Brechlyn ffliw - Gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys ar gyfer brechlyn y ffliw
Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i:
- fabanod
- oedolion hŷn
- y rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, a
- menywod beichiog.
Pan fyddwch chi’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, mae gennych ddyletswydd i helpu i atal lledaeniad heintiau – ac mae hynny’n cynnwys y ffliw.
Os ydych chi’n weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol y GIG ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid, mae’n bwysig eich bod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae’r brechlyn ffliw yn helpu i amddiffyn:
- chi
- y bobl rydych chi’n gofalu amdanynt
- y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, ac
- eich teulu.
Mae cael eich brechu hefyd yn helpu i leihau salwch staff ac yn cadw gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol i redeg yn esmwyth. Mae hyn yn bwysig iawn yn ystod misoedd prysur y gaeaf.
Mae’r tabl isod yn dangos pa weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG.
| Pwy all gael brechlyn GIG am ddim? | Ble i’w gael |
| Staff cartrefi gofal sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phreswylwyr (er enghraifft, mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion, cartrefi nyrsio a hosbisau plant) | Mae fel arfer yn cael ei roi mewn fferyllfa gymunedol |
| Gweithwyr gofal cartref (y rhai sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl) | Fel arfer yn cael ei roi mewn fferyllfa gymunedol |
| Gweithwyr gofal iechyd (staff Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau) | Drwy eich adran iechyd galwedigaethol neu gan eich practis meddyg teulu |
Mae pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Cymru yn annog eu staff i gael brechlyn ffliw bob blwyddyn.
Mae gan gyflogwyr gofal iechyd, yn cynnwys practisiau meddyg teulu a darparwyr eraill, gyfrifoldeb i:
- rannu gwybodaeth glir a chywir am y brechlyn ffliw
- annog staff i gael eu brechu, ac i
- gefnogi staff cymwys i gael y brechlyn.
Drwy gael eich brechu, rydych chi’n helpu i amddiffyn y bobl sydd ei angen fwyaf, ac yn cefnogi’r system iechyd a gofal rydyn ni i gyd yn dibynnu arni.
Mae rhagor o wybodaeth i gydweithwyr gofal iechyd yng Nghymru ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru Safle Mewnrwyd Imiwneiddio a Brechu (angen cysylltiad rhwydwaith GIG Cymru).
“Mae’r bobl sy’n dod i’m gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rhan fawr o fy swydd yw sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel – yn emosiynol ac yn gorfforol.
Fel gweithiwr gofal iechyd, mae cael brechiad nid yn unig yn fy amddiffyn i; mae’n helpu i gadw fy nghleifion, ffrindiau, teulu a chydweithwyr yn ddiogel hefyd. Mae’n benderfyniad hawdd i mi.”
Chloe, 27 oed.
Cyfarwyddyd
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
- Y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio – darllen cyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwilio e.e. y ffliw.
- Cylchlythyrau iechyd: 2024 i 2027
- Cylchlythyrau iechyd: 2020 i 2023
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Ffliw – Adnoddau i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
- Adnoddau Gwybodaeth Iechyd – ar gyfer archebu taflenni, posteri ac adnoddau eraill
- Amddiffyn yn erbyn ffliw
- Ydych chi’n weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol?
Gwyliwch: Sgwrs am bwysigrwydd brechlyn y ffliw i weithwyr gofal iechyd
Data a goruchwyliaeth
- Data a goruchwyliaeth
- Goruchwyliaeth imiwneiddio
- Adroddiad Wythnosol am y Ffliw a Haint Anadlol Acíwt
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Ebrill 2026