeth am y newidiadau hyn yma:
Cefndir
Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis B (HBV) sy’n gallu effeithio ar unrhyw grŵp oedran. Mae’r feirws Hepatitis B (HBV) yn cael ei gludo yn y gwaed a gall achosi llid yn yr iau / afu a gall achosi niwed tymor hir ac weithiau hyd yn oed, marwolaeth. Mae’r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt gwaed i waed, cyswllt rhywiol, trosglwyddo amenedigol o’r fam i’r plentyn ac yn anaml o frathiadau gan berson wedi’i heintio. Mae ganddo gyfnod deori o 40 i 160 diwrnod.
Mae Hepatitis B yn afiechyd hysbysadwy.
Gall Hepatitis B ddatblygu i fod yn gronig. Y diffiniad o Hepatitis B cronig yw pan fydd antigen arwyneb Hepatitis B (HBsAg) yn parhau yn y serwm am chwe mis neu fwy. Mae’r risg o ddatblygu Hepatitis B cronig yn dibynnu ar yr oedran pan gaiff pobl eu heintio. Mae 90% o’r rhai sydd wedi’u heintio yn union cyn neu ar ôl genedigaeth yn datblygu Hepatitis B cronig. Mae’n llai aml ymhlith y rhai sy’n cael eu heffeithio yn blant (mae’r risg ymhlith y rhai rhwng un a phump oed rhwng 20 a 50%) ac oedolion, er bod y risg yn uwch ymhlith y rhai sydd â nam ar y system imiwnedd.
Gall 20 i 25 y cant o’r bobl sydd â Hepatitis B cronig ddatblygu afiechyd cynyddol ar yr iau / afu, a all arwain at sirosis, ac maent mewn mwy o berygl o ddatblygu carsinoma hepatogellog.
Brechlyn
Mae dau ddosbarth o gynhyrchion ar gael ar gyfer imiwneiddio rhag Hepatitis B. Mae imiwnoglobwlin Hepatitis B yn rhoi imiwnedd dros dro a goddefol wrth aros i’r brechlyn ymateb, a’r brechlyn Hepatitis B, sy’n rhoi imiwnedd gweithredol.
Nid yw’r brechlyn Hepatitis B yn cynnwys organebau byw (mae’n anweithredol) ac ni all achosi’r afiechyd. Mae’n cael ei baratoi o gelloedd burum ac yn cael ei weithgynhyrchu gan dechnoleg DNA ailgyfunol.
Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG (brechlyn “6-mewn-1”).
Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Imiwneiddio ar gyfer pobl sydd â risg uchel o Hepatitis B
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei roi fel cynnyrch sengl neu gyfun:
- Hepatitis B (HepB) unfalens: Engerix B® 10 microgram / 0.5ml (Saesneg yn unig), Engerix B® 20 microgram / 1ml (Saesneg yn unig), HBvaxPRO® 5 microgram / 0.5ml (Saesneg yn unig), HBvaxPRO® 10 microgram / 1ml (Saesneg yn unig),
- Brechlyn hepatitis A a B cyfun (HeBHepA): Twinrix® Adult Vaccine (Saesneg yn unig), Twinrix® Paediatric (Saesneg yn unig), Ambirix® (Saesneg yn unig)
- Hepatitis B hecsafalent: Infanrix® Hexa (Saesneg yn unig), Vaxelis® (Saesneg yn unig)
- Hepatitis B ar gyfer cleifion arennol: Engerix B® 20 microgram / 1ml (Saesneg yn unig), Fendrix® 20 microgram / 0.5ml (Saesneg yn unig), HBvaxPRO® 40 microgram / 1ml (Saesneg yn unig)
Dylid dewis cynnyrch brechlyn priodol ar gyfer y claf.
Mae’r cyfarwyddyd o ran amserlen yn y Llyfr Gwyrdd pennod 18 (Saesneg yn unig) yn disodli’r SmPC.
Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Cyfarwyddyd
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (Saesneg yn unig) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI: chwilio e.e. Hepatitis B.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
- Ionawr 2023. Dileu hepatitis (B ac C) fel bygythiad iechyd cyhoeddus: camau gweithredu ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024 (WHC/2023/001)
- Hydref 2017. Cyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer dileu hepatitis (B ac C) fel bygythiad arwyddocaol i iechyd cyhoeddus (Saesneg yn unig)
- 2017. Cyflwyniad i’r brechlyn hecasafalent (“6 mewn 1”) gan gynnwys hepatitis B yn y rhaglen imiwneiddio reolaidd ar gyfer babanod sydd wedi’u geni ar neu ar ôl 1 Awst 2017 (Saesneg yn unig)
- 2017. Newid brechlyn ar gyfer y prif imiwneiddio rheolaidd i fabanod (Saesneg yn unig)
Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy’r dudalen E-ddysgu.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.
Adnoddau clinigol a gwybodaeth
- Llyfr Gwyrdd pennod 18 Hepatitis B (Saesneg yn unig)
- Brechlyn cyfun hecsafalent: cyfarwyddyd rhaglen UKHSA (Saesneg yn unig)
- Hepatitis B: argymhellion brechlyn yn ystod cyfyngiadau cyflenwad (Saesneg yn unig)
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Templedi PGD ar gyfer y brechlyn ar gael ar y dudalen cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Adnoddau clinigol a gwybodaeth bellach
Data a goruchwyliaeth
Mae gwybodaeth goruchwylio brechlynnau ar gael ar y tudalennau isod:
- COVER – Data cenedlaethol am imiwneiddio plant
- Adroddiadau labordy am y feirws Hepatitis B bob wythnos (Saesneg yn unig)
Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd i deithio, edrychwch ar dudalen brechlynnau teithio.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 22ain Ebrill 2026